Yr oedd canran uchel ohonynt (saith deg y cant) y tu allan i'r eglwysi, ac i'r mwyafrif llethol roedd y gair 'Duw' yn gwbl ddiystyr, a'r goruwchnaturiol yn ddeimensiwn cwbl afreal.
Hyd yn oed â chadernid statws iaith swyddogol y tu cefn iddi, a dros ddeugain y cant o'r aelodau yn siaradwyr Basgeg, nid yw'r canran hwn yn cael ei hadlewyrchu yn y defnydd o'r iaith Fasgeg yn y siambr a'r pwyllgorau.
Fel ag iodin cyffredin, pan roddir ffurf ymbelydrol o iodin i berson, mewn diod neu drwy chwistrelliad, bydd canran sylweddol ohono yn cael ei amsugno gan chwarren y thyroid cyn cael ei ryddhau i'r corff fel hormonau.
'Bydd y gangen a gollodd y mwyaf o bwysau, o ran canran, yn ennill hamper o fwydydd iach, i ddathlu!
Yn ôl y trefnydd Dewi Jones, mae canran uwch nag erioed o'r cystadleuwyr yn blant a phobol ifanc.
Nid oedd darpariaeth mor gyson yn Lloegr, Ffrainc, a Gwlad Belg, ond golygai cyflwr cymharol ddatblygedig y gwledydd hyn fod canran gweddol fawr o'r plant yn cael addysg o ryw fath, er nad oedd hyn mor wir am y taleithiau ymylol fel Cymru neu Lydaw, o bell ffordd.
Mae'n bosib iawn mai canran debyg o Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol fydd yn ddwyieithog hefyd.
Cyfartaledd cyflogau wythnosol gros (œ) fel canran o'r cyfartaledd ym Mhrydain.
Yn urdd y gwenyn, yr Hymenoptera, y ceir y canran uchaf - dros hanner o'r rhywogaethau yn ôl y cyfrifiad diweddaraf.
Yn ôl Cyfrifiad 1991 rhyw 142,000 sydd â rhyw wybodaeth o'r iaith -- canran is na 10% -- a llawer iawn o'r rheiny wedi dysgu'r iaith yn yr ysgol a heb gael y profiad ohoni fel iaith gymunedol fyw, er gwaethaf eu hymdrechion i'w meithrin felly.
Gall dogn uchel o belydriad niweidio, a lladd, celleoedd, a chan fod canran sylweddol o'r radio-iodin yn ymgasglu yn y thyroid, celloedd y thyroid a gaiff eu heffeithio fwyaf gan y pelydrau.
Trwy fesur canran yr iodin ymbelydrol a amsugnwyd gan y thyroid gellir amcangyfrif effeithlonrwydd y chwarren.
Yn ôl yr ymchwil mae canran y Cymry Cymraeg rhugl eu hiaith wedi disgyn o 62% yn 1991 i 54% heddiw.
Dengys yr uchod mai bychan yw cyfraniad cymdeithasu tai o ran canran o'r stoc dai, er eu bod yn medru gwneud cryn argraff o safbwynt cyfanswm yr unedau a ddarperir ganddynt, ac ymateb i'r angen lleol.
O safbwynt ieithyddol, os cynhwysir siaradwyr Occitan yn Ffrainc, Plattdeutsch yn yr Almaen a'r tafodieithoedd Eidaleg, codai y canran i bron pum deg y cant.
Rwy'n credu bod canran y plant anghyfreithlon ym Môn (heblaw am un ardal arall, ac mae honno yng Nghymru) yn uwch nag mewn un sir arall yn y deyrnas.
Nid yn annisgwyl efallai, mae canran tipyn yn uwch o ddynion na'r sampl yn darllen Barddas.
Fe ellir cyfrif yr argost fel canran o gost defnyddiau, neu o gost llafur, neu o'r ddau gyda'i gilydd; ffordd arall ydyw seilio'r argost ar faint o amser y defnyddir peiriannau ar y gwahanol dasgau.