Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

caniatau

caniatau

Mae gwesty yng ngogledd Cymru wedi gwyrdroi polisi dadleuol o wrthod caniatau i'w staff siarad Cymraeg.

Nid drame de these sydd yma ond darlun sy'n caniatau i emosiynau cymysglyd dyn redeg yn rhydd.

Methodistiaid yn caniatâu i ferched fod yn weinidogion.

(Esboniwyd wrthym ar ol hynny nad oedd y gyfraith yn caniatau i unrhyw silff mewn siop fod yn hollol wag.) Mewn un cornel o'r ystafell safai dau giw hir o bobl yn ddistaw ac yn llonydd.

Cynigiodd gyfaddawd sef derbyn canlyniad y cyfri â llaw yn Florida heb fynd i gyfraith pe baen nhw'n caniatau i'r cyfri hwnnw'n barhau.

Nid yw'n cynnig atebion rhwydd i ni ynglyn â sut i fynd ati i drefnu'r Gymraeg yn y Cynulliad, ond mae'n dangos pa mor bwysig yw paratoi yn drylwyr i gael sustem effeithiol o'r diwrnod cyntaf un: sustem sydd yn caniatau iddi fod yn hollol ymarferol a phriodol i ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ym mhob agwedd o fywyd y Cynulliad.

Roedd set Julian Williams yn set eang ac yn caniatau i'r camera ddangos eangder oeraidd y gweithdy a'r posibilrwydd o bobl yn llechu yma a thraw.

PENDERFYNWYD caniatau'r cais gyda'r amodau canlynol:- (a) Manylion ystad.

Clywid dadl gref a chyffredin na ddylid caniatau unrhyw iaith ond Saesneg, rhag gwanhau awdurdod y wladwriaeth.

Un o bynciau trafod y Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd yw tocynnau yn caniatau mynediad didramgwydd i gymar pob aelod.

Mae'r amaethwr da yn drefnu hefo'i beiriannau, ei had a'i wrtaith ac yn barod i gychwyn pan fo'r tywydd yn caniatau.

Buasai'n rhythu ar y mynd a'r dod o'i amgylch, eithr nid i'r fath raddau nes caniatau i unrhyw un arall achub y blaen arno a chipio'i gar.

Iaith Ryngwladol Cerdd Ar nodyn mwy dadleuol, fe ddatgelir bod Towyn Roberts o'r farn y dylid caniatau i gantorion sy'n cynnig am ei Ysgoloriaeth ganu eu caneuon yn yr iaith wreiddiol yn ogystal â'r Gymraeg.

Ffurfio'r mudiad 'Adfer'. Methodistiaid yn caniatâu i ferched fod yn weinidogion.

O'r tueddiadau hyn, y canol yw'r un sydd fwyaf derbyniol o safbwynt datblygiad pynciol a ieithyddol y plentyn gan ei fod yn caniatau bratiaith wrth archwilio syniadau mewn grwp, ond yn arwain y disgybl hefyd, i gyfeiriad iaith fwy safonol mewn sefyllfaoedd dosbarth cyfan mwy ffurfiol.

Fydden ni ddim yn caniatau plannu cnydau os na fydden ni'n hyderus nad ydyn nhw am wneud drwg i bobol, anifeiliaid na'r amgylchedd.

Clywodd y llys ei fod wedi caniatau i fandiau roc ymarfer yno er fod Cyngor Conwy wedi cael gorchymyn llys yn Awst 1998 i'w atal rhag creu swn.

Gwrthodwyd caniatau i'r garfan ymarfer yn Stadiwm Genedlaethol Armenia y bore yma.

Ni byddai fy nhad yn caniatau i ni'r plant gario clecs neu glaps am neb o aelodau'r capel nac am unrhyw un o'r trigolion.

Mae'r Uchel Lys ym Mhortiwgal wedi caniatau cais Ffrainc i estraddodi dyn sy'n cael ei amau o lofruddio myfyrwraig o Brydain.

Nid yw arddull stiwdio y cyfnod a chyfyngder y set yn caniatau i hyn ddod trosodd mor glir.

(iii)Caniatau'r ceisiadau canlynol dan yr amodau a nodir ar eu cyfer yn y Gofrestr Ceisiadau:- Cais amlinellol - newid defnydd tir gwag ar gyfer diwydiant Cais llawn - arwydd wedi ei oleuo'n allanol Cais llawn - estyniad i falcon Cais amlinellol - tŷ annedd Cais llawn - manylion mynedfa a ffyrdd ystad, ac ail-leoli cyffordd ffordd gyhoeddus ar gyfer parc bwyd/amaeth gyda lladd-dŷ (Datganwyd diddordeb yn y cais hwn gan y Cynghorydd JR Jones ac ymneilltuodd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).

Pan fydd arian yn caniatau bwriedir cyflogi Swyddog Maes arall.

Mae'r awdurdodau wedi gwrthod caniatau iddyn nhw gofrestru bachwr newydd cyn y gêm.

Os byddwch yn absennol am fwy na saith niwrnod calendr byddwch yn cyflwyno tystysgrif meddygol a bydd gofyn cael tystysgrifau meddygol pellach nes y bydd tystysgrif terfynol yn caniatau i chi ddychwelyd i'ch dyletswyddau arferol.

Roedd amodau y grant hwn yn caniatau cynhyrchu deunydd dwyieithog gyda chyllid y grant.

Sef teulu Lewis Jones, teulu William Rowlands a teulu John Pugh, pan fyddai'r tywydd yn caniatau iddynt ddod.

Mi fyddai hyn yn caniatau i'r Cyngor ddarparu cyfleusterau ar gyfer y gymuned hefyd drwy ddefnyddio arian o'r sector preifat.

Cristion, sydd yn ei ddramau ond ymdrech i greu sefyllfa haniaethol sydd yn caniatau i fygythiadau ac ofergoeledd a chymysgwch meddwl y byd real chwarae'n rhydd yn y dychymyg.

wrth bwyso ar un o'r allweddau, yr oedd y pwynt cyferbynnol yn cael ei godi yn ddigon agos at yr olwyn fel bod ei bin yn ei gyffwrdd ar y cylchdro nesaf o'r olwyn, a thrwy hynny yn caniatau i drydan lifo drwy'r cysylltiad.

Iach am ei bod yn tynnu gwen i wynebu gwylwyr gan bortreadu pobl yn herio'n hamgylchiadau yn lle caniatau iddynt eu llethu'n llwyr.

Trueni nad oedd y system sain yn caniatau inni bod amser werthfawrogi ei holl ysblander.

Dywedodd rheolwr Leeds, David O'Leary, na ddylsai'r dyfarwr fod wedi caniatau'r gôl.

Roedd y cynhyrchiad, felly, i fod i greu llun oedd yn caniatau inni ddarllen meddwl Ifans; ofn y genhedlaeth hŷn o offer mecanyddol, o fod allan o waith wrth gael eu sarhau gan newydd-ddyfodiad di-grefft sydd yn medru defnyddio'r offer hwnnw; ofn agweddau newydd o ddiffyg parch; ofn ffyrnigrwydd caled, hyderus y to newydd a chymysgedd meddwl ynglŷn a Chrefydd - a yw'r Giaffar yna i wrando ar yr holl gwynion hunan-aberthol?