Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

camel

camel

Daeth Bedwin ar gefn camel i'r gwersyll un prynhawn mewn brys gwyllt i ddweud bod patrol yn symud yng nghyfeiriad gwarchodwyr y criw, a'i fod wedi aros, am y noswaith mae'n debyg, rai milltiroedd i ffwrdd.

Mae'n gwarchod llygad y camel rhag gronynnau o dywod sy'n hedfan yn awyr y diffeithwch.

Clymwyd garddyrnau Dai Mandri a rhaffwyd ef wrth y camel olaf yn y rhes ac i ffwrdd â nhw ar frys, y camelod yn trotian a Dai hefyd yn gorfod tuthio yn anesmwyth tu ôl iddynt.

Roedd yr efail a'r morthwyl a'r cwdyn o farrau haearn ar gefn y camel olaf, druan.

Fe gawson ni ein bygwth tra'n ceisio ffilmio gŵr oedd wrthi'n torri camel yn ddarnau, yr anifail wedi'i rannu'n goesau, pen, gwddf a thafelli o gig coch ac ar fin cael eu hongian ar un o stondinau prysur y farchnad.

Aethant i lawr i'r gorllewin, heibio i'r balmwydden, tuag at y bwlch yn y ceunant sych lle'r oedd y llwybr camel yn hollol anaddas i fodur.