Byddai eu hôl i'w weld am ugain mlynedd o bosibl, ond ni fyddai dwst gwyntoedd yr anialwch yn hir cyn dileu ôl traed y camelod.
Daeth cyffro sydyn i'r pebyll; dadwersyllwyd mewn byr amser ac yn syndod o fuan roedd y cwbl wedi ei bacio ar gefnau'r camelod, a rheiny'n protestio yn eu ffordd arferol yn erbyn gorfod codi oddi ar eu pen-liniau.
Mi fyddai'n nosi cyn hir; tir anhysbys oedd llwybr y camelod ac roedd y petrol ar fin cyrraedd pwynt dim dychwelyd Roeddent eisoes wedi treiddio ymhellach i'r anialwch nag y gwnaeth neb mewn modur o'r blaen.
Hyd yn oed o bell awgrymai coethder a lliw harnais y camelod fod y bobl ddieithr hyn yn abl i dalu, argraff a gadarnheid gan feinder y defnydd gwlân a wisgai eu cennad.
Clymwyd garddyrnau Dai Mandri a rhaffwyd ef wrth y camel olaf yn y rhes ac i ffwrdd â nhw ar frys, y camelod yn trotian a Dai hefyd yn gorfod tuthio yn anesmwyth tu ôl iddynt.
Cyn i'r garafa/ n camelod gyrraedd y balmwydden cychwynnodd y criw ar ei hôl, gan redeg a gweiddi.
Ras dros bum milltir fel arfer ac mae'n werth i'w gweld gan fod y camelod mor fawr ac yn medru symud mor gyflym.
Am ryw reswm, mae dwr yn tarddu yno, gan roi inni fyd hollol wahanol ar ei union Yn Oman y gwelais i rasus camelod am y tro cyntaf - a dyna ichi olygfa ydi honno.