Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

canllawiau

canllawiau

CYNIGION: Yn ogystal â dilyn canllawiau adrannol ynglŷn â defnyddio ynni ac adnoddau a rheoli gwastraff, gallai'r Adain ddilyn nifer o faterion.

Ond mae'r aelodau'n parhau'n obeithiol y bydd canllawiau ar gael ar gyfer rhai o adrannau'r Goron cyn diwedd y flwyddyn gynta'.

Math o gynllun (cyfunol ynteu integredig) Beth yw cynnwys y cynllun (llyfrau disgybl, canllawiau athro, taflenni gwaith etc.) Pynciau a drafodir Cyfarpar ar gyfer gwersi ymarferol (A ddefnyddir cyfarpar ysgol safonol?) Dulliau asesu (a yw'r rhain yn rhan o'r cynllun?)

* Y canllawiau.

Cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith ei hymateb i'r canllawiau newydd ar berthynas y Gymraeg a'r gyfundrefn gynllunio i'r Swyddfa Gymreig heddiw.

Yr oedd yn dda gan Gymorth i Fenywod yng Nghymru gael ymgynghori a gweithio gyda Tai Cymru, a Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Cymru yn y gwaith o lunio'u canllawiau newydd hyn mewn perthynas â llochesau.

At hynny, y mae'r Gymdeithas wedi galw am y canlynol: bod y Swyddfa Gymreig yn comisiynu ac yn noddi prosiect ymchwil ar 'Ddefnydd yr Iaith Gymraeg mewn Cynllunio'; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol roi ystyriaeth i'r Gymraeg yn eu Cynlluniau Datblygu Unedol, gan mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru a'i bod hi'n etifeddiaeth gyffredin i holl drigolion Cymru; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol gynnal arolwg o gyflwr yr iaith yn eu hardaloedd, a llunio strategaeth iaith a fydd yn ffurfio polisïau i warchod a hyrwyddo'r iaith yn eu hardaloedd; - bod y Swyddfa Gymreig yn rhoi fwy o arweiniad i'r awdurdodau cynllunio lleol, ac yn cyhoeddi canllawiau fwy manwl ar ba fath o bolisïau y dylid eu mabwysiadu er gwarchod a hyrwyddo'r iaith.

A gwelwyd cyhoeddi dogfen Cyngor Cwricwlwm Cymru Y Plentyn dan Bump yn yr Ysgol, dogfen sy'n cynnig canllawiau ar agweddau ar gwricwlwm addas i blant dan bump.

roedd y gweithgor yn argymell parhau gyda'r canllawiau asesu, gyda rhybudd i athrawon eu dehongli yn ôl eu barn broffesiynol.

Mae'r llawlyfr bychan 70 tudalen gan Bethan Mair a Meleri Wyn James yn cynnig canllawiau - yn hytrach na chynghorion - ynglyn â phob agwedd o drefnu priodas o'r ddyweddïad i'r mis mêl a'r diolch am yr anrhegion.

Mae'n rhaid i'r adroddiad a ysgrifennir gan arolygwyr arbenigol ar bynciau unigol roi ystyriaeth i'r canllawiau a gynigir yn y tudalennau a ganlyn, ac mae'n rhaid mynegi barn yn glir ynghylch safonau cyrhaeddiad, ansawdd y dysgu ac ansawdd yr addysgu.

Roedd - - eisoes yn ychwanegu nodiadau yn yr Anghenion fel canllawiau ychwanegol.

Darllen yn yr ail iaith - rhai canllawiau ymarferol.

Ymateb gweinyddol yn unig a ddisgwylir yma a byddai canllawiau cyffredinol y Bwrdd yn briodol.

Rhaid gofyn, yng nghyd-destun canllawiau iaith ar gyfer gwasanaethau addysgol, beth yn union yw ystyron gwahanol y ddau air promoting a facilitating ar gyfer y Bwrdd.

Cyhoeddwyd canllawiau ar arfer dda yn y siroedd.

Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni yn gyfarwydd iawn ag ef yn y Gymraeg hefyd - er yn yr achos hwn maen debyg y byddair geiriau canllawiau ac arweiniaid wedi llenwir bwlch.

