Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

carcharor

carcharor

Yr oedd y carchar yn y nos fel claddfa, pob carcharor yn ei gell fel pe byddai mewn arch ar ei sefyll ac yn unicach na chorff yn ei amdo, a'r goleuadau bychain y tu allan i'r celloedd fel y lampau bychain hynny ar feddau mynwentydd Catholig y cyfandir.

Agorwyd drws ei gell; rhuthrodd tri cheidwad i mewn iddi; trawsant y carcharor i lawr â'u clybiau a chariwyd Bili Mainwaring yn lledfyw i'r wallgofgell.

Y mae'r distawrwydd di-sūn yn gwasgu ar y carcharor nes ei yrru i weiddi a llefain.

Mae gan Gwyn Thomas gerdd drawiadol yn darlunio carcharor gwleidyddol yn cadw ei bwyll trwy ymgyfeillachu a chrocrotsien yn unigrwydd ei gell.

Dôi'r Caplan unwaith yr wythnos heibio i bob cell i holi carcharor am gyflwr ei enaid ac edrych ar ôl ei fuddiannau ysbrydol.

Llamai'r carcharor gan lawenydd am ei fod yn cael dyfod i'w hen gell gartrefol, a neidiai fel hydd.

Cyflawnid nifer fawr o droseddau o'r fath gan Wyddelod, a dedfrydwyd lladron penffordd ac eraill fel Henry Hope, carcharor ar y Tortoise gyda Benjamin Griffiths ar y fordaith i Awstralia, am ladrata sofrenni.

Ar ôl disgleirdeb y gweledigaethau hyn syrthiai'r carcharor i anobaith a digalondid.