Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

canwyd

canwyd

Ond fe gododd Richard Owen Waun ar ei draed, ac fe ddywedodd, 'Canwch "Gwaed y Groes sy'n codi i fyny%.' Ac fe'i canwyd â rhyw arddeliad rhyfedd, a dyblu a threblu 'Gad i'm deimlo/ Awel o Galfaria fryn'.

Canwyd

Yna fe gododd brawd arall, ac fe lediodd emyn: 'Dewch hen a ieuanc, dewch/At lesu, mae'n llawn bryd./Rhyfedd amynedd Duw/ Ddisgwyliodd wrthym cyd.' Ac fe'i canwyd hi drosodd a throsodd a hynny gydag arddeliad mawr, a'r hen chwiorydd oedd yno yn canu dan siglo'u hunain, a'u dagrau'n rhedeg i lawr eu gruddiau.

Canwyd y gloch ac aethom ninnau i mewn.

Canwyd emyn gan Gor Bro Dyfnan o dan arweiniad Mrs Magdalen Jones gyda Mrs Enid Griffiths yn cyfeilio.

Richard Mills, gerddor gwych ag ydoedd, a ddaeth a phobl y Rhos i afael ar gerddoriaeth glasyrol, ac o dan ei fatwn ef, mae'n debyg, y canwyd y Messeia am y tro cyntaf yn y Rhos.