Gwelai ei gŵr yn taflu ei hances boced fudr o'i boced ac yn cymryd un lân o'r drôr, a'i esgidiau yn twymo ar y ffender, yn ddu am heddiw ar fore Llun, wedi eu hiro â saim, a hwnnw heb sychu yn nhyllau'r careiau, ac yn chwysu yng ngwres y tân.