Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

car

car

Wedi tua tri chwarter awr, dechreusant roddi sylw i'r car o'n blaen.

Morgais i brynu tþ yw'r enghraifft amlycaf yn hanes y rhan fwyaf ohonom, ond hawdd medru dychmygu fod sawl un wedi benthyca arian i brynu car, talu am wyliau neu anfon plant i'r coleg.

"Mi af i adref i nôl y car a galw amdanat ti.

Ein tuedd ni, yma yng Nghymru, pan yn cyrraedd ffordd drol yw arafu a rhoi'r car mewn gêr cyn lleied a phosib.

`Mae'n rhaid eu bod nhw'n mynd i ddianc yn y car yna,' meddyliodd.

Newid ei ddillad, a chymryd y car.

A thuedd rhai pobl o hyd yn y fan honno yw ystyried unrhyw daith gan y car recordio, dyweder, y tu hwnt i Bontypridd fel rhyw fath o saffari.

Yno, roedd y plant â chwant bwyd a'r rhieni yn sychedig ac fe arhoswyd i brynu pryd o fwyd a pharciwyd y car, gyda'i lwyth ar do'r car, mewn maes parcio cyfleus.

Agorais ddrws y car a chamu allan.

Rydw i'n stwna yn y car am y llyfr siec.

Gadael y car yno a cherdded ar hyd y mynydd agored am filltir gwta tua'r dwyrain.

'Ddim yn bell iawn, Owain bach,' meddai, ac anelodd y car tua'r gogledd.

Roedden nhw wedi teithio'r holl ffordd o Lundain yn y car, a theimlai'r pedwar dipyn yn flinedig.

Bydd car Sarjant Jenkins tu fas mewn munud.' Diflannodd y ferch ond ailymddangosodd ymhen eiliad yn gwisgo'i chot fawr a'i chapan.

Cafodd Coleman ddamwain car difrifol ym mis Ionawr.

Hon fydd yn galluogi'r car i anfon gwefr i fatri'r garafan pan fyddwch yn teithio - sy'n hanfodol os nad oes trydan yn y garafan - ond mae hefyd yn rhwystro batri'r garafan rhag sugno bartri'r car.

Ond pan oedd hi wedi cau'r drws ffrynt yn glep ar brotestiadau Emyr a chychwyn ar ei thaith, roedd Carol wedi disgwyl - nage, wedi cynllunio - y byddai Guto'n siŵr o syrthio i drwmgwsg y munud y byddai'r car ar y draffordd.

Cafodd lond bol ar hyn, ac aeth yn ôl i'r car a chyfnewid y gêr plu am gêr pysgota gwaelod.

Deffrodd cwpl o Landaf un bore i weld bod eu car wedi cael ei ddwyn, er ei fod wedi ei barcio wrth ochr y tþ ac nid ar y ffordd fawr.

Daeth y ci defaid butra a welodd JR erioed i ben y bwlch - nid ei fod o wedi gweld llawer o gŵn defaid budr - ac i ddangos ei groeso neidiodd ar fonet y car.

"Watsia!" sgrechiodd wrth iddynt ddod o fewn trwch blewyn i fynd i mewn i'r car o'u blaen.

Anelu tua'r de-ddwyrain dros gefnen greigiog Blaen Rhestr i'r hen ffordd las a throi i'r chwith heibio Carn Ricet i gyrraedd yn ôl i'r car.

Cerddodd y tri ohonynt yn ôl at y car ac agorodd Carol y drws cefn i'r bechgyn gael dringo i mewn.

Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.

Gellwch brynu un arbennig ar gyfer eich car, a chael y garej sy'n arfer trin y car i'w osod, ond rhaid cofio fod y rheini yn tueddu i fod yn llawer drutach.

Ar ôl bwyta dyma ddychwelyd at y car i ail-gydio yn y siwrnai adref, ond pan ddaethant at y lle y gadawsant y car, nid oedd yno, ac ar ôl chwilio yn ddyfal trwy'r maes parcio a thrwy'r dref, nid oedd lliw nag arlliw o'r car yn unman.

Ond yn ffodus iawn fe gafodd Aled 'i daflu allan o'r car, yn ddi-anaf.

Doedd o ddim yn ffyddiog iawn i gwelen nhw eu car byth eto gan fod cynifer o geir yn cael eu dwyn yn y ddinas.

