Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

canmol

canmol

Fwy nag unwaith fe'i clywais yn treulio dros awr heb nodyn o'i flaen yn esbonio, yn dadansoddi, yn rhybuddio ac yn canmol.

Cydnebydd Tegla i'r gyfrol gael "canmol mawr arni gan wyr cyfarwydd a chondemnio mawr arni gan wyr cyfarwydd, yn ôl eu dehongliad gwahanol ohoni%.

Mynegodd Meira Roberts ei diolchgarwch i'r Rhanbarth am y gwaith arbennig a wnaed ar gyfer Eisteddfod yr Urdd a soniodd fod aelodau o Ferched y Wawr ledled Cymru yn canmol yr arddangosfa.

Canmol a glywid gan bawb ar y pregethu.

y dyn sydd byth a beunydd yn canmol ei wlad a'i iaith, ac yn aml yn dal swydd fras o'u herwydd, ond sydd er hynny yn magu ei blant yn Saeson uniaith.'

Mae'r Gymdeithas i'w canmol yn fawr am y gweithgarwch cyson yma sy'n denu cannoedd i Theatr Seilo.

Mae'r disgrifiadau yn canmol y tai i'r entrychion ac yn pwysleisio pob pwynt da ynglŷn â nhw.

Mae'n canmol y Gymraeg am symlrwydd ei gramadeg, ei thebygrwydd i'r Hebraeg a phurdeb ei geirfa.

'Mae y dynion yn canmol cyfarfod gweddi fu yn y Nant neithiwr, ac y maent yn awyddus am gael cyfarfod gweddi awr ginio heddiw yn Cwt Brake.

Gellid datblygu hyn fwy fyth trwy ddefnyddio'r papurau bro nid yn unig i wyntyllu anghenion yr iaith Gymraeg yn eu hardaloedd, ond fel y gwneir mewn rhai papurau, canmol a chefnogi'r gweithredoedd sydd o fudd i'r Gymraeg.

Canmol a chlodfori a gwneuthur clod a llawenydd a gogoniant oedd moes ddiwers y prydydd.

Nid yw'n annheg dadlau fod y ddisgyblaeth hon wedi crisialu'n ddiweddarach yn barchusrwydd ffurfiol a phobl yn canmol y gwerthoedd yn gyhoeddus ac yn eu gwadu yn y dirgel.

Ni wyddai Hector druan hyn, ac onibai am archeb anferth Mrs Paton Jones a'i llythyr at y goruchwyliwr yn canmol yn frwd chwaeth a help gwerthfawr 'eich Mr Pennant' ni byddai'r stori hon gennyf i'w chroniclo, gan na chafodd Hector glywed gair am y llythyr.

Mae'n canmol y colomendy a'r llyn pysgod ac yn gweld tŷ'r crehyrod, a'r peunod ar y lawntiau.

Nid dyma'r unig gywydd a ganwyd yn canmol y dalaith ei hun.

'Wedi dweud hyn'na rhaid canmol Caerdydd i'r cymyle.

Felly, rhaid canmol gwaith ein Haelod Seneddol, Mr Dafydd Wigley, am iddo gyflwyno mesur yn Nhþ'r Cyffredin ddechrau Gorffennaf eleni, mesur a fyddai, o'i basio gan y Senedd, yn ffurfio Deddf Iaith newydd.

Fe wnes i eu canmol nhw, hefyd, am gael pwynt yn erbyn tîm da fel Norwy.

Rhaid canmol Cymru am gadwu pennau a gwneud jobyn proffesiynol o waith.

Mae barddoniaeth Gymraeg yn aml wedi canmol harddwch broydd arbennig.

Mae chwaraewyr Abertawe, hefyd, wedi bod yn canmol clodydd Robinson.

Rhaid canmol y defnydd o sgrîn fawr yn ystod y golygfeydd cynnar ar olaf ond un.

Rhai yn canmol accupuncture, eraill y patches a roddir ar y corff ond toes dim byd tebyg, na gwell an phenderfyniad gan yr unigolyn ei hun.

Mae Mr Hughes yn canmol y wraig yn fawr a bod y genethod bach wedi bod yn ffefrynnau gan bawb.

Yr oedd yn oriog ei agwedd at bobl, ambell dro'n eu canmol i'r cymylau, dro arall yn digio'n bwt â hwy.

Byddwn yn synnu at ei allu i siarad Ffrangeg ond 'doedd dim iws canmol.

Pe bawn wedi aros yn y bwthyn gyda mam a Rachel, buaswn wedi gweld dwy'n ymgolli'n ddagreuol a melys yn eu hatgofion a chlywed canmol gerddi Y Plas gyda'i lawntiau'n dawnsio yn lliwiau porffor ac aur tanbaid canhwyllau'r forwyn.

Anghytunai Islwyn Ffowc Elis â'r rhai a fu'n canmol arddull Kate Roberts, am na wyddent beth arall i'w ddweud am ei gwaith:

Dyma enghraifft o'r canmol gan adolygydd di-enw yn Y Goletlad: