Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

camau

camau

Cewch anfon cynigion i'r Cyfarfod Cyffredinol ar y camau yr hoffech weld y Gymdeithas yn eu troedio, a chynnig enwebiadau ar gyfer swyddi arweinwyr grwpiau a swyddogion.

Rhoddodd amlinelliad o'r camau a gymerwyd i gwblhau'r gwaith, drwy adrodd bod y cynghorau cymuned yn edrych ar y sefyllfa o fewn eu hardal eu hunain ond bod y cynghorau sir a dosbarth yn edrych ar y sefyllfa strategol i ardal ehangach ac felly bod gwahaniaethau barn yn sicr o ddigwydd.

Mae'r busnes wedi gwneud camau breision tuag at ymgorffori ymagweddau mwy blaengar i'w arlwy o wasanaethau, gan gynnwys penodi rheolwr datblygu cynnyrch newydd arbenigol i weithio'n agos gyda BBC Cymru mewn meysydd megis technoleg rithwir a llifo byw.

I hyrwyddwyr ieithoedd lleiafrifol, iaith yw'r symbol grymusaf oll gan ei bod yn elfen hanfodol mewn unrhyw ymgais i godi ymwybyddiaeth a chyflwyno ideoleg, sef y camau cyntaf tuag at greu model o drosglwyddiad iaith a diwylliant hyfyw.

Gellir gweld atyniad yr algorithm genetig - nid oes angen rhaglennu'r camau datrys yn uniongyrchol, sy'n broses faith a llafurus, dim ond diffinio 'DNA' yr 'unigolion' yn ôl y broblem, a chael rhyw ffordd o fesur pa mor dda yw cyfuniad arbennig o'r wybodaeth 'enetig' yn y 'DNA'.

Ni fedrent deithio'n gyflym gan fod y tir corsiog yn arafu eu camau ond cyn hir daethant at gysgod llannerch o dderi ifanc.

Ym Mhrydain gwnaed camau ymlaen ond ar raddfa lai (gweler gwaith megis yr hyn a wnaeth McKee, Martin a Wignal) ond tueddent i adlewyrchu y problemau a godai yn nyfroedd Prydain sydd fel arfer yn oer eu tymheredd ac yn anodd gweld ynddynt.

Cred y Gymdeithas y gall pob damwain yn y gwaith gael ei hosgoi a bydd amgylchiadau unrhyw ddamwain, boed honno yn un a arweiniodd at niwed neu beidio, yn cael eu harchwilio a lle bo modd, cymerir camau gan y rheolwyr i leihau'r posibilrwydd o ddamwain debyg yn ailddigwydd, (a gweler Trefniadau Argyfwng).

Realiti'r sefyllfa yw bod na fesur yn cwblhau'r camau olaf yn Nhŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd a all labelu pob un aelod o Gymdeithas yr Iaith yn derfysgwyr, ynghyd ag aelodau nifer fawr o fudiadau protest di-drais cyffelyb.

Ar y naill law mae'n gofyn hyder a mentro buan; ar y llaw arall mae'n gofyn pwyll a chyfrwystra arbennig wrth gloriannu'r camau priodol i'w dilyn.

mae'r busnes wedi gwneud camau breision tuag at ymgorffori ymagweddau mwy blaengar i'w arlwy o wasanaethau, gan gynnwys penodi rheolwr datblygu cynnyrch newydd arbenigol i weithion agos gyda BBC Cymru mewn meysydd megis technoleg rithwir a llifo byw.

c) Camau i'w cymryd os digwydd Damwain

Nid yw'r camau sydd wedi arwain at dro%edigaeth wleidyddol Harri wedi eu llunio'n fwriadol ofalus yn y lle cyntaf, felly nid yw'n syndod ei fod yn diosg ei blisgyn Comiwnyddol mor hawdd.

Un o'r camau cyntaf a gymerir gan wledydd wedi iddynt ennill ymreolaeth yw pasio deddfau iaith newydd.

