Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

carfannau

carfannau

Y mae'r ffordd y bu'r papurau tabloid yn ystod y dyddiau diwethaf yn corddi teimladau rhagfarnllyd tuag at yr Almaenwyr yn ernes o'r ysbryd milain tuag at wledydd Ewrop sy'n peri i ddyn ofni dylanwad rhai o'r carfannau adain-dde yn Lloegr.

Mae'r ffaith bod y carfannau yma wedi uno - er eu bod fel arfer yng ngyddfau ei gilydd - a'u bod wedi cyhoeddi ymateb ar y cyd, oriau'n unig ar ôl i aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod yn dosbarthu taflenni i staff y Cyngor ddydd Iau diwethaf yn tanlinellu pa mor sensitif yw'r mater yma.