Nid trwy adael i'w tlysau hel llwch yng nghypyrddau'r Stiwt y mae anrhydeddu campau bechgyn yr ardal siawns!
Bum yn llygad dyst i'r campau hyn fwy nag unwaith.
LOGO I CIC Ffurfiwyd Clwb i'r Campau (CIC) yn Steddfod Llambed.
mae'r arian loteri wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol mewn rhai campau - athletau, hwylio a rhwyfo yn arbennig.
Ond er cystal campau Cymru ddoe mi fydd yn rhaid iddyn nhw wella'u chwarae'n sylweddol yn erbyn Yr Almaen.
Mae'n dathlu campau'r gwyddonwyr ymhob maes, hyd yn oed yr ymdrech gyntaf i greu bywyd dynol mewn testiwb.
'Dydw i erioed wedi gallu chwerthin am ben campau unrhyw glown a 'does yna'r un slepjan (mae'n ddrwg gen i, Syr Wynff a Plwmsan) na phei gwstard wedi gallu gwneud imi wenu hyd yn oed.
O fewn y wlad gaeedig hon daeth y bechgyn i ddygymod â byw garw yr heliwr a'r Pen Cynydd gan ddysgu campau gwyr llys ac ymaflyd codwm.
Edrychai Rhys ymlaen at yr amser pan gâi o ymuno yn sgwrs y bechgyn, gan frolio campau ei gi o.
Myfyrwyr yn gwneud campau gymnasteg y buasai unrhyw syrcas yn falch ohonyn nhw.
Yn y modd hwn, fel yn rhyfeloedd Napoleon a rhai ein canrif ni, a'r Cymry yn falch o'u campau mewn cydweithrediad â'r Saeson, fe'u tynnwyd yn nes atynt; er i'r Cymry gartref barhau i deimlo yn o fileinig o wrth-Seisnig, fel y gwelir yng ngwaith y beirdd.
Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.
Roedd o am wybod sut i ddysgu campau i gi.
Ond gwelsom fod y coleg yn disgleirio ac yn cynnig hyfforddiant o'r safon uchaf mewn campau fel rygbi, pêl-fasged, pêl-rwyd, athletau, criced.