O sôn am sisial a siarad, dylid egluro bod gan Doctor Jones ei Gymraeg arbennig ei hun, gyda'i reolau ei hun wrth dreiglo geiriau, a'u camdreiglo'n ogystal.
Yn ein plith ym Mangor yr oedd myfyriwr o'r enw Henry Aethwy Jones, brawd o Lerpwl, a feddai gyflawnder tra helaeth o hunanhyder, ac un a fentrai drafod ei athrawon fel cydradd, a hynny mewn Cymraeg oedd yn camdreiglo'n rhyfedd.