Fodd bynnag, mae'n rhaid darllen y canllawiau ar gyfer pob pwnc o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyd-destun y Gorchymyn Cwricwlwm Cenedlaethol a gyhoeddwyd ar gyfer y pwnc hwnnw.

Croesawodd y Gymdeithas gyhoeddi'r canllawiau newydd, a chyflwynodd ei hymateb i'r Swyddfa Gymreig heddiw yng Nghaerdydd.

Fodd bynnag, er bod yr NCT yn cymryd cam i'r cyfeiriad cywir, ofna'r Gymdeithas nad ydyw'r Swyddfa Gymreig wedi achub y cyfle i lunio canllawiau grymus a fyddai'n fodd i warchod yr iaith yn ei chadarnleoedd traddodiadol a hyrwyddo ei hadferiad mewn ardaloedd a'i collodd yn ystod y ganrif a hanner diwethaf.

Ar ôl ymchwil pellach i effaith canllawiau daethpwyd i'r casgliad nad oeddynt yn effeithiol oherwydd bod eu hawgrymiadau neu eu rheolau yn rhy gyffredinol.

Y canllawiau i'r sector cyhoeddus fydd eu dogfen bwysica' nhw; ar honno y bydd gwaith y blynyddoedd wedyn yn cael eiseilio.

Bu cryn drafod ar y mater hwn yn ystod cyfnod y Mesur yn y Pwyllgor Dethol yn San Steffan, a mynegwyd cryn anniddigrwydd gyda'r canllawiau gwirfoddol hyn.

Nodwyd bod rhai athrawon, erbyn hyn, eisiau canllawiau gramadegol wrth ddysgu Cymraeg; AFONYDD YN Y TIRWEDD

Ddydd Mercher, fe wnaeth Bwrdd yr Iaith eu datganddiad mawr cynt' ers tro - fe fydd drafft o'u canllawiau iaith ar gyfer y sector cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi ddechrau Hydref ar gyfer ymgynghori a chynllun ar gyfer y sector preifat yn dechrau cael ei weithredu.

Mae pobl yn ymaelodi i bob pwrpas ar eu telerau eu hunain ac ni theimlant eu bod yn ymaelodi â chymdeithas y mae canllawiau cadarn i'w didoli oddi wrth bobl y byd.

Cynigir canllawiau bras i athrawon weithio arnynt ymhob un o'r meysydd dysgu a phrofiad yn y llyfr Plant dan Bump yn yr Ysgol.

Trwy'r rhestrau hyn, gosododd Dewi Mai o Feirion faes llafur ardderchog ar gyfer y gymdeithas newydd-anedig, a thrwy lunio'r braslun o reolau, fe orfododd aelodau'r gymdeithas i ystyried eu celfyddyd o ddifrif, gan lunio canllawiau diogel i'w harwain ymlaen i'r dyfodol.

Fe gytunodd - - a - - y dylid creu canllawiau a'u cyhoeddi yn annibynnol o'r Cytundeb Comisiynu er mwyn osgoi camddealltwriaeth a dryswch.

Ac y mae cylchgrawn yr Institute of Medical Ethics wedi cyhoeddi canllawiau i helpu doctoriaid i gyfarfod dymuniad claf sy'n gofyn am gael ei ladd.

a yw'r canllawiau ar gyfer cyflwyno'r das hir yn eglur a diamwys ?

"O fis Medi a Hydref ymlaen," meddai, "mi fydd yna rywbeth inni ddangos ein bod ni wedi gwneud job soled." "Dim ond yn cynnig gawn ni ar wneud canllawiau.

Nid bod y canllawiau hyn yn rhai y gellir eu cymhwyso ym Mhrydain.

Bu ymddygiad y cwmnlau mor warthus o lechwraidd nes i'r Bwrdd Masnach gyhoeddi canllawiau ar sut i ddehongli penderfyniadau cymrodeddu - canllawiau nad oedd angen amdanynt ar unrhyw ddiwydiant arali!