Gwelodd hi dri lleidr yn dianc mewn car.

Y polisi yw fod bydwragedd yn cario babanod i'r car wrth iddyn nhw adael.

Mynnodd Mike England y bydde Thomas yn cyrraedd a'i fod wedi bod ar y ffôn yn addo teithio i lawr yn y car gydag un o fois y Gymdeithas Bêl- droed.

Mewn dau chwinciad, yr oedd y plant i gyd allan o'r car.

Car eu ffrindiau, ta beth.' Trodd Gareth yn ei sedd, a suddodd ei galon o weld goleuadau car arall ryw ganllath y tu ôl iddynt.

Toc dechreuodd y car droi yn ei unfan gan wneud sŵn tebycach i awyren yn hwylio i godi nag i ddim arall, ac fel y sathrai JR ar y sbardun suddai'r cerbyd yn is ac yn is nes o'r diwedd iddo gloi yn ei unfan.

Nid rhyfedd felly i Sion ap Hywel Gwyn, car arall eto i'r abad hwn, ganu gan gwyno nad oedd modd cael y croeso arferol yn y fynachlog pan oedd Iorwerth yno, ac y dylid ei anfon ymaith.

Bu bron i Ifor â dianc oherwydd roedd o'n 'nabod y car.

Yn ail, mae'r garafan yn lletach na'r car, a chofiwch hefyd am y drychau ychwanegol sy'n ymestyn allan.

Stopiodd y Doctor y car o flaen tafarn y 'Gloch', sef y gwesty mwyaf (o ddau) yn y pentre.

'Roedd y bardd yn cydnabod oes y 'never had it so good' yng nghanol y pumdegau pan welwyd y pum miliwn o setiau teledu ar aelwydydd Prydain yn dyblu mewn degawd, a phan ddaeth y car yn hanfod yn hytrach nag yn foethusrwydd.

Dyma rai enghreifftiau: * "Roeddwn i'n pagio'n ara deg panlamodd coeden yn erbyn bympar ôl y car..."

Roedd naws digon oer iddi wrth iddo sefyll ar y palmant, ond fel arfer roedd ceir yr heddlu fel ffwrneisi, a go brin y byddai car Jenkins yn eithriad.

Bu farw Sharon mewn ffrwydriad car yn 1996 a bu Mark yn diodde am sbel ar ôl hynny.

"Help i ddad-bacio'r car 'ngwas i.

Syfrdanwyd y gyrrwr - ond gan gofio'r cyfeiriad a roes y ferch iddo, gyrrodd at y tþ, rhag ofn fod y ferch wedi rhedeg o'r car yn sydyn rhywsut.

Yma, mae CLEDWYN FYCHAN yn disgrifio dwy daith ddifyr y gallwch eu gwneud yn rhannol mewn car ac yn rhannol ar droed.

'Beth sy' gen' i dwi'n 'i roi a beth dwi'n gael dwi'n 'i gadw,' meddai hi a phocedu'r goron.) Ailgychwyn o Bontarelan; lle mae'r ffordd yn gwyro i'r chwith rhyw hanner milltir tu hwnt i'r bont, gadael y car a cherdded ar hyd yr hen ffordd las sy'n mynd ar letcroes i fyny'r llechwedd i'r dde.

'Diawch, tyrd allan o'r car 'ma,' meddwn i a heb i mi sylweddoli, roedd y car wedi gadael y ddaear ac yn gyrru'n hamddenol drwy'r awyr.

Ni chawsom yr un driniaeth, er bod yn rhaid i ni agor cist y car a dangos pob llyfr oedd gennym.

Wedi cael lle i adael y car, dyma sylweddoli ein bod newydd osgoi cael ein dal ynghanol gorymdaith filwrol, gyda thanciau, yn arwain o'r barrics i ganol y dref.

Os gwerthir car fu'n eiddo i berson enwog, llwyddiannus neu gyfoethog, bydd pobl yn heidio i brynu'r car yn y gobaith y caiff lwc y cyn-berchennog ei drosglwyddo i'r perchennog newydd gyda'r cerbyd.

Wrth i Adam orfodi'r car i mewn i gêr arall, ac i'r injan brotestio'n chwyrn, dechreuodd Gareth boeni o ddifrif am y posibilrwydd hwnnw.

Toddai'r rheffyn pobl o'i flaen yn gyson fel y deuai car ar ol car i'w sugno i mewn i'w grombil.

Roedd yn amlwg y gellid erlyn lladron y car am gymryd y car, nid oedd hwn yn anhawster o gwbl.

Edrychodd i fyny'r stryd ond doedd dim golwg o'r car.

'Ond mi fydd 'na fwy nag un car yn mynd heibio,' meddai Iestyn.'

A oedd e'n mynd i ddod o'r car i helpu ei gyfaill?

Fel y cwympai'r refs ac y collai'r car ei gyflymiad, gwelai gar Davies a Rogerson yn cilio i'r pellter.

Cael car wedyn ar draws Delhi i ganolfan mudiad arall, AFPRO (Action for Food Production).

Mae Cwmni Thrifty Car Rentals Caerdydd yn rhan o Thrifty, Y Deyrnas Unedig, ac hefyd yn rhan o rwydwaith byd eang Thrifty, yn cynnwys 1000 a mwy o ganolfannau mewn dros 50 o wledydd.

Gollyngodd Andrews y ffôn yn sydyn a thaflu'r car o amgylch cornel sydyn.

A'i lais yn fflat a diemosiwn, canolbwyntiai ar geisio cadw'r car rhag gwyro oddi ar ffordd gul, droellog ar hyd yr arfordir a disgyn dros y clogwyn serth i'r môr.

Ond fedrwn i ddim peidio â chwerthin pan gyhoeddodd Aled yn y car ein bod ni bellach yn mynd heibio i'r twnnel newydd rhwng Conwy a Phenmaenmawr am y drydedd gwaith!

Mae'n werth gofyn i'r trydanwr sicrhau fod lampau niwl y car yn datgysylltu wrth i'r plwg fynd i mewn, neu fel arall fe all yr adlewyrchiad ar du blaen y garafan fod yn ddiflas pe baech angen defnyddio lamp niwl y garafan.

Trwy gadw'n dawel ac yn effro llwyddodd hi i gofio rhif y car a rhoi'r wybodaeth i'r heddlu.

Os yw gyrru car ar y ffordd yn beryglus, cymaint mwy felly yw rasio ceir yn broffesiynol.

O'r diwedd, yr oedd y car yn wag a'r bwthyn yn edrych fel petaent yn byw ynddo - yn wahanol iawn i'r olwg oer, rhy daclus a oedd arno pan gyraeddasant.

'Roeddynt wedi gyrru eu car drwy'r ffenestr i gael at yr offer.

Does yna neb arall yn mynd y ffordd yma efo car.

Wedi byw am flynyddoedd fel chwarelwyr, arian bach, a gwaith peryg, bellach car yn ymddangos am y tro cyntaf mewn garej, a charped o wal i wal, a dyn yn cael cyflog teg am ddiwrnod gonest o waith.

Y Car Concrid 'Un dydd mae gyrrwr lori cario concrid yn gyrru heibio ei gartref gyda llwyth pan sylwa ar gar crand - "sports car" yn y dreif.

Deall wedyn mai fy nghyfaill Bernard oedd yn gyrru a ddim yn arfer gyrru car gyda'r llyw ar yr ochr dde ac wedi mynd yn rhy agos i balmant a malu teiar.

Doedd dim modd iddo wybod y byddai'n rhaid iddo erlid rhywun yn y car, ond fe gofiai o hyn ymlaen - pe bai'n byw trwy hyn oll - i fynd â char manual gydag ef pan weithiai ar 'op'.

'Mae rhywun yn tueddu i dreulio'r amser yn mynd o'r tŷ i'r car, ac yn ôl i'r tŷ, felly mae'n bwysig gwneud ymarferion', ebe Beryl Owen, cyd-drefnydd rhanbarth Dinbych, Clwyd.

"Ydach chi'n meddwl y medra i gael ych help chi i symud y car 'ma o'r mwd?

Synnwyd y a dyma stopio a cherdded heibio'r car tua drws cefn ei gartref.

Yno y diflannai am oriau, yn blentyn, i hongian ar iet yr ardd, ac i smalio gyrru car mewn sgerbwd hen dractor rhydlyd.

Yr oeddem yn y drws yn barod i gychwyn yn y car modur a dyna dwmpath o rywbeth du yn sleifio i mewn i'r porth.

Wedi dianc o'r car, cafodd y bechgyn egni newydd o rywle a dechrau rhedeg yn wyllt i bob cyfeiriad tra llusgai Carol ar eu holau'n wan fel balŵn wythnos wedi'r parti.

mi roith Pero a finna wth i chi." Rhoddodd Elis Robaitsh holl rym ei bymtheg stôn y tu ôl i'r car a dechreuodd hwnnw dishian a thagu yn ffyrnig.

Arhosodd y car yn ymyl y ddau ac agorodd Gareth y drws.y tro cyntaf.

Nesaf oedd y trip i fyny Table Mountain mewn car cÚbl.

Ymestynnai Gaenor dros yr olwyn lywio i agor drws y car iddi.

"Rydan ni i gyd wedi blino, ond mae pawb i helpu cario pethau o'r car," meddai Dad.

Trwy'r smotiau gwyn o flaen ei lygaid, gwelai gar Davies a Rogerson o'i flaen, yn nes yn awr, a'r car arall ryw ugain llath o'u blaenau nhw.

Edrychodd yn gyflym yn ei ddrych, cyn llywio'r car i'r lôn araf a dilyn yr arwyddion tua'r gwasanaethau cyfagos.

Gyrru'r car yn wysg ei din am ryw ddeugain llath, a dod o hud i'r ffordd.

"Dydw i ddim yn meddwl y medrwn i ddal rhyw lawer iawn hwy - rydw i bob amser yn teimlo braidd yn sâl mewn car."

roedd y citroe%n hwnnw yn dwyn y llythrennau bi, felly roedd debra yn gwybod bod y car yn dod o o yng ngogledd sbaen.

Bydd sawl sy' gosod y socedi i chi hefyd yn gosod uned fflachio newydd ar gyfer y goleuadau troi gan nad yw'r un gwreiddiol mewn car yn ddigon pwerus i ymdopi a'r garafan yn ogystal.

Roedd yn gred yn ardal Abertawe yn y pumdegau na fyddai gyrwyr ceir rasio ond yn cerdded o flaen y car unwaith cyn ras.

Cododd Iona'n gyndyn a mynd allan at y car.

Wrth fynd heibio'r gornel, fe welodd eu car yn plymio dros y dibyn a'r fadarchen o betrol llosg yn selio ffawd y ddau am byth.

* pa mor gyfforddus ydi o i bobl efo'ch math chi o amhariad; * a ellid ei ddefnyddio'n hawdd ar gyfer gweithgareddau megis, er enghraifft, chwaraeon neu ddawnsio cadair olwyn; * faint yw ei bwysau a pha mor hawdd y gellir ei godi i mewn a'i storio yn eich car; * pa mor hawdd y gellir ei symud ar wahanol wynebau; * pa ddewis mewn lliwiau a defnydd sydd ar gael.

Ond cyn gynted ag y cafwyd ef i mewn i'r car, dyma fe'n agor y ffenest ac yn mynd ymlaen â'i ddarlith o'r fan honno!

Yn ddefnyddiwr cadair olwyn, bu'r cyn-athro o Ddwyran, Ynys Môn, yn ddiwaith am gyfnod hir cyn cael swydd - gan weithio o'i gartref - yn trefnu cludiant i bobol anabl eraill sydd heb ddefnydd car.

Prynwyd carped tew, o faint, a'i rowlio am yr hen wraig a'i rwymo ar y rac ar ben y car.

"Dyna ddechrau iawn beth bynnag," sibrydodd Huw, yna, gwelodd Iona yn rhythu arno a brysiodd i gefn y car i nôl y bag yn dal ei deganau a'i lyfrau er mwyn eu cario i lofft y bechgyn.

Ynddo roedd nodyn yn ymddiheuro am "fenthyca'r car" ac unrhyw drafferth a achoswyd o ganlyniad, ond roedd cariad y gþr a sgrifennodd y nodyn wedi ei tharo'n wael ac yntau wedi gorfod ei rhuthro i'r ysbyty yn y car agosaf.

Pan oedd y lleidr ar fin cyrraedd y car daliodd Debbie ef.

Aeth y cyfarfod yn un hwyr iawn, gan achosi rhyfel cartref yn y car yn ddiweddarach.