Drwy gyfrwng pelydrau X, y microsgop electron eu'r microsgopion, mae'n eithaf hawdd canfod lleoliad yr atomau mewn solidau syml.
Mae'n bwysig fod y rhai sy'n darparu gwasanaethau dwyieithog yn canfod gwerth o'u hymdrechion.
Wrth agor yr iet, a throedio trwy'r stecs sy ym mhob adwy, maen clo ar waith y dydd oedd canfod ymysg olion mynd a dod ôl olaf y fuwch ddi-ras na ddychwelai mwy.
Yn ein rhan ni o'r cosmos mae un math o ronynnau, ond y mae'n bosib canfod a chynhyrchu gwrth-ronynnau (electron/positron) ac fe ddichon bod nifylau a galaethau i'w cael rywle yn y gofod wedi eu gwneud o chwith-fater neu wrth-fater.
Tynnodd ei lun a cheisio canfod oedd gan y bachgen deulu yn dal i fyw yn lleol.
Gellir canfod yn y newid mawr a ddigwyddodd yn y lleoedd y bu+m i'n byw ynddynt mai brwdfrydedd a chefnogaeth y rhieni gan mwyaf a barodd fod ysgolion Cymraeg ynddynt bellach.
Dyma ddeuoliaeth glasurol Methodistiaeth Calfinaidd - ffydd emosiynol oedd yn ffynnu o'r galon, ond ffydd oedd â phrofion ohoni i'w canfod gan reswm ym mhob man yn y byd allanol, unwaith yr oedd llygad y galon wedi'i hagor i'w gweld.
Lle cynt y darluniwyd Crist 'yn un â phridd y ddaear' a'i adael ar hynny, bellach daethpwyd i'w gynysgaeddu ag enaid ac i synio amdano fel 'Iesu rhydd', fel un (a defnyddio iaith Peate am y tro heb egluro dim arni) wedi canfod ei enaid a thrwy hynny sicrhau anfarwoldeb iddo'i hun.
Hawdd canfod, fellym y gallai'r blynyddoedd hyn fel ffoadur mewn gwlad bell fod wedi cryfhau'n rymus y dylanwadau blaenorol hynny a droes Richard Davies yn Ddiwygiwr eiddgar.
Pleser oedd canfod fod yma ddarpariaeth ar gyfer athletwyr cadair olwyn.
Yn y rhifyn cyntaf cyhoeddwyd erthygl gan Peter Bailey Williams, oedd wedi canfod "y gelyn yn brysur wrth ei waith", yn nes at adref, sef ychydig o filltiroedd i lawr y ffordd o'i blwyf ei hun, yn nhref Caernarfon.
Gadawodd y cenhadon eu hôl yn ddigamsyniol ar y Casiaid, ac mae olion eu heefengylu brwd i'w canfod o hyd yn yr eglwysi, yr ysgolion, a'r ysbytai, heb sôn am barlyrau lle cenir 'Mae gen'i dipyn o dž bach twt' a lle bwyteir bara brith ac yfed te o lestri sabothol yr olwg.
Ddiwedd yr ail hanner cafwyd patrwm tebyg gyda Daniel Gabbidon yn canfod y rhwyd gydag ergyd dda wedi 85 munud.
Ceisio canfod ateb i'r cwestiwn hwn yr oedd Reffaris (Eryri a Tonfedd/S4C) nos Sadwrn.
Ac o sylwi ar natur farddonol y lluniau, nid yw'n syn canfod mai un o arwyr mawr Bert Isaac yw Ceri Richards, yr artist o Abertawe a oedd yn un o'i ddarlithwyr yng Ngholeg Celf Caerdydd.
Yn y tymor byr, byddai pwyslais gwaith y swyddog ar blant a oedd a phroblemau caffael iaith, am amrywiol resymau; f) bod yr Uned Iaith yn casglu gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael, er mwyn canfod sut yr oedd awgrymiadau'r Gweithgor Cynradd yn cydlynu â chynlluniau'r Uned Iaith; ff) bod angen datblygu gwaith yr Athrawon Bro yn y maes dysgu ail iaith; Pwysleisiwyd rôl yr Athrawon Bro droeon.
Bydd Terry Yorath yn canfod heddiw a oes dyfodol iddo fel hyfforddwr yn Bradford.
Yn y tyllau hyn bydd nyth diddos o laswellt yn gymysg â blew'r fam, a bydd hithau yn mynd yno bob nos i roi llaeth y frest i'r cywion ac wrth ymadael yn gofalu cau ceg y twll gyda phridd fel nad yw'n hawdd canfod y fynedfa.
Wrth deithio i lawr yn y tren i Lundain gobeithiai Hector fod ei gyd- deithwyr yn canfod arno arwyddion teithiwr profiadol, ac yntau wedi gosod label 'PARIS' yn amlwg ar ei fag.
Bu Ffrainc yn ddyfal iawn yn canfod tywysogion fyddai'n rhoi eu cefnogaeth i Bab newydd Avignon.
Ysywaeth, gyda'n bod yn medru cynnig gwasanaeth Canfod Arian (FUNDERFINDER) trwy gyfrwng rhaglen gyfrifiadur golygodd y cynnydd sylweddol yn nifer yr ymholiadau nad oedd yn bosib wedyn i ymateb i gais o fewn tri diwrnod.
Ychydig syn gallu canfod y bylchau i ddryllio ac yn sgîl hynny cant eu taclo i'r tir neu dros yr ystlys.
Anffodus a dweud y lleiaf fyddai peidio â'i ddarllen ac yna canfod i ni wneud camgymeriad o'r mwyaf.
Syniad arall a gafwyd oedd "homologous structures" - nid oedd adlewyrchiad nag adgynhyrchiad yn digwydd rhwng y broses uwch- ffurfiannol a realiti'r sylfaen economaidd, ond yr oedd y strwythurau yn 'cyfateb' i'w gilydd, a gellid canfod y gyfatebiaeth hon trwy ddadansoddi.
A oes rhaid rhaglennu'r holl gyfarwyddiadau y mae angen eu dilyn i ddatrys problem, yntau a oes dull arall yn bosibl - lle bydd y cyfrifiadur yn canfod ateb i'r broblem ar ei liwt ei hun?
"Beth wyt ti'n ei wneud?" "Ceisio canfod union ganol dy deyrnas di." "I beth felly?" "Am mai uwchben y fan honno y mae'r dreigiau'n ymladd.
Cawsai Tomos yntau olwg gefn-dydd-golau ar y ci'n ddiweddar, ac yna'n fuan roedd wedi canfod ei olygon cul a choch yn deifio'r nos.
Eich tasg yw canfod beth a ddigwyddodd a pham a cheisio meddwl am ffyrdd o leihau'r effaith y gall llifogydd ei gael ar fywydau pobl.
Dro ar ôl tro gellir canfod nai%frwydd rhyfedd yn ei agwedd at y byd a'r betws.
Roedd hi'n anhygoel canfod fod Siwsan Pwllheli ar y kibbutz yn gweld y byd trwy lygaid Cymreig ac Iddewig tra bod Siwsan Porthmadog ym Methlehem yn gweld y byd trwy lygaid Cymreig ac Arabaidd.
Ar y cyfan, traddodiadau mewnblyg sydd i'w canfod yng Nghymru.
Egyr y gyfrol gyda A Dyfod Adref yn Ddigerydd, stori am dri bachgen sy'n crwydro o wers rygbi yn yr ysgol ac yn canfod hen dy diarffordd.