Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

canfyddir

canfyddir

Canfyddir yr un syniad o undod hefyd mewn cyfeiriadau at warchodaeth gwraig dros ei theulu neu feistres dros ei morynion neu fam dros ei phlant.

Hefyd, drwy gyfyngu cymaint o oleuni mewn lle mor fach, canfyddir fod pwls o oleuni yn byrhau drwy groesi'r laser.

Wrth drafod ei ffawd canfyddir yn yr History adwaith Maredudd i chwilfrydedd ei garennydd pan symudodd i'r cwmwd anghysbell hwnnw.

Canfyddir y fath amrywiaeth annisgwyl o bryd a gwedd a gwep sydd gan y rhan o'r greadigaeth y cuddir ei neilltuolrwydd unigol gan y meysydd.

Fe lyncai fywyd mewn rhyw fath o fodlonrwydd tawedog, a gwario golud ei eiriau ar fan bethau achlysurol nas canfyddir yn gyfferedin.

Fe'i canfyddir yn ymlyniad selog yr arweinwyr milwrol Cymreig wrth y goron Seisnig yn rhyfeloedd Ffrengig y bedwaredd ar ddeg a'r bymthegfed ganrif.

Canfyddir y delfryd yn eglur iawn yn Il Cortegiano gan Castiglione lle y disgrifir prototeip y gŵr bonheddig perffaith, sef y cortegiano amryddawn ac eang ei gyraeddiadau a fagodd chwaeth at ddysg, celfyddyd, a bywyd cyhoeddus.