Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

caredig

caredig

Mynd yno, ac er nad oedd neb yn ein disgwyl nac yn gwybod dim oll amdanom, cawsom gyngor gan gapten i osod ein pabell gyda hwy, fel petaem yn ddau westai yn cael eu croesawu gan wr ty caredig, na wyddai am eu bodolaeth cyn hynny, i fwrw noson dan ei gronglwyd.

O dan yr amgylchiadau, yr unig beth caredig i'w wneud fyddai bod wedi ei gadael hi ar ei phen ei hun i lyfu ei chlwyfau ac nid ceisio esmwythau cydwybod, a dangos i'r byd ein bod ni'n bobl 'neis' yn y bon drwy arllwys ein cydymdeimlad nawddoglyd ar ei phen." "Doedd dim rhaid iddi dderbyn ein croeso..." "Ond roedd y ferch yn dal i'n caru, er ei gwaethaf hi ei hun, ac yn cael ei thynnu fel gwyfyn at fflam noeth.

Mae 'na deulu caredig yno.

Wrth ddiolch iddo am ei sylwadau caredig ynglyn âr cyfleusterau presennol addawodd Alun Michael y deuai yntau fel yr aelodau eraill i sylweddoli bod i'r adeilad ei anfanteision a bod yr angen yn parhau am adeilad i'w barchu.

Mae rhyw falchder yn y ffaith bod y cymeriad wedi gweithio i'r fath raddau a dwi'n gwerthfawrogi pob gair caredig...

Dyna fy hen gyfaill y diweddar J. W. Jones, Tanygrisiau, a ysgrifenai'r "Fainc Sglodion" i'r "Cymro% erstalwm, yn un; gþr a chanddo lygad am lyfrau prin, llyfrbryf wrth natur - ac un caredig iawn at hynny.

Arhoswn gydag ef a'i deulu caredig o nos Wener hyd nos Lun a threuliais y dyddiau, gan gynnwys y Sul, yn turio ymysg y llyfrau.

(Cefais gymorth caredig Miss Rhiannon Herbert rai blynyddoedd yn ôl wrth hel yr hanes.)

Rwyt ti wedi bod yn anlwcus i gael criw mor annifyr, oherwydd maen nhw'n gallu bod yn ddigon caredig.

Sathrodd yr hyfforddwr yn sydyn ar yr ymholiad caredig hwn am, fy nghyflwr a throdd ffynhonnell ei arian ymaith oddi wrth y posibilrwydd y gallwn ddweud rhywbeth ynglŷn â pham na neidiodd y ceffyl.

Cafodd Bowser y gair o fod yn gymydog caredig a rhadlon ond tuag at ei deulu mynnodd ddisgyblaeth haearnaidd ac erys hanes y driniaeth a gafodd Elisabeth ganddo yn staen annileadwy ar ei gymeriad o hyd.

nar Duw caredig sy'n gweiddi wrth ei drysau am gael dyfod i mewn iddynt i aros ynddynt'.

'Gyda'ch caniatâd caredig chi, eich mawrhydi,' meddai, 'mae un cyhuddiad yn erbyn Anti Meg sy'n waeth na'r un o gam-drin y caneri...'

Er hyn i gyd, erys dylanwad y gorffennol ar fywyd yr ardalwyr mewn ysbryd caredig a chyfeillgar.

Bu'n ddigon ffodus i gael teithio ar long y Capten Morfa Williams o Gaernarfon - un o Anghydffurfwyr selocaf y dref honno - a hwyliai o'r Traeth Mawr, a chael gofal caredig y Capten a'i briod gydol y siwrnai hir.

Roedden nhw dan yr argraff fod y trydanwyr caredig yn gosod goleuadau parhaol yn y ganolfan, er mwyn caniata/ u i'w gwaith fynd yn ei flaen drwy'r nos.

Mae llyfrau fel ffynhonnau, a Dyscawdwyr fel goleuadau lawer yr awron ymysg rhai dynion Cymmer dithau (O Gymro Caredig) air byr mewn gwirionedd ith annerch yn dy iaith dy hun.

Gwþr caredig oedd gwþr Sir Gaerfyrddin; gwþr cymwynasgar, tylwythgar, teulugar, cymdogion da, boneddigion y tir; gwragedd diwyd, doeth a ffrwythlon; pobl heb ddail ar eu tafod, yn lletygar i grwydriaid, yn talu dyledioon, yn rhoi arian ar fenthyg heb wystl ond ymddiriedaeth, yn cynorthwyo'i gilydd; y bobl a fu'n dioddef gorthrwm a thrais y meistri tir a'r stiwardiaid, yn ymladdd yn erbyn anghyfiawnder, yn aberthu pob dim er mwyn egwyddor ac yn dal at eu hargyhoeddiadau hyd y carchar a'r bedd.

Fydd rhaid i chi ddim cael bws o Sir Fôn felly." Felly y derbyniodd y tri gynnig caredig Huw.

Wrth weld nifer yr ymwelyddesau caredig a da eu hamcan yn ddiamau yr wyf yn meddwl ddarfod imi wneuthur yn gall drwy ofyn i wraig synhwyrol gymryd gofal o Miss Hughes a'i chadw rhag cael ei boddi gan gydymdeimlad.

Tystia i eiriau caredig Saunders Lewis a beirniadaeth galonogol WJ Gruffydd yn Eisteddfod Manceinion fod yn sbardun iddi.

Mae caredig ferched Jeriwsalem yn arfer paratoi'r diod hwn a'i roi yn hael i'r rhai sy'n mynd i'w tranc." A synhwyrodd rhywrai o wragedd Bwlchderwin felly fod y cawr wedi rhoi un dan y belt i'r corrach?

Rhag i neb fedru gwneud ensyniadau fel hyn amdano, rwy'n siwr y medr dderbyn fy awgrym caredig, a pheri ail-hysbysebu'r swyddi hyn, gan ddwyn y gwynt o hwyliau pob beirniaid drwgdybus ac anwybodus ohono, drwy fynegi yn glir y bydd gwybodaeth o'r Gymraeg yn hanfodol i unrhyw benodiad.

Mae'r gair gwaetha 'mlaena gydag e fynycha - ond mae e'n ddyn caredig iawn, ond deall 'i ffordd e.

Yr wyf yn diolch yn fawr i chwi am eich geiriau caredig am y llithoedd yn y Llenor, daw'r cwbl yr wyf yn disgwyl allan yn llyfr cyn hir.

Fe glywais mai yn "Clai Coediog" Pentraeth y ganed ef, ac yr oedd yn un caredig a chymwynasgar.

A'r rhuo hefyd, yn distewi, yn cilio yn sgil y niwl caredig.

Mi fydd yn rhaid inni eich cadw'n ddiogel am 'chydig o ddiwrnodau.' Rhoddai yr argraff ei fod yn ddyn ifanc caredig iawn ond ni wyddai Glyn ei fod yn edrych ar un o smyglwyr cyfrwysaf y cyfandir.