Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

canrifoedd

canrifoedd

Aeth canrifoedd heibio er pan ddangosodd Mair ei Mab bychan i deithwyr dieithr o wlad bell.

Pryddest debyg i awdl 'Y Graig', Rolant o Fôn, yn y modd y mae'n edrych yn ôl ar hynt y canrifoedd.

Ond er prinned yw'r cyfeiriadau uchod, ac er nad oedd llawer iawn o gysylltiad rhwng y rhanbarthau hyn a'r taleithiau eraill yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ar ddeg, eto, pan gododd Casnodyn ym Morgannwg yn y ganrif ddilynol, gwelir yn ei waith holl nodweddion canu cymhleth y Gogynfeirdd, ffaith sy'n awgrymu fod traddodiad barddol cyffelyb wedi ffynnu yn y de-ddwyrain yn ogystal yn y canrifoedd blaenorol.

Sut arall y gallai fod wedi dal ei dir dros y canrifoedd?

Dyma oedd y tro cyntaf iddyn nhw ddod i'r wyneb ers canrifoedd.

Y bobl a fu'n trin y tir trwy'r canrifoedd, yn gwareiddio'r pridd, yn dofi'r diffeithwch â'u herydr ac yn plygu'r nentydd i'w gwasanaeth.

Arglwydd ein Duw, meistr y canrifoedd, eiddot Ti y flwyddyn newydd hon.

Y drwg yw fod y grefft hon - a fun un reddfol bron inni dros y canrifoedd - yn un mor ddieithr erbyn heddiw na wyddom sut i'w harfer.

Mae'r enw ei hun yn mynd â ni, mae'n debyg, yn ôl dros y canrifoedd i'r iaith Frythoneg - eb-hynt, llwybrau'r ebolion.

y wawr yn codi ar Gymru, hualau'n cael eu lluchio ymaith, iau gormes canrifoedd yn cael ei thynnu, y mynyddoedd yn bloeddio canu, y coed yn curo dwylo, ac felly ymlaen.

Os yw llunio darlun boddhaol o'r canrifoedd cynnar yn anodd oherwydd prinder ac amwysedd y dystiolaeth, y mae gwneud hynny gyda'r cyfnod diweddaraf yn anodd oherwydd swm aruthrol y defnyddiau.

Ar hyd y canrifoedd mae llawer iawn o ymchwil wedi ei wneud, gan chwaraewyr gorau'r byd, i ddod o hyd i AGORIADAU perffaith.

Ai Thomas Jones o Ddinbych hyd yn oed yn bellach yn ei Ferthyr-draith wrth geisio portreadu'r traddodiad Methodistaidd ac Efengylaidd fel estyniad o'r olyniaeth wir Gatholig sy'n ymestyn tros y canrifoedd.

Y mae hyn i gyd yn ganlyniad hanes hir yn ymestyn tros y canrifoedd.

Pwrpas 'Polska' oedd dathlu cyfoeth diwylliannol gwlad Pþyl ar draws y canrifoedd, a hithau'n dri-chwarter canrif ers ei hailsefydlu fel gwlad annibynnol ar ôl y Rhyfel Mawr.

Er ei bod ers canrifoedd yn gaeth a di-wladwriaeth, hen genedl yw Cymru.

Ni ddylid rhoi gormod o goel ar bob traddodiad ynglŷn ag adeiladu'r eglwys gyntaf oherwydd chwedlau yw llawer ohonynt, rhai a dyfodd yng nghwrs y canrifoedd.

Fel y bu myrdd o ganeuon poblogaidd yn dweud ers canrifoedd; yr ydan ni i gyd yn chwilio am rywun i'w garu.

Y sgwâr neu'r Rynek yn y canol yw calon y ddinas - y sgwâr mwyaf o'i fath yn Ewrop ac un sy'n frith o esiamplau o bensaerni%aeth orau'r canrifoedd, o'r oesoedd canol hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dyma'r drefn a arferwyd ers canrifoedd gydag enw cyffredin a arferir yn enw lle a dyma phaham y cawn enwau megis Y Groes, Y Waun, Y Betws, y Glog ac Y Bala ledled Cymru.

Nid pontio'r canrifoedd oedd yr unig ddigwyddiad o bwys i Gymru.

Trwy'r canrifoedd, bu llywodraethau'n amheus o gyfarfodydd dirgel ac o gynulliadau torfol.

Trwy'r canrifoedd mae coed, eu dail a'u ffrwyth wedi cynnig meddyginiaeth i ddyn ac anifail.

Gyda threigl y canrifoedd dirywiodd yr adeiladau coed, sef tai'r bobl gyffredin a siopau a thai gorffwys y pererinion.

Gwirioneddau sydd wedi gwrthsefyll rhaib y canrifoedd yn cael eu bygwth, eu darnio au dymchwel mewn cymdeithas syn prysur fynd ai phen iddi.

Oni bai 'mod i'n dipyn o ddyn ac oni bai fod gwasgfa parchusrwydd y canrifoedd arna-i, dyna'r union sŵn wnelwn innau 'fallai.

Yng ngwledydd y Gorllewin ar hyd y canrifoedd credid mai ergyd y stori hon yw cyflwyno Crist i'r cenhedloedd.

Mae ymdeimlad o gefn gwlad i'r ardal ac mi gaiff yr ymwelydd flas ar fywyd sydd heb newid ers canrifoedd - yn enwedig ar bnawn Gwener - heblaw, yng ngwres yr haf - gyda chystadleuaeth ymladd teirw.

Ac felly, yng ngoleuni traddodiadau Cristionogol y canrifoedd y darllenai'r meddylwyr cyfoes - Karl Barth, Emil Brunner, Paul Tillich, Dietrich Bonhoeffer, Simone Weil, Ju%rgen Moltmann, Wolfhart Pannenberg, John Macquarrie, Helder Camara, Gustavo Gutierrez ac E. R. Norman.

Beth bynnag am werth y gwahanol 'ddamcaniaethau' ynghylch yr iawn a ddyfeisiwyd ar hyd y canrifoedd, ni ddyfarnodd yr eglwys erioed ar ddilsrwydd y naill ohonynt ar draul y lleill.

Dros y canrifoedd y ffurf Brecknock a arferwyd amlaf a dim ond yn lled ddiweddar y daeth y ffurf Brecon yn boblogaidd.

Y llynedd cefais innau flwyddyn Sabothol, a threuliais hi yn dechrau darllen ar gyfer astudiaeth arfaethedig o ddylanwad y Beibl ar lenyddiaeth Gymraeg y canrifoedd modern.

Canrifoedd o brofiad, o draddodiad, o Iwerddon i India.

Fe'i plesiwyd, fodd bynnag, gan bryddest 'farddonol' Glanffrwd, pryddest faith a rychwantodd y canrifoedd wrth ddathlu goludoedd y Gymraeg.

Ac yng Ngwledydd Cred, drwy'r canrifoedd hir o amser Paul hyd at o leiaf yr ail ganrif ar bymtheg, uniaethwyd mewn ffordd ryfeddol ffawd y Cristion unigol a phwrpas Duw fel yr amlygid ef drwy hanes.

Mae'r graig wedi'i naddu'n glogwyni serth mewn sawl man wrth wynebu ymosodiadau'r lli ers canrifoedd maith.

Tros y canrifoedd mae wedi dod yn reddfol eu bod yn gwybod bod digon o fwyd yn Ewrob yn yr Haf.

A cherrig moel ydy waliau'r tþ, oddi mew ac oddi allan, llechi glas Eryri sydd ar lawr y stafell fyw, a lle tân anferthol, gyda'r trawst llwyd-ddu gwreiddiol yn dangos olion canrifoedd o'i lyfu gan fflamau, yn ganolbwynt i'r tþ cyfan.

Dros y canrifoedd mae dynoliaeth wedi bod yn ddidrugaredd o annheg ato.

YMHLITH YR ANIFEILIAID: Raymond B.Davies yn pori ymhlith cyhoeddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid: Amaethyddiaeth fu diwydiant pwysicaf Cymru erioed ac yn ystod canrifoedd o ffermio'r tir datblygodd ein hamaethwyr nifer o fridiau a ystyrir heddiw yn nodweddiadol Gymreig.

Daw rhyw hiraeth anesboniadwy drosof weithiau wrth geisio amgyffred treigl y canrifoedd: Fel ewyn ton a dyrr ar draethell unig, Fel can y gwynt lle nid oes glust a glyw, Mi wn eu bod yn galw'n ofer arnom - Hen bethau anghofiedig dynol ryw.

