'Glywist ti?' 'Be?' 'Mae o wedi boddi.' 'Pwy?' 'Ne' wedi marw.' 'Ond pwy, Leusa?' 'Y Captan 'te...Captan Timothy.' ''Rioed?.' 'Cyn wiried â'r efengyl i ti.' 'Pwy oedd yn deud?.' 'Sydna, y forwyn fawr, hi ddeudodd, gynna, pan o'n i yn mynd â'r lludw allan.' 'Raid i mi bicio i'r stabla rwan, i ddeud wrth Robert 'y mrawd.
Dreif on.' 'Ella ma' trio rhoi ar ddallt i ti roedd hi ma' boddi 'nath y Captan.' 'Nid boddi 'nath o.' 'Dyna ddeudodd Timothy Edwards pan ddaeth o yma hefo'r stori - syrthio dros ochor y llong, medda fo, pan oedd o'n homward bownd o'r gwledydd pell 'na, a boddi yn y dyfnfor.'