Y camau amlwg nesaf yw edrych ar faint o nwyddau'r siopau hyn a wneir yng Nghymru ac ymhle mae buddsoddiadau'r banciau.

Mae CiF wedi parhau i fod yn weithgar ym maes cyffredinol gofal am blant yng Nghymru, ac mae wedi cefnogi'r camau 'Plant yng Nghymru' newydd i ddatblygu corff aml-asiantaeth i hyrwyddo lles plant yng Nghymru.

PENDERFYNWYD hysbysu Cyngor Cefn Gwlad Cymru na fyddai ychwanegu camau biwrocrataidd i'r broses gynllunio yn datrys problem dylunio.

Yn achos y projectau blaenoriaeth, rhoddir amlinelliad bras o'r math o waith y gellid ei gyflawni yn nhermau: a) y broblem i'w hystyried, a b) y camau ymchwil i'w dilyn.

Chwipiai gwynt Ebrill dros Lyn Ogwen gan godi croen gþydd ar fy nghoesau wrth i ni gymeryd y camau cyntaf tua'r cwm - roedd gen i drowsus hir yn y sach cefn rhag ofn!

Ychydig yn uwch i fyny mae Camddwr neu Camau'r Bleiddiaid, bwa naturiol o graig yn pontio'r afon lle'r arferai'r bleiddiaid, yn ôl traddodiad, groesi'r afon o'r mynydd i glydwch y cymoedd pan oedd y tywydd yn arw.

Ond o gymryd y cwricwlwm cyflawn, mae'n bosibl i ddisgybl gael profiad ohonynt yn eu dysgu pynciol;- dealltwriaeth lythrennol ac ad- drefniadol yn y pynciau dyniaethol, dealltwriaeth gasgliadol yn y pynciau gwyddonol; a'r camau beirniadol a gwerthfawrogol wrth ymdrin a llenyddiaeth, celf a thechnoleg.

Ar y Cadeirydd y mae'r cyfrifoldeb dros gymryd camau i sicrhau bod aelodau'r pwyllgor yn teimlo'n gwbl rydd i ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn y cyfarfodydd.

Camau nesaf ar ôl lleoliad

Mae gan nifer o'r camau a nodwyd oblygiadau ariannol iddynt, neu maent yn gofyn am ddarparu adnoddau ychwanegol neu am wneud defnydd gwahanol neu fwy effeithiol o'r hyn sydd ar gael.

camau nesaf

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog perthnasol, i gymryd camau i derfynu gwasanaeth os bydd archwiliad meddygol yn tystio nad yw swyddog yn atebol ar gyfer y swydd ar ôl sicrhau na all ymgymryd â swydd ysgafnach os bydd un ar gael.

Fel mam, yn naturiol, 'dwi yn llawn dyheadau a gobeithion wrth iddo fentro i'r sustem addysg a chymryd un o'r camau mwyaf yn ei fywyd.

Mae'r camau diweddaraf hyn wedi uno cenedlaetholwyr o bob math gyda chynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol, ynghyd â mudiadau eraill, yn cynnal protest enfawr yn Donostia yn erbyn y penderfyniad i gau'r papur newydd.

Mae angen cymryd camau breision ymlaen yn awr o ran hybu cydweithrediad rhwng cylchoedd o ysgolion gwledig cyfagos i'w datblygu fel unedau academaidd cryf.

Mae angen i'r BBC ddatblygu camau nesaf y broses o drosglwyddo BBC Radio Wales i FM ar fyrder, i'w wneud yn fwy cystadleuol, ac o ran radio digidol, gwna'r Cyngor bopeth posibl i gefnogi nod pendant BBC Darlledu o ddarparu BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru digidol ar yr un pryd â fersiynau digidol gwasanaethau rhwydwaith y BBC.

Gobeithio erbyn diwedd y flwyddyn hon y gallwn ddatgan fod camau pendant wedi eu cymryd yn yr ymgyrch hon.