Roedd yr iaith lafar yn prysur droi yn rhywbeth na fuasai yn y canrifoedd cynt, sef arwydd o wahaniaeth dosbarth, ac eisoes yr oedd yna raniad rhwng De a Gogledd yn Lloegr.

Nid pontior canrifoedd oedd yr unig ddigwyddiad o bwys i Gymru.

Ychydig iawn a wyddom am draddodiad llenyddol Morgannwg a Gwent cyn y bedwaredd ganrif ar ddeg; yn wir, gellid dweud am Went na feddai fywyd llenyddol fel y cyfryw yn y canrifoedd dilynol ychwaith, beth bynnag am gyfnodau blaenorol, er bod yno yn adeg y Cywyddwyr lawer iawn o gartrefi nawdd.

Nid yw'r enw yn digwydd wedyn am rai canrifoedd, ond y mae'n alwg ei fod mewn bri ar ddechrau'r seithfed ganrif.

Pan gysegrwyd Thomas Bec yn esgob ar esgobaeth Tyddewi, canfu fod llawer o gymdeithasau eglwysig a oedd wedi goroesi'r canrifoedd yn bodoli yn ei esgobaeth.

Y mae tu mewn yr eglwys hon fel arddangosfa o holl arddulliau pensaerni%ol y canrifoedd - cyfle nid yn unig i ddisgrifio'r tu mewn a'r capeli ochr a adeiladwyd yn raddol ar hyd y canrifoedd, ond hefyd i blethu cerddoriaeth y cyfnodau i mewn.

Y gwir yw fod dallineb tuag at ddiwylliannau lleiafrif yn cael ei feithrin yn gyson tros y canrifoedd yng nghyfundrefn addysg Lloegr.

Dyna paham bod lleiafrifoedd - ac fe olyga hynny wledydd bychain hefyd y dyddiau hyn - ar hyd y canrifoedd wedi bod yn ddrain yn ystlysau meistri'r byd.

Am y tro cyntaf erioed mewn canrifoedd o eisteddfota, mae dirgel ffyrdd y drefn eisteddfodol wedi eu chwalu wrth i'r trefnwyr fanteisio ar uniongyrchedd a natur ryngweithiol y we.

Y mae traddodiad politicaidd y canrifoedd, y mae holl dueddiadau economaidd y dwthwn hwn, yn erbyn parhad y Gymraeg.

Ond, ar ôl dweud hyn oll, nidoes gyfiawnhad dros y difri%o sydd wedi bod arni gan y Gyfraith a chan y cyfreithwyr a'r llysodd ar hyd y canrifoedd, ac sydd wedi parhau hyd ein dyddiau ni.

Ond fe'i cysurai ei hun drwy gofio mai hynny oedd hanes dyn drwy'r canrifoedd er pan ddisgynnodd y duwiau yn rhith anifeiliaid, i'r ddaear i garu merched dynion.

Nid ple yw hyn dros fynd yn ol i'r hen amser yn gymaint a rhyfeddu mor rymus o nobl y cerddodd y canrifoedd rhagddynt, a hynny heb un arlliw o dechnoleg ein blynyddoedd esmwyth ni.

Dros y canrifoedd, mae sawl taid yn Llydaw wedi dangos rhai o'r meini hirion hyn i blant ei blant ac wedi gorfod ateb y cwestiwn "o ble y daeth y rhain, Taid?" A thros y blynyddoedd mae llawer o straeon yn esbonio'r hanes y tu ôl i'r meini.

'Roedd yn disgrifio hanes adeiladau yng nghefn gwlad Cymru tros y canrifoedd yn weddol fanwl ynghyd â'r ymgyrch i geisio rheolau dylunio wrth ei astudio.

'Cyfaill yr iau' y gelwid sicori gan Galen, y meddyg Groegaidd o'r ail ganrif OC Yn ôl coel gwlad ar hyd y canrifoedd yr oedd sicori'n medru glanhau'r corff o wenwyn.

Mae'r Cymry Cymraeg wedi eu cyflyru tros y canrifoedd i ildio o flaen siaradwyr Saesneg.

Rydym yn sôn am ddim llai na chwyldro os am herio a thrawsnewid canrifoedd o ormes, diffyg grym a gwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg.

Hyn yn wir a ddigwyddasai mewn mwy nag un rhan o Ewrop yn ystod y canrifoedd blaenorol.