Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

carreg

carreg

'Paid a becso, fenyw fach - fe fyddai'n sych gorcyn mewn dou funud!' Ond i'w phlesio, ymysgydwodd rhag y diferynion dŵr, stompiodd ei sgidie'n drwm ar y llawr carreg ac aeth drwodd at y tan.

Fe synnech weld carreg mor fawr a fedrwch ei symud hefo trosol.

Ac y mae Gwasg Carreg Gwalch nid yn unig yn haeddu ei chanmol am ymgymryd a'r dasg enfawr hon ond hefyd am sicrhau fod y gwahanol gyfrolau yn cael eu cyhoeddi o fewn amser rhesymol i'w gilydd.

Daeth chwarelwr if anc go uchel ei gloch i mewn, ac meddai, er mwyn cael tipyn o hwyl ar draul Francis, 'Mae nhw'n deud i mi, Francis, fod pob carreg sydd yn y twr 'na wedi costio punt i Assheton Smith.'

Mae peth o'r clod yn ddyledus i Blas y Cilgwyn ei hun, sef y plas yn Adpