Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

calonnau

calonnau

A dyna fi, yn hollol anfwriadol, wedi taflu dþr oer ar yr 'ha ha' a minnau wedi bwriadu codi'ch calonnau chi, a f'un innau i'ch canlyn.

Am y gwyddant yn eu calonnau y dylai Cymru fod yn ymreolus y mae ganddynt gydwybod Gymreig na rydd lonydd iddynt, gan wneud gwarth eu hannheyrngarwch yn fwy llidus.

Ond mae Egwyddor Ansicrwydd Heisenberg yn cadarnhau yn awr beth mae'r seicolegwyr wedi ei wybod yn eu calonnau, er na allent ei ddatgan yn glir, sef na all dau berson fyth wneud yr un mesuriad a chael yr un atebiad yn union.

Ond, yn unol â neges Timothy Edwards, Cefn-mein, gwraig weddw a ddychwelodd i Blas Nanhoron y noson honno a'i gwedd-dod annisgwyl hi wedi cyffwrdd eigion calonnau holl weithwyr y Plas ond bod gan bob un ohonynt ei eli'i hun i'w roi ar y briw.

Yr hyn yr oedd yn ei boeni oedd pregethu'r efengyl gan rai nad oeddynt wedi profi Duw yn eu calonnau.

Hoffwn fanteisio'n arbennig ar y cyfle hwn i ddiolch i ddau o'n haddysgwyr amlycaf, yr oedd y Gymraeg yn agos iawn at eu calonnau, am eu cyngor cadarn a'u cefnogaeth barod i waith y pwyllgor ar bob achlysur, sef Mr Illtyd Lloyd (Prif Arolygydd Ysgolion Cymru a ymddeolodd yn gynt eleni) a Mr Gareth Lloyd Jones (Ysgrifennydd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru a fydd yn ymddeol ddiwedd Awst).

Daeth llawer o Iythyrau o gefnogaeth inni, a chododd ein calonnau wrth eu darllen--un gan Arolygydd Ysgolion wedi ymddeol, rnai gan ardaloedd eraill a oedd yn wynebu'r un broblem a mai gan addysgwyr profiadol.

Mae blodeugerdd ddiweddar o gerddi Saesneg a Chymraeg, Poets against Apartheid/Beirdd yn erbyn Apartheid - blodeugerdd sy'n cynnwys peth canu cyffredin iawn, iawn - yn profi fod calonnau pobl yn y lle iawn, a'r lle hwnnw nid yn unig o fewn Cymru erbyn hyn.

Y mae ein calonnau yn gresynu, a'n gwaed Cymroaidd yn ymferwi o'n mewn, pan ystyriwn fod yn mysg puteiniaid trefydd Lloegr liaws mawr o ferched glandeg Cymru, y rhai a fagwyd yn dyner gan deuluoedd crefyddol ar lethrau ei mynyddoedd, ond y rhai sydd yn awr yn dilyn bywyd pechadurus a gwir druenus puteiniaid cyhoeddus; .

A gan fod y sgwrs yma mor ddagreuol, mi ranna i'r gyfrinach efo chi er mwyn codi dipyn ar eich calonnau.

yn eu calonnau am nad oedd llwyfan.

Roedd yn trethu amynedd pob un ohonynt ac nid oedd meddwl y byddai rai iddynt wneud yr un peth, yn ôl pob golwg, am ddwy noson arall yn codi dim ar eu calonnau.

Yn hwnnw eglurwyd pa gyfiawnhad Beiblaidd oedd tros gynnal cyfarfodydd o'r fath ac esboniwyd mai "canu mawl a gweddi%o% ac "agoryd ein calonnau i'n gilydd" oedd i ddigwydd ynddynt.

Mae Manawydan a Llwyd, ill dau, yn adennill yr hyn a oedd yn nesaf at eu calonnau, mae anrhydedd y naill a'r llall heb niwed, ac ni chollir diferyn o waed.

Duw'n unig a wyr beth oedd ymateb y saint yn nwfn eu calonnau wrth i'r straeon a'r dywediadau carlamus arllwys yn un llifeiriant o'i enau.

Serch hynny, y mae'r nod o sefydlu democratiaeth ddiwylliannol a chyfiawn i gwrdd â chyfrifoldeb yr unigolyn tuag at draddodiadau ei genedl yn nod y dylid brwydro i'w chynnal hyd eithaf ein gallu, a thrwy ennill calonnau ac ewyllys y bobl y mae unrhyw beth, dybiwn i, yn bosibl.

Llonnwyd calonnau'r rhai a gredai wrth feddwl bod gobaith am ryw gysgod gwan o deyrnas nefoedd ar y ddaear gyda buddugoliaeth ysgubol y Blaid Lafur.

Cyffyrdded dy Ysbryd Sanctaidd â'n calonnau nes bod gorfoledd yn dygyfor ynddynt a gwefr yr iachawdwriaeth yn troi'n gân ar ein gwefusau.

Ninnau, wedi ein rhyddhau oddi wrth bryderon, gyda thangnefedd yn ein calonnau, yn ymddiried yn Iesu Grist ein Harglwydd, Amen.

Gwelwn ar unwaith mai'r un persona sydd gan adroddwr y bryddest a'r bardd ei hun mewn ambell gerdd arall: wrth gyfeirio, er enghraifft, at hen bobl nad ydynt yn awr ddeifiol hon ond gwefusau carpiog yn y gwynt a'r lleill y calonnau aeddfetgoch a'u chwerthin yn deilchion yn y brwyn a'r gwallt ar chwal.

Tydi a blannodd y dalent yn eu calonnau a gweddus yw inni dy gydnabod Ti yn ddiolchgar am gynnyrch eu doniau.

Gweddi: Tydi, O Arglwydd, a lanwodd ein calonnau ni â llawenydd.

Eu pobl nhw, yn Saeson, Ffrancwyr ac Americaniaid, yw'r cymeriadau lliwgar, herfeiddiol a fu'n brasgamu ar draws cyfandiroedd gan adael ar eu hôl ychydig o oglau alcohol, calonnau chwilfriw a biliau heb eu talu.

Cyffwrdd yr un pryd â'n calonnau ninnau i ennyn ysbryd cenhadol ynom, i'n cynysgaeddu â pharodrwydd i gynorthwyo'r gwaith mawr nid yn unig mewn gwledydd tramor, ond yn ein hardaloedd ninnau yng Nghymru, fel y bo'r gwaith yn ei gyfanrwydd yn ogoniant i'th enw, yn Iesu Grist.