Wedi camu drwy'r drws yn y wal goncrid-flocs, neu'n hytrach drwy'r agendor lle buasai, gan ei fod wedi cwympo ar ei ben i'r llaid yng ngenau'r twnnel, tynnwyd llun arall o Eluned a minnau - y tro hwn, yn fwy llwyddiannus, ar gamera wincad llygad llo David Lewis, sy'n dangos yn amlwg ein bod yn falch o'n gorchest yn dwyn y cerdyn.
Rhyw olygfa debyg i'r Tsiena'r ffilmiau, bron fel camu'n ôl mewn amser.
Dal i'w hanwybyddu a wnaethom nes gweld, er mawr ddychryn inni, ei bod hi'n dod allan drwy'r ffenestr ac yn camu ar do y cwt bychan a safai dan y ffenestr ac a redai i lawr o fewn ychydig i lefel yr iard.
Mynd i'r Brifysgol yng Nghaeredin fu fy hanes y flwyddyn ddilynol a chan fod Dafydd Wyn, fy mrawd hynaf, newydd raddio o'r Royal (Dick) Veterinary College yno, yn y mis Gorffennaf cynt, roeddwn innau'n medru camu i'r gymdeithas Gymraeg yr oedd ef yn gybyddus â hi.
Roedd traed Miss Aster yn camu'n drwm wrth fy ochr (roedd ei sgidiau bob amser yn pwyso braidd i'r ochr dde) a syllai yn ei blaen, mewn distawrwydd, fel peilot â'i holl feddwl ar lywio'i long.
Mae'r Cyngor yn fodlon bod BBC Cymru wedi camu ymlaen yn erbyn yr amcanion a bennwyd ar gyfer 1998/99.
Ond yn ystod ac ar ôl yr Ail Rhyfel Byd, gwelwyd chwyldro arall yn camu ar draws cefn gwlad Cymru ac yn wir ar draws y rhan helaethaf o'r Byd Datblygiedig - sef yr Ail Chwyldro Amaethyddol - chwyldro oedd yn aml mewn gwrthdrawiad ag egwyddorion cynaladwyaeth.
Awgrymodd y dyn camera y byddai'n ddarn mwy trawiadol pe bai modd gweld blaen gwn un o'r pedwar gwarchodwr arfog yr oedden ni wedi'u llogi cyn camu o'r awyren.
Roedden ni'n gorfod arwyddo llyfr ac yna camu'n ôl ac wrth wneud hynny peth naturiol oedd troi rownd ond, wrth ichi droi rownd, roedd yna ddau neu dri o aelodau o'r militia yn eich wynebu chi ac mi oedd gynnon nhw Kalashnikovs a phetaen nhw ddim yn leicio'ch wyneb chi neu ddim yn ymddiried ynoch chi, mi fyddai'n hawdd iawn iddyn nhw eich lladd chi.
Bob yn dipyn, fe fyddai'n dechrau camu'r haearn o fod yn ddarn unionsyth i fynd yn raddol yn gylch.
Dyma nhw'n ein gwahodd ni i mewn i'r eglwys a, hyd yn oed mewn ardal oedd yn uffern ar y ddaear yr adeiladau wedi'u difrodi, tlodi aruthrol - dyma ni'n camu i mewn i'r eglwys a dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi profi heddwch fel yna mewn lle fel yna erioed o'r blaen.
Roedd golau gwan y lleuad yn help iddynt weld ei amlinell fel y safai am ennyd yn y fynedfa cyn camu i mewn rhwng y muriau.
Felly roedd cerdded i lawr strydoedd y brifddinas Phnom Penh, fel camu nôl i'r pumdegau pan oedd y Ffrancod yn tra-arglwyddiaethu yn yr ardal.
'Dere,' meddai Ifan a'i law yn dal ar fraich Dilwyn, 'mae Dad wedi cyrraedd.' Cododd y ddau a ffarwelio â'u ffrindiau cyn camu tua'r drws.
Gweld ei mam yn agor y drws iddo, ac yntau'n camu i mewn i oleuni'r ystafell, yn fersiwn hŷn o Marc.
Toc, mentrodd agor cil ei llygaid i edrych yn llechwraidd o'i hamgylch, gan ddisgwyl gweld rhywun yn camu o'r tywyllwch.
Yna, ildiodd yr handlen i Rhys, 'Cofia beth dw i 'di deud wrthot ti a chymer ofal ohoni.' Anwesodd Mali cyn camu'n ôl i'r tŷ a sefyll yn y drws.
Roedd Meic fel pe bai wedi camu i mewn i groen person arall.
Y peth ydw i'n geisio'i ddweud ydi hyn: petawn i wedi mynd yn dwrne, neu yn athro, neu yn ocsiwni%ar, mae'n eitha posib y buaswn innau heddiw ymhlith y nifer fawr sy'n wfftio at y syniad o ysbryd, da neu ddrwg, ac at unrhyw fath o fodau sy'n gallu camu nôl ac ymlaen o'r byd yma i'r byd tu hwnt i'r llen.
Yna gostwng ei ben cyn camu allan i'r awyr agored.
Ond prin yr oedd wedi camu deirgwaith pan ysgwydodd y tū hyd at ei seiliau, wrth i'r drws gael ei ddymu'n ddidrugaredd ac wrth i lais bariton anferth daranu dros y lle.
A robin yn camu fel esgob gan stwytho a lledu godre'i blu.
Gwylient y llafn o olau yn goleuo'r twll, yna'r dyn yn camu'n ofalus i mewn iddo.