Cododd y ffrae fywaf dychrynllyd rhwng Eproth ac Ynot (dau hen elyn, debyg iawn) a rhwng Nosliw'r Gweinidog Bwyd a Chynhaliaeth, a Thaeh, y Canghellor.
Gwrthun iddynt oedd y syniad o Keine Experimente (dim arbrofi) a oedd yn un o hoff ddywediadau'r canghellor hirhoedlog Konrad Adenauer.
Gallai Cela Trams redeg y lle, a thalu cyfran go dda o'r elw i'r Trysorlys: byddai hynny'n siŵr o ennill cefnogaeth y Canghellor a hawdd fyddai darbwyllo'r bobl y byddai N'Og mor gyfoethog o hyn ymlaen fel y gallai pawb wledda ar fwydydd llawer mwy blasus a maethlon na wynwyn.
Ac er nad oedd gan y Canghellor Kohl fawr o amynedd â'r 'twristaid cydwybod' a ddenwyd yno yn sgil hyn, roedd hi'n yrnddangos fod y gweithredu'n dwyn ffrwyth.