Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

capeli

capeli

Mae'r diwrnod yma yn wyl swyddogol yn y dalaith a'r arferiad yw mynd i un o'r capeli Cymraeg am de ac adloniant.

Y mae cymaint o amser er pan eisteddais i drwy bregeth yr ydw i ymhell o fod yn arbenigwr ar yr hyn sy'n digwydd mewn capeli ac eglwysi.

Beth wnanhw efo'r holl flaenoriaid - sylw bachog aelod ym Mhendref, oedd o'r farn mai uno'r capeli i greu un capel i bawb fydd yr ateg yn y diwedd.

Os ydi'r Capeli a'r Eglwysi mewn lle mawr fel Bangor neu Aberystwyth, er enghraifft, yn penderfynu uno, a bod y capeli Pentecostal, Efengylaidd, yn Saesneg eu hiaith, beth fyddech chi'n dweud wrth y Cymry Cymraeg?

Creodd y capeli hyn gymdeithas a oedd, er ei mynych wendidau amlwg, yn urddasol a diwylliedig.

Wel mi gan nhw eu gorfodi dwi'n credu, gan amgylchiadau, i ddod i delerau efo'r sefyllfa oherwydd faswn i'n meddwl, er na allaf siarad o brofiad, ymhlith yr hen oedd y styfnigrwydd yma, yr hen bobl yn ei chael hi'n anodd i symud a newid enwad, neu newid adeilad, addoldy, ond tydi bobl ifanc yn malio fawr ddim am bethau fel hyn, a 'dwn i ddim beth fydd dyfodol yr Eglwys neu'r Capeli os ydi'r bobl ifainc yn troi i fod yn Gapelwyr neu Eglwyswyr unwaith eto.

Anghydffurfwyr pybyr oedd y rhan fwyaf o'r ymfudwyr o Gymru, a buan yr aeth y gwahanol enwadau ati i godi capeli a fyddai'n ganolfannau i'w gweithgareddau.

Faint mwy o ddifrod a ddioddefai'r eglwysi a'u capeli gan y cyrchoedd awyr cyn y byddai'r rhyfel drosodd?

Capeli oedd enw'r bocsys.

Ymateg i Uno'r Capeli Bu ymateb diddorol i'r erthygl gan Gwenynen am uno'r capeli yn rhifyn mis Mawrth.

Ar y llaw arall, ychydig iawn o begethwyr cynorthwyol oedd yn y capeli - dim ond deg i gyd.

Gallwn brofi pwysigrwydd yr uned bentrefol trwy gyfeirio at nifer o enghreifftiau e.e.l. Pan unir capeli, gan gynnal gwasanaethau bob yn ail mewn gwahanol bentrefi, tuedda'r mwyafrif o'r gynulleidfa ddod bob amser o'r pentref y cynhelir y cwrdd ynddo e.e.2. Pan fydd plentyn yn cael ei symud - trwy ddewis rhieni - i ysgol pentref arall, tuedda'r plentyn golli cysylltiad cymdeithasol anffurfiol hefyd â gweddill plant y pentre e.e.3. Pan gae'r ysgol, bydd holl blant y pentre'n colli'r ymwybyddiaeth o fod yn griw y pentre wrth fynd i'r ysgol uwchradd ac felly'n colli'r ymwybyddiaeth o berthyn ar y lefel hon.

Adnewyddu capeli mewn ardaloedd lle mae dyrnaid o Gymry Cymraeg yn dal i gadw Seion, Soar a Bethlehem i fynd ar gost gynyddol, pan fyddai pawb, a dweud y gwir, yn gallu ffitio i fewn i festri Seion yn deidi.

Cododd cenhedlaeth yn y Gymru ddiwydiannol Seisnigedig heddiw sy'n amharod i gydnabod lle'r capeli a'r iaith yn ffurfiant cymdeithas eu rhan hwy o'r wlad.

Mae angen asiantaeth GO Mae modd 'marchnata' Cymru Gymraeg drwy ffurfiau gwahanol er engraifft y capeli.

