Erbyn heddiw gwelir fel y gellir uno'r ddau symudiad - y canoli ar lefel Ewrop, a'r datganoli ar lefel Cymru - i greu rhyw fath o synthesis ac undod: Cymru o fewn y Gymuned.
Rhowch y cyrchwr rywle ar y llinell gyntaf ac yna cliciwch ar y botwm canoli fel bo'r pennawd yn symud i ganol y tudalen.
Mae'n anodd gweld y gwahaniaeth rhwng athroniaeth 'Get on your bike' Norman Tebbitt a'r canoli di-bendraw o ddiwydiant a welwyd yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel.
Llusgwch ar draws y pennawd i'w ddewis ac yna dewiswch Pennawd o'r ddewislen Style, cliciwch y botwm canoli ac yna ewch yn ôl at ddechrau'r testun.
Disgwyliwn i'r Cynulliad beidio canoli grym mewn un lle a galwn am ddatganoli'r Cynulliad ar dri safle drwy Gymru a galwn ymhellach am ddatblygiad o drefn wleidyddol lle datganolir grym i gymunedau Cymru drwy'r Cynghorau Cymuned a'r Awdurdodau Lleol.
Mor gras yw'r cywair yn y cwpled cyntaf, gyda'r canoli sylw ar y gair 'ymryson' (meddylier am gynodiadau tyrfus y gair) ac ar y tri ansoddair grymus 'ynfyd', 'chwerw' a 'blin'.
Mynegwn ein pryder bod Papur Ymgynghorol y Grwp Ymgynghorol wedi dewis canoli grym mewn modd gormodol, yn ein tŷb ni, gyda'r Prif Ysgrifennydd, sydd wedyn yn treiglo grym i lawr trwy'r Pwyllgor Gweithredol a'r Ysgrifenyddion at y Pwyllgor Pwnc a, dim ond wedyn, at y cyhoedd a chyrff allanol a hynny mewn modd a dybiwn ni sy'n arwynebol iawn.
Mae'r bumed bennod, sy'n olrhain twf y dylanwadau newydd, yn un hunllefus ar sawl ystyr - canoli perchnogaeth yn fwyfwy a'r mynegiant Cymreig yn mynd yn fwyfwy ymylol.
Nid rhaid ychwanegu fod holl duedd economaidd Prydain Fawr gyda'r canoli fwyfwy ar ddiwydiannau yn gwthio'r Gymraeg fel clwt i gornel, yn barod i'w daflu ar y domen.
Canoli ar ddinasoedd mawrion fel Birmingham a Llundain, gwagu cefn gwlad i fwydo chwant y cyflogwyr.