Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

carfanau

carfanau

Ymladd ffyrnig rhwng carfanau o bobl ifanc a oedd yn eu disgrifio eu hunain fel 'mods' a 'rockers' ar draws Prydain.

Disgwyliwn i'r Cynulliad gynrychioli a rhagfarnu'n gadarnhaol o blaid carfanau a ormesir yn ein cymunedau.

Dylai'r Cynulliad, felly, newid y pwyslais yn y cylch penderfyniadau i gryfhau ymhellach llais y gymuned a'r boblogaeth yn gyffredinol, ac, yn enwedig, llais carfanau a anwybyddir ar hyn o bryd gan y Llywodraeth.

Roedd y carfanau llofruddio wedi lladd tri aelod o un teulu.

Mae'r ffaith bod y carfanau yma wedi uno - er eu bod fel arfer yng ngyddfau ei gilydd - a'u bod wedi cyhoeddi ymateb ar y cyd, oriau'n unig ar ôl i aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod yn dosbarthu taflenni i staff y cyngor yn tanlinellu pa mor sensitif yw'r mater yma.

Er bod carfanau yng Nghymru yn erbyn y Rhyfel, fel yr anghydffurfwyr a oedd yn ymfalchïo yn nhraddodiad heddychlon Henry Richard, a ddywedodd fod 'pob rhyfel yn groes i ysbryd Crist', ffafriol at ei gilydd oedd yr alwad am wirfoddolwyr.