Dylent fod yn ymwybodol yn bennaf o:  sicrhau diogelwch ac amddiffyniad  trafod ymosodiadau fel troseddau  eu gallu i restio tramgwyddwyr a'u cymryd i'r ddalfa  cyhuddo tramgwyddwyr - perygl ceisio cymodi  cadw gwell cofnodion  cydgysylltu ag asiantaethau meddygol a chynorthwyol Y rheswm mai croeso pwyllog a roddir gennym i'r mesur hwn, heb law am resynu'r ffaith nad ymgynghorwyd â ni cyn ei gyhoeddi, yw ein bod yn ymwybodol iawn o'r angen am adnoddau ychwanegol - i'r awdurdodau heddlu er mwyn gweithredu'r canllawiau, ac i asiantaethau eraill fel ninnau i ymateb i'r cynnydd tebygol a fydd yn y galw am ein gwasanaethau.

ii) bod yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain, gan dalu sylw i ofynion y Gymdeithas a'r manylion yn y Côdau Ymarfer/Canllawiau lle bo'n briodol, gan gynnwys gwisgo dillad/cyfarpar gwarchod; iii) bod yn gyfrifol am ddiogelwch pobl eraill (boed y rheiny yn weithwyr cyflogedig neu beidio) trwy beidio â chamddefnyddio unrhyw beth a ddarparwyd er mwyn iechyd a diogelwch neu les, a chydweithredu â'r Gymdeithas er mwyn ei galluogi i gyflawni ei chyfrifoldebau ei hun yn llwyddiannus;

Yr oedd cynrychiolydd o'r pwyllgor addysg yn bresennol ymhob cyfarfod i roi cyfarwyddyd i'r rheolwyr ac ni wnaethpwyd dim nad oedd o fewn y canllawiau.

(b) Rhoddwch eich barn gyffredinol am y cynllun, gan gynnwys eich barn am ddefnyddioldeb canllawiau'r athro (A oes digon o fanylder ar gyfer athro/ athrawes sy'n gweithio y tu allan i'w faes/maes ei hun?), ffurf a chyflwyniad y gwaith, lefel yr iaith a'r agwedd at bynciau megis cyfle cyfartal.

Bydd y ddogfen hon sydd wedi ei seilio ar lyfryn a gyhoeddwyd gan Ysgrifenyddiaeth Bwrdd Trysorlys Canada yn cynnig canllawiau ar sut i gynnal cyfarfodydd pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol yn llwyddiannus yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Yr oedd Eglwys Gynulleidfaol Llanfaches yn ymgais i gynnal canllawiau cadarn i'r ffyddloniaid heb greu cyfeillach gaee%dig.

A derbyn mai'r asiant cynhyrchu, yn y pendraw, a ddylai gael penderfynu rhwng cyflogi neu gomisiynu er mwyn cyflawni gwaith, y mae angen rhai canllawiau pellach i egluro'r disgwyliadau o safbwynt cyflogi, yn arbennig yn y tymor byr wrth symud drosodd at ddull newydd o ariannu projectau.

Gall y bartneriaeth addysg busnes ddarparu canllawiau i gefnogi lleoliadau mewn addysg.

Hawliodd y Gymdeithas fuddugoliaeth yn ei hymgyrch o blaid Deddf Eiddo ym mis Rhagfyr pan gyhoeddodd y Swyddfa Gymreig ddrafft o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) ar `Yr Iaith Gymraeg -Cynlluniau Datblygu Unedol a Rheoli Cynllunio'. Drafftiwyd y canllawiau newydd yn sgil pwysau oddi wrth y Gymdeithas a nifer o awdurdodau cynllunio lleol am ddiwygio'r canllawiau cyfredol a gyhoeddwyd fel `Cylchlythyr 53/88' ym 1988.

Mae'r tudalennau a ganlyn yn cynnig canllawiau ynghylch llunio barn ar y materion hynny; nid ydynt yn dynodi'r strwythur y mae'n rhaid ei ddilyn wrth ysgrifennu'r adroddiad ar y pwnc.

Gellir cael copi o ymateb y Gymdeithas i'r canllawiau newydd o'r brif swyddfa yn Aberystwyth.

ARGYMHELLWYD y dylai cynrychiolwyr y Cyngor ar y pwyllgor anelu at y canllawiau canlynol:-

Dylid cwblhau'r taflenni yn unol â'r canllawiau a ganlyn.

barn y gweithgor oedd fod canllawiau asesu yn fwy priodol na'r pennawd cynllun marcio, gan fod asesu datganiad yn wahanol i gynllun marcio traddodiadol.

(ch)Canllawiau Cynllunio Newydd i Ardaloedd Cadwraeth CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio.