Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

carcharorion

carcharorion

Yn ôl yr arfer hwn byddai swyddogion carchar yn gwthio tiwb dwy droedfedd o hyd drwy drwynau'r carcharorion.

Brithir ei atgofion a'i fyfyrdodau gan gyfeiriadau at arwyr Iwerddon, yn enwedig wedi iddo ganfod fod carcharorion o Wyddyl wedi bod yn yr un gell ag ef o'i flaen.

Dywedodd llefarydd Gwasanaeth y Carchardai: Dyw'r mater ddim yn ymwneud â thrin carcharorion.

Yno trefnwyd ymgyrch i ryddhau'r carcharorion eraill.

Byddai carcharorion y rhyfel cartref yn cael eu gyrru i mewn i gwter, eu gwlychu â phetrol a'u llosgi'n fyw.

Deellais yn ddiweddarach fod y swyddog arbennig hwn yn hoff o of yn cwestiynau fel hyn er mwyn codi ofn ar y carcharorion.

Un a gydweithiodd a hwy oedd Roger Casement, a aeth i'r Almaen i geisio sefydlu brigâd Wyddelig o'r carcharorion rhyfel o Wyddyl a oedd mewn caethiwed yn yr Almaen.

Ceir disgrifiadau manwl yn adroddiadau swyddogol y cyfnod, a hefyd mewn llyfrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, megis llyfr ardderchog Robert Hughes the fatal shore, ac o diddordeb arbennig i ni'r Cymry astudiaeth fanwl Deirdre Beddoe o hynt a helynt y carcharorion benywaidd o Gymru, Welsh Convict Women, a llyfr Dr Lewis Lloyd, Australians from Wales.

Yn ystod cyfnod yr alltudiaeth, adferwyd nifer helaeth o ddeddfau llym y ddwy ganrif flaenorol, yn enwedig y rheini oedd yn ymwneud a lladrata - trosedd a fu'n gyfrifol am alltudio cyfran helaeth o'r carcharorion a gludwyd i Awstralia.

Bob dydd byddai'r jetiau'n dychwelyd yn cario carcharorion Madriaidd - ond yn amlach na heb, byddai un jet yn dychwelyd â chyrff nifer o aelodau'r Lleng Ofod.

Byddem yn gorfod mynd i godi tatws a chydweithio efo carcharorion rhyfel yn y gorchwylion hynny; ond gan mai ffarm oedd fy nghartref bu+m yn ffodus o gael gweithio gartref neu ar fferm f'ewythr ym Mach-y-Saint.

Roedd Gwenhwyfar yn synnu at bryder Medrawd, a'i benderfyniad i hela'r carcharorion coll.

Ildiai'r carcharorion i bob trythyllwch ac ymhalogi, hunan-gariad, Onaniaeth a phechodau annaturiol y cnawd.

Gweithiodd Masaryk i chwalu'r Ymerodraeth Awstria-Hwngaraidd, a oedd yn cynnwys ei genedl ef, cenedl y Tsieciaid, a ffurfiodd fyddin o'r carcharorion Tsiecaidd a oedd wedi eu cymryd i gaethiwed gan y Rwsiaid.

Cawsom afael ar hen biano, a chan fod un neu ddau o'r carcharorion yn gerddorion, ac wedi llwyddo i ddal gafael yn eu hofferynnau, yr oedd gennym eithaf cerddorfa.

Ysgrifennent lythyrau caru at ei gilydd; edrychai rhai carcharorion yn gariadus ar y bechgyn Borstal a gwyddai meddyg y carchar am y poenydio ar gnawd a'r dirdynnu ar gyrff.

Yr oedd hefyd, meddai, yr uwch swyddog olaf i fod yn dyst i'r defnydd o'r ‘gath' i gosbi carcharorion.

Mae'n well i Nipon a gymerwyd yn garcharor gael ei ladd yn hytrach na dychwelyd i'w wlad." Ar ôl meddwl am foment mentrais innau ateb, "Bydd yna groeso i'r carcharorion Prydeinig i gyd pan ânt adref." Yr oedd yn amlwg oddi wrth ei wedd nad oedd yr ateb hwn yn ei blesio'n fawr.

Adeiladodd y carcharorion rhyfel lwybr o'r tŷ i'r chwarel y 'German road' a byddent yn gweithio yn chwarel Graiglwyd gan falu cerrig ar y mynydd, a gwylwyr yn eu martsio'n ôl a blaen.

Funud neu ddau yn ddiweddarach, pan ddaeth gweision Medrawd heibio i gymryd golwg ar y carcharorion, cawsant fod y ddwy gell yn wag.

Oddeutu'r un amser daeth si fod y Siapaneaid wedi darganfod set radio o waith rhai o'r carcharorion.