Yr oedd Nantlais yn pregethu'n rymus iawn, a byddai'r capeli'n llawn.

Echrydus oedd effaith y blynyddoedd hyn a'r rhyfel a'u dilynodd ar ysbryd, diwylliant a sefydliadau'r Cymry, yn arbennig ar y capeli.

Ar ôl iddo ddarbwyllo'r capeli fod y Rhyfel yn un cyfiawn, 'roedd uffern Ffrainc a Fflandrys yn llawn o s^wn iaith y nefoedd.

Fel myfyrwyr eraill am y weinidogaeth, disgwylid iddo helpu capeli o gwmpas Aberystwyth ar y Sul, ac yn wir fe ddibynnai am ei gadw ar yr hyn a delid iddo.

Bydd wythnos y Samariaid yn cael ei chynnal ganol y mis nesaf a gobeithir y bydd casgliad y Sul hwnnw yn y capeli a'r eglwysi mewn rhan helaeth o Wynedd yn mynd tuag at waith y Samariaid.

Ond y ganolfan naturiol yn Aberdaron oedd yr Eglwys am ei bod hi mor hen ac yn adeilad sylweddol, a symudiad naturiol oedd i gau'r Capeli a dwad ynghyd yn yr Eglwys.

Heddiw mae'n fater o agor carchardai a chau capeli.

Canlyniad hynny oedd bod ..., mynychu capeli, a phrinder cymharol troseddau yn cydfodoli gyda '...' .

Ys dywed Kenneth Morgan, "...(a dynnwyd o'r werin)'." I'r gweithwyr, bu capeli ymneilltuol am dair neu bedair cenhedlaeth yr hyn yw clybiau ein cyfnod ni iddynt.

Pelagiaeth yn fwy na dim sydd wedi gwagio'n heglwysi a'n capeli.

A cheir capeli gyda lle i gôr sylweddol y tu cefn i'r pulpud.

Mae'r capeli a'r eglwysi wedi gwagio a'r adeiladau mewn llu o fannau ar werth.

Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn siarad Urmyceg ac yn yn gweithio mewn colegau ac ysgolion a'r capeli drafftiog rheini y soniwyd amdanynt.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuodd capeli'r Anghydffurfwyr ymddangos ym mhob man ar hyd a lled y wlad, ac apeliai neges y pregethwyr grymus yn arw at bobl Cymru.

Y mae tu mewn yr eglwys hon fel arddangosfa o holl arddulliau pensaerni%ol y canrifoedd - cyfle nid yn unig i ddisgrifio'r tu mewn a'r capeli ochr a adeiladwyd yn raddol ar hyd y canrifoedd, ond hefyd i blethu cerddoriaeth y cyfnodau i mewn.

Am genedlaethau bu eu capeli ymreolus yn feithrinfa democratiaeth ac yn fagwrfa arweinwyr undebau llafur a'r Siartiaid a'r pleidiau gwleidyddol.

Ceir golygfeydd trawiadol o'r tir a'r môr, a cheir cipolwg ar hen feini o'r oesoedd cynnar, cestyll yr Oesoedd Canol, capeli a bythynnod gwyngalchog bychain.

Roedd yr Ymneilltuwyr yn fwy hyblyg, a chynyddai nifer y capeli o bob enwad wrth i'r mewnfudwyr dyrru i'r gweithfeydd o gefn gwlad Cymru.

Mae'r Capeli'n dirywio'n fawr, y nifer sy'n eu mynychu'n lleihau a'r adeiladau'n cael eu gwerthu ac ati.

Cyn dyfodiad y dyfarniadau newydd hyn byddem yn cau carchardai ac yn agor capeli.

I ddangos anallu'r eglwys i ddiwallu anghenion ysbrydol y bobl fe godwyd capeli heb fod ymhell, ac y mae cofnodion y rheiny, er yn brin, yn profi mor rymus fu'r profiadau.