Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

carchar

carchar

Yn ôl yr arfer hwn byddai swyddogion carchar yn gwthio tiwb dwy droedfedd o hyd drwy drwynau'r carcharorion.

Felly, fy annwyl gyd-derfysgwyr cawn eich gweld yng Nghyfarfod Cyffredinol y flwyddyn nesaf os na fydd pob copa walltog ohonom yn y carchar wrth gwrs.

'Carchar i Charlie' meddai Harney.

Yn 1937, os torrai rhywun y gyfraith, roedd carchar bron yn anochel.

A chwarae teg iddo fo, mi anfonodd gardyn o'r carchar yn ymddiheuro i'r cawg.

Yn sydyn gwelodd y gŵr yn dod tuag ato o'r coed, yr un gŵr bychan ag a welsai yn dod o'r fynwent, gyda'r dyn a ddihangodd o'r carchar.

Yn yr un cyfnod, aeth Morris Williams, perchen Gwasg Gee ers rhyw flwyddyn ar y pryd, yn aelod o gyngor Bwrdeistref Dinbych; a gallodd roi gwybod am ei lwyddiant i'r Tri yn eu carchar, drwy lunio stori fer am lwyddiant y Blaid Ddirwestol mewn etholiad yn Nhretomos (Tomos Gee, wrth gwrs) a'i hanfon i'r Eisteddfod Genedlaethol i'w beirniadu gan DJ Williams, yntau wedi cael caniatâd yr awdurdodau i feirniadu o'r carchar.

Dywed y trydydd pennill 'trydydd chwarter canrif ni wêl dy gnawd'; a derbyn mai angau yw'r 'trydydd carchar ac osgo'i gysgod arnad', yna pa 'larwm', pa ragargoel a gawsai SL.

Doedd ef ddim yn ddigon tal i'w dilyn, fodd bynnag, ond wedi clywed am heddlu'r carchar "teimlwn fod yma ryw fath o her, rhywbeth gwahanol" ar ei gyfer.

Atgofion ceidwad carchar am holl brofiadau ei yrfa.

Yn wyneb safbwyntiau o'r fath bydd diddordeb arbennig mewn llyfr sydd newydd ei gyhoeddi gan gyn swyddog carchar.

Yr oedd y carchar yn y nos fel claddfa, pob carcharor yn ei gell fel pe byddai mewn arch ar ei sefyll ac yn unicach na chorff yn ei amdo, a'r goleuadau bychain y tu allan i'r celloedd fel y lampau bychain hynny ar feddau mynwentydd Catholig y cyfandir.

Gadawodd y rhain gof am sefyll yn nannedd y sefydliad ar gost addoli mewn ogofeydd o olwg ysbi%wyr y Llywodraeth, ar gost carchar yn achos Vavasor Powell ac eraill, ac ar gost ei fywyd i John Penry.

Ar ôl treulio cyfnodau hir yn y carchar yn y gorffennol, penderfynodd roi tro ar fyw bywyd newydd.

Bu Mark yn y carchar am werthu cyffuriau.

Cyfyd ei llef o'r tlotty, y carchar a'r bedd'.

Anfonwyd at y canghennau i'w hannog i sefyll mewn etholiadau lleol: nid anogaeth wreiddiol iawn, ond mae'r anogaeth yn llai pwysig na'r neges o'i blaen, sef bod y Tri yn y carchar am na wnaethai aelodau'r Blaid eu dyletswydd o ennill seddau ar y cynghorau lleol.

Er gwaetha'r holl ganrifoedd o garcharu mae'r ddadl ynglyn â phwrpas carchar yn un sy'n dal i gael ei gwyntyllu.

Ond carchar oedd e!

Carchar am oes i chi am fod yn arweinydd mudiad terfysgol, neu'n arweinydd ymgyrch derfysgol.

Yr oedd ganddynt dri o blant yn byw yn y carchar sef Josephine, Wilhelmina a Frederick.

Daeth Dyff i'r cwm yn 1993 wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar.

Nid oedd gobaith iddo ddianc gan fod milwyr yn gwarchod yr ysbyty fel carchar.

