Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

caniatad

caniatad

Cadarnhaodd Donal Lenihan, rheolwr Llewod 2001, ei fod wedi siarad â Graham Henry, ac iddo orfod cael caniatad Undeb Rygbi Cymru i wneud hynny.

Yn y sefyllfa honno yr oedd Rondol yn yr hanes gan Pitar Wilias, ar wahan mai enwau dychmygol a ddefnyddiodd o yn ei ddarlith oherwydd i 'nhaid wrthod rhoi caniatad iddo ddefnyddio ei enw fo a Nain, ac am y tro cynta dyma gyfle i chi gael y stori fel yr oedd.

Hoffai pawb hefyd ddiolch i Myrddin Jones, "Dinas", William Williams, "Lon Isa% ac Eric harper, Tŷ Newydd am eu caniatad parod iawn i gael mynd ar eu tir.

Mae'r clwb wedi cael caniatad i chwarae eu gemau cartre ble bynnag medran nhw ddod o hyd i gae tu llan i ardal y gwaharddiad.

sicrhau fod y drefn gynllunio yn gwasanaethu'r gymuned leol, bod tai newydd yn diwallu anghenion lleol, ac na roddir caniatâd i gynlluniau a fyddai yn niweidiol i'r gymuned yr iaith Gymraeg neu'r amgylchedd.

Ni chaiff Ecstract o'r fath fod yn hwy na phedwar munud a dylid cael caniatad yr Artist os y bwriedir i'r Ecstract wawdio'r Artist neu ei berfformiad neu os yw'r Ecstract o natur rywiol amlwg.

Y gwir amdani yw y galle'r awdurdodau gymryd eich trwydded deithio chi a fi, a dweud wrthon ni i le o fewn gwledydd Prydain y cawn deithio, a sicrhau fod awdurdodau gwledydd eraill yn gwrthod rhoi caniatâd i ni fynd mewn i'w gwlad.

diddymu pob caniatâd Cynllunio sydd dros ddeg oed ac nas gweithredwyd arno.

Cyfeiriwyd at y drefn yn y Pwyllgor Cynllunio lle adroddwyd bod sylwadau'r Cyngor cymuned yn cael sylw ym mhob achos ac os nad ydynt wedi ei derbyn, rhoddir caniatad yn ddarostyngedig i sylwadau derbyniol oddiwrth y Cyngor cymuned.

Gan fod Cardi wedi lladd bron i bob planhigyn yn y ty - gan arbenigo mewn planhigion Yukka - maen amlwg nad oes caniatad iddo ef fynd i'r lolfa o gwbl pan fyddwn ni allan neu byddai'r goeden yn ufflon.

Cofiwch eich bod yn wastad yn gofyn caniatad rhywun mewn oed cyn cymryd unrhyw beth o'r gegin.

Eisoes mae Cyngor Dinas Bangor wedi gwrthod rhoi caniatad cynllunio i godi siopau ar y cae er mai gan Gyngor Arfon y mae'r hawl terfynol.

Mae John Deveraux, oedd yn nhîm Cymru yn y Gystadleuaeth Cwpan y Byd ddiwetha, ac sy'n awr yn chwarae Rygbi Undeb i Benybont, wedi cael caniatad ei glwb i chwarae yn gêm ddydd Sul.

Cafwyd caniatad gan Bwyllgor Y Neuadd Gymuned i Gangen Yr Urdd gael defnyddio'r Neuadd Gymuned yn ddi-dal hyd y Nadolig i gael cynnal eu cyfarfodydd fydd yn dechrau fis Medi.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am weld Cyngor Ynys Môn yn mynd i'r afael â'r broblem hon ar unwaith drwy wneud ymchwil manwl a pharhaol ym mhob cymuned i'r angen lleol am dai ac eiddo gan lunio strategaeth fanwl i ddiwallu'r anghenion hynny oddi mewn i'r stoc tai ag eiddo presennol ac wrth ddiddymu pob caniatâd cynllunio sydd dros ddeng mlwydd oed ac nas gweithredwyd arno.

Ond yn dilyn apêl mae Maroon wedi cael caniatad i chwarae yn y bencampwriaeth.

Yr oedd yn ddarllenwr brwd ac yn hanesydd naturiol, a byddai ymweld â chartrefi Cymru yn fwynhad pur - mangre geni John Pugh yn New Mills, beddrod Ceiriog yn Llanwnnog; Gregynog, cartref wyresau David Davies Llandinam; a chael caniatad y Dr Glyn Tegai Hughes (y pryd hynny) i weld y gerddi hyfryd.

Ar fore heulog braf codwyd baner y Ddraig Goch y tu allan i'r senedd-dy yn dilyn caniatad gan Lefarydd y senedd, y Gwir Anrhydeddus Jonathan Hunt, i'r faner chwifio yno gydol y diwrnod.