'Campus.
Mae'r erlyniad yn disgwyl y talaf £40 iddynt am eu gwaith campus.
Y mae'n ddiwinydd praff, yn esboniwr diogel, yn bregethwr campus, ac yn weinidog ffyddlon yn holl waith ei swydd.
Mae Caerdydd ar rediad campus ar hyn o bryd.
Cafwyd batiad campus gan yr Awstraliad Jimmy Mahler – 71 oddi ar 82 pelen, gan gynnwys 8 i'r ffin.
...paham mae cymaint o ysgrifenwyr galluog yn Nghymru, yn ysgrifio traethodau campus; ac hefyd yn llanw y cyhoeddiadau misol â gweithiau talentog (heb gael na Choleg, nac Athrofa, nac hyd yn oed ddiwrnod o Ysgol) mwy nâ'n cymydogion yn Lloegr, a'r Iwerddon, a gwledydd eraill?
Gwelwyd Alex Wharf yn arwain y ffordd gyda ffigurau campus o dair wiced am 18 oddi ar ei ddeg pelawd.
Campus ar dywydd fel heddiw, debygwn i.
Dewch i wybod mwy am y côr cymysg campus hwn a sut i ymuno.
Gresynodd Lewis at agwedd unllygeidiog a chyfyngus beirniaid mewn perthynas a'r hen feirdd: 'Dywedir mai seiri campus oeddynt ar syniadau traddodiadol.
Yn wobr am ei waith campus mae Leigh Jones wedii wahodd i ymuno âr tîm hyfforddi cenedlaethol.
Yr oedd yn grefftwr campus fel y tystia'r degau o gabanau, gelltydd a chobiau a welir yma ac acw hyd wyneb y chwarel heddiw.