Doeddwn i erioed yn fy mywyd wedi gweld carchar.

Pa sawl un a hyrddiodd i'r carchar, y gwallgofdy a'r bedd?

A dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas y Llywodraethwyr Carchar, David Roddan, fod y mater yn ddifrifol iawn.

Doedd e ddim fel carchar go iawn.

Mae carchar yn lle rhyfedd.

Y mae distawrwydd y carchar yn debyg i ddistawrwydd mynwent ar ganol nos, y distawrwydd ofnus annaearol hwnnw y gellwch wrando arno a'i glywed; y distawrwydd dirgel, dyrys sydd yn eich amgylchu ac yn araf y eich gorthrechu; yn myned drwy dyllau'r croen i'r corff, yn cerdded drwy'r gwaed i'r galon ac i'r ymennydd.

JOHN MAJOR Ar waelod Heol Clwyd yr oedd y carchar.

Serch hynny, yn groes i'r hyn a gredai'r mwyafrif o bobl, ychydig o garcharorion a fu farw ar fwrdd y llongau carchar a deithiai i Awstralia a 'does dim sail i'r cyhuddiad cyffredin mai diffyg cydymdeimlad ar ran yr awdurdodau fu'n gyfrifol am farwolaethau afraid yn ystod y siwrnai hir.

'Roedd y papur yn dweud ei fod wedi dianc o'r carchar,' meddai'n ddistaw bach fel pe bai arno ofn i rywun ei glywed.

A phan gyhoeddwyd hynny, ac yntau'n eistedd rhwng dau swyddog carchar, neidiodd Silyn ar ei draed mewn gorfoledd a brysio ar draws at Rhian i'w chofleidio'n dynn.

Un rheswm am hynny oedd nad oedd y Llywydd wrth y llyw: a Saunders Lewis yn y carchar, nid oedd neb o'r dirprwy swyddogion yn gallu manteisio'n llawn ar y gwynt.

Os golygir mai troedigaeth SL yn y tridegau a arweiniodd rywsut at Penyberth a'i daflu ef i 'eol y gelyn', yna beth yw ystyr y 'carchar a'r seler ddilawnter dan lif anafon' yn y pennill cyntaf, cyn dyfod 'Arthur i'th arbed di'?

Ond mae Llywodraeth Israel yn mynnu bod Yassar Arafat yn derbyn y cyfrfioldeb oherwydd ei fod wedi rhyddhau terfysgwyr o'r carchar.

'Carchar i Charlie' meddai'r dorf.

Ysgrifennent lythyrau caru at ei gilydd; edrychai rhai carcharorion yn gariadus ar y bechgyn Borstal a gwyddai meddyg y carchar am y poenydio ar gnawd a'r dirdynnu ar gyrff.

Yr adeg honno yr oedd gorsaf nwyddau dros y ffordd i'r carchar - ac mae'n anodd dweud ym mha un o'r ddau le yr oedd y giwed mwyaf.

Penderfynodd ofyn i Gaplan y carchar am rai llyfrau clasurol Saesneg.

Ysgydwodd Bedwyr ei bem gan ddifaru na fyddai wedi aros yn y carchar, yn lle ymuno â'r ddau benbwl.

A dyna'r gath mewn carchar nes byddai rhywun yn ei gollwng yn rhydd.

Ond 'roedd y demtasiwn yn ormod iddo ac, yn 1994, cafodd ei hun yn ôl yn y carchar.

Mae'n rhyfeddod o gofio'i gefndir - ei dad o hyd yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o lofruddiaeth.

Gwþr caredig oedd gwþr Sir Gaerfyrddin; gwþr cymwynasgar, tylwythgar, teulugar, cymdogion da, boneddigion y tir; gwragedd diwyd, doeth a ffrwythlon; pobl heb ddail ar eu tafod, yn lletygar i grwydriaid, yn talu dyledioon, yn rhoi arian ar fenthyg heb wystl ond ymddiriedaeth, yn cynorthwyo'i gilydd; y bobl a fu'n dioddef gorthrwm a thrais y meistri tir a'r stiwardiaid, yn ymladdd yn erbyn anghyfiawnder, yn aberthu pob dim er mwyn egwyddor ac yn dal at eu hargyhoeddiadau hyd y carchar a'r bedd.

