Iesu ydyw fy Nghreawdwr -Creawdwr uffern, dae'r a ne' Y cwbl hefyd oll a wnaethpwyd Er gogoniant iddo Fe; Ynddo'r cyfan sydd yn sefyll, Ei fysedd yn eu cynal sy; Fy enaid, dyma'r Un a hoeliwyd Draw ar fynydd Calfari.