Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

canllath

canllath

A chlywed am yr hwch a'i pherchennog wnaeth o, ar y cynta', yn hytrach na'u gweld nhw, ac o ganlyniad, bu'n rhaid i'r ddau duthio ar ôl y bus am gryn hanner canllath neu well cyn cael mynediad iddo.) Gwaith digon dyrys oedd cael hwch i ddal bus o dan amgylchiadau cyffredin ond pan oedd honno â'i hanner ôl wedi'i glymu mewn bag peilliad roedd y gorchwyl yn anos fyth.

Corgi bach melyn oedd Cymro, ci Rhodri, ac fe wnâi gymaint o sŵn wrth gyfarth, fel na fentrai lleidr ddod o fewn canllath i'r tŷ.

Yna, byddwn yn ei gwylio yn cerdded ar hyd y briffordd am ryw hanner munud gan wybod ei bod o fewn canllath i'r ddynes lolipop a fyddain ei thywys yn ddiogel i'r ysgol.

Roedd hi tua hanner canllath oddi wrth yr hogia ac yn rhy bell iddynt fedru nabod yr enw arni na chymryd ei rhif.

A thithau'n dal i fod rhyw hanner canllath oddi wrthynt mae'r marchogion yn dy glywed.

Fe arbedwyd Sinema'r Coliseum, hanner canllath oddi wrtho, ddwy flynedd yn ôl am fod y brodorion a'r bobol ddwad, fel ei gilydd, o'r farn ei fod yn achos gwerth ei achub.