Disgrifir ei brofiadau yn y carchar yn ystod y Rhyfel Byd cyntaf fel gwrthwynebydd sosialaidd i'r rhyfel.

Bu Robert Owen, Dolserau yn y carchar fwy nag unwaith.

Nid yw distawrwydd y carchar yn debyg i ddistawrwydd y wlad, distawrwydd y tir ar fore rhewllyd o aeaf neu'r distawrwydd yng nghanol gallt o goed.

Trodd Mark yn erbyn Dyff a llwyddodd i'w anfon i'r carchar drwy blannu offer wedi ei ddwyn arno.

Mae Mark, fel ei dad, wedi treulio cyfnod yn y carchar a hynny am werthu cyffuriau i blant ysgol - defnyddiodd fan hufen iâ i guddio ei fusnes twyllodrus.

am gyflawni trosedd gyffelyb, dedfrydid yr euog i gyfnod o alltudiaeth am saith mlynedd, tra byddai'r troseddwr a ddedfrydid gynt i dymor o benyd wasanaeth, yn debygol o gael ei gaethiwo mewn carchar ym Mhrydain.

Buasai Myrddin Tomos, cyn ei ddwyn i'r carchar, yn y tribiwnaliaid milwrol yn dadlau dros ei bentrefwyr, ac yno y gwelodd gam-drin ei bobl uniaith gan swyddogion Seisnig y Llywodraeth.

'San ni wedi medru dianc!' Am ba hyd y byddai raid iddyn nhw aros yn y carchar yma o le, Duw yn unig a wyddai.

Dal i bwyso, gyda 3 mis o weithredu difrifol ddwywaith yr wythnos yn erbyn adeiladau ac eiddo'r cwmnïau teledu a'r Llywodraeth. O fewn 5 mlynedd, gwelodd dros 1,000 o aelodau'r Gymdeithas y tu mewn i waliau carchar oherwydd eu rhan yn yr ymgyrchoedd dros Sianel Gymraeg a Statws Swyddogol i'r Iaith.

Edrychai'r carchar iddo ef yn lle caled a haearnaidd heb gwmni merched, yn lle oer heb eu lliw, eu llun, a'u lleisiau.

Cafodd un o'r troseddwyr ei ryddhau o'r carchar cyn y Sulgwyn eleni.

Beichiogi yn y carchar, myn diawch.

Morris Lewis yrfa ddiddorol a chyffrous yn ei ddewis waith ac yn siaradwr Cymraeg yn oedd o frethyn gweddol anghyffredin fel swyddog carchar.

Ond y mae'n cydnabod nad carchar yw y lle i bawb sydd yno.

oherwydd bernid mai dyna oedd galwedigaeth nifer fawr o'r merched o'r dinasoedd a deithiai i Awstralia ar y llongau carchar.

POBOL O BELL Heblaw am y plismon o Fadagascar, y carcharoro o Efrog Newydd a Matron y carchar o Hanover, yr oedd eraill ymhell o fro eu mebyd; dyna i chi Stuart Kirby o Stryd y Castell a anwyd yn y Punjab; Emma Jones, gwraig y cyfrifydd yn Heol Clwyd o Wlad yr Haf; Owen Fox, tincer o Mayo, dyn oedd yn crwydro cryn dipyn mae'n rhaid oherwydd ymhlith ei lu o blant ganwyd Michael ym |Mwlchgwyn, Bridget yn Nefyn, Owen yng |Nghroesoswallt, Rossey ym Mhentrefoelas, Thomas ym Mhenybont Fawr, Kitty ym Mryneglwys a Maggie yn Nhreffynnon.

Gweiddi ac ysgrechian yw arwyddion cyntaf gwallgofrwydd y carchar.

Yr oedd yn barod i ymuno mewn gwrthryfel yn eu herbyn, ymosod arnynt a'u curo, rhwygo'r dorau, chwilfriwio'r ffenestri, gosod y carchar ar dân a dianc.