Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

canys

canys

Hwyrach y maddeuir imi am awgrymu fod Paul wedi gweld pethau'n glir ryfeddol a'u crynhoi mewn brawddeg fer, "Nid oes na gwryw na benyw canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu%.

Bydd yr Arglwydd yn ei alw yntau'n fuan canys heneiddiodd cyn ei amser.

Canys ni cheisiodd Saunders Lewis a'i ddau gydymaith ond cyflawni yn union yr hyn a argymhellir yn awr gan y Tywysog Charles - sef gwarchod y Winllan a roddwyd i'w gofal.

Canys trasiedi eironig a chwerw yw Prifysgol Cymru, ffrwyth pennaf deffroad cenedlaethol y werin Gymreig a Chymraeg.

A ffermwyr a brynodd y mulod am bris teg, canys wele, yr oedd y mulod yn gryf a chyhyrog.

Canys y mae hefyd wir berygl i hynny frysio lladd cenedlaetholdeb Cymreig.

Yr oedd yn sicr erbyn hyn mai Ffrangeg a siaradent canys clywodd y gair 'gendarmes' fwy nag unwaith a gwyddai mai'r gair Ffrangeg am blisman oedd gendarme '.

Dyfynnaf hi â mawr ddile/ it, canys rhydd i mi'r cyfle i grybwyll y ffaith mai 'Beddargraff Twrnai' yw testun yr Englyn Ysgafn yn Eisteddfod Bro Madog y flwyddyn nesaf, ac mai'r Prifardd Dic Jones fydd yn beirniadau.

Ac os methodd ambell un wneud ei farc ar lwyfan eisteddfodol 'does raid iddo boeni dim oll canys fe fydd yn bownd o raddio'n feirniad o'r radd flaena' mewn dim o dro.

Yr oedd gofalu bod y cylchgrawn yn cyflawni'r swyddogaeth ddwbl yma'n hollbwysig i'r golygydd, canys gwyddai ef o brofiad am gymaint a ddymunai gadw ei fudiad hereticaidd yn fud, a'i dewi am byth, os yn bosibl.

Bu Plaid Cymru yn rhyddach i ganoli'n gyfan gwbl ar ei gwaith gwleidyddol, canys dyna ei gwir phwrpas.

Daeth Dafydd gyda mi i'r t , ac eisteddasom yn yr hen gegin, canys yr oedd ``gwragedd rai'' gyda Miss Hughes yn y parlwr.

A brawddeg fawr ydyw: pan gnulia'r gloch, meddai, na ofynnwch am bwy, canys mae'n cnulio amdanoch chwithau hefyd, oblegid nid rhyw ynys ddigyswllt yw dyn, ond cyfandir, ac megis ag y mae'r cyfandir ychydig yn llai am bob torlan ohono a syrth i'r môr, felly ninnau, canys gyda phob un a gollir y mae rhywfaint ohonom ninnau hefyd wedi ei golli.

Fe sieryd hynny'n huotlach na'r un perorasiwn, canys bydd lilith yn dechrau amau erbyn hyn eich bod yn ffermwr profiadol iawn.

Am y rhan helaethaf o oes y chwareli roedd i'r 'ceffyl gwaith' - canys dyna fel y cyfeirid ato - ei le a'i ran ym mhatrwm eu gweithio.

Canys arf boliticaidd fwyaf nerthol y dydd hwn yw teledu.

Canys y mae amaethu yn waith na dderfydd byth.

Canys dwyn yr wyf yn fy nghorff nodau'r frwydr hon.

Anffurfir y gymdeithas leol gan y biwrocratiaid fel y treisir y gymdeithas genedlaethol ganddynt, canys fel hyn y mae pobl yn haws eu trin.

Ni allai ddeall, canys yr oedd popeth a ddymunai naill ai ganddo eisioes neu ara ddyfod iddo o'r pridd di-feth.

A da hynny, canys dengys pwnc a phwynt ambell un iddynt gad eu llunio gyda rhyw nod amlwg mewn golwg: ateb problcm leol ymb~ith y Methodistiaid, neu roi eli ar eu briwiau.

Yr ydym i gyd ar brawf, fy arglwydd, canys trwy'n gweithredoedd yr ydym wedi difrïo ein gwlad a pheryglu dyfodol ein plant.

Nid ei hun y daeth Rhiannon 'chwaith, canys yn gydymaith iddi ar y daith ye oedd ei merch fach, Delwen, sy'n saith mis oed.

Canys yn y dyddiau cyn dyfod i feddwl dyn ddarganfod trydan, arferid tynnu'r trenau i ben y bryn gyda chymorth mul.

Ond cymerwch gysur, canys pe buasai'r cwrs hwn yn agored ichi buasech felly yn cael eich amddifadu o ddarllen llenyddiaeth ddychymyg wychaf y byd disgrifiadau estate agents o'r ffermydd sydd ganddynt i'w gwerthu.

Canys, fel y gŵyr pawb, yr unig ffordd ddiffuant o ddangos parch tuag at rywbeth yw bod yn barod i dalu pris uchel amdano.

Williams a drosodd The National Being i'r Gymraeg ("Y Bod Cenhedlig"), canys yr oedd ychydig egwyddorion elfennol, eglur yn ddigon iddo ef, a ystyriai weithredu gwleidyddol yn ddyletswydd flaenaf.

Canys ni fwriadwyd iddynt gael treialon fel hyn ac felly bydded i'r byd fod yn drugarog wrthynt ac yn deimladwy tuag atynt.

Canys fe all gwraig dlawd ar risiau â darn mawr o sebon gwyrdd ddileu pob meddwl am fyd busnes ym meddwl gŵr cyfoethog, yn dra effeithiol.

Sôn am flyndar--canys dyna'n union sut y cefais fy hun yn Ysgol Uwchradd Fodern Roscommon Street a swatiai dan gysgodion y Braddocks nid nepell o Scotland Road.

wasanaeth gwiw i ardal y Rhos; ein hyder yw y bydd NENE yn y byd newydd - o'i SAFBWYNT ei hun ac yn ei FFORDD ei hun - "llefaru eto% wrth ein pobl a'n plant, canys y mae yr angen a'r cyfle yn gymaint, ie yn FWY heddiw nag erioed.

Byddai bywyd cenhedloedd Ewrop a'r byd hefyd rywfaint yn dlotach, canys y cyfraniadau a ddaeth trwy'r traddodiadau cenedlaethol a gyfansodda wareiddiad Ewrop.

A'r miliwnydd a eisteddodd yn sydyn ar y ris uchaf, ond nid arhosodd efe yno; gan mai ei fwriad cyntaf oedd disgyn o'r llawr lle'r oedd ei swyddfa, efe a ddisgynnodd yn wir, ond nid yn y dull a'r modd a oedd yn ei fwriad cyntaf Canys efe a ddisgynnodd ynghynt, ac a darawodd bob un gris fel petai ddrwm.

Canolbwyntia ein meddyliau ar ein Harglwydd Iesu Grist, ein Bugail Da, arloeswr a pherffeithydd ein ffydd, canys yn ei haeddiannau Ef y deisyfwn hyn i gyd.

Yn fuan wedyn sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a dechreuodd efrydwyr ifainc Cymru frwydro o ddifrif dros einioes y genedl, canys dyna ystyr ymladd i gadw'r iaith.

Canys mae gwasanaeth cyfreithiol newydd yn bodoli ers dechrau'r flwyddyn hon, sef y cynllun Cyfreithiwr Dyletswydd.

"Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i'r Arglwydd dy Dduw; yr Arglwydd dy Dduw a'th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo'i hun o'r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear" (Deut.

Canys yn y fan yr ysgarwyd rhwng ein gofod a'n gorffennol yr erthylwyd ein cenedligrwydd ac nid ydyw dwyn pobl yn ôl i ŵydd eu cwmwl tystion yn dasg amhosibl .

HERALD", ac yn aml fel atodiad "Ruabon Case%, canys yr oedd gan y golygydd eithaf deall o apel achosion cyfreithiol at y dyrfa ac yn Rhiwabon yr eisteddai'r ustusiaid.

Ond trown atat yn hyderus, canys buost trwy'r oesoedd yn noddfa rhag y dymestl i'th bobl.

Nid yw hi'n bwysig gwybod pa ferch yn union a roes fod i 'Dwy Gerdd', ond mae'n amlwg iddi gyffroi ymateb dwfn yn y bardd, canys ei ffordd ef o ymgysuro rhag atgno yw deunydd y cerddi.

Canys mwy trist na thristwch oedd deall mai Miriam oedd yr unig blentyn punp oed a siaradai gymraeg o blith naw o blant a dderbyniwyd i ysgol Llangybi y flwyddyn honno wedi gwyliau'r haf, a hynny yn un o gadarnleoedd 'tybiedig' yr iaith.

Canys trwy wneud hynny yr adeiladwn yr unig gofeb addas i Saunders Lewis -- Cymru Rydd Gymraeg.

Nid bod hynny'n syndod chwaith canys pobol yn 'nabod ein gilydd ydym ni a chanmol a datgan gwerthfawrogiad yn beth mor anodd, ac olrhain acha' ac edliw teulu yn beth mor hawdd.

Canys nid trwy gyfres o ymweliadau goruwchnaturiol y datblygodd y byd i'r hyn ydyw heddiw, ond trwy broses naturiol hir y mae'r bydysawd yn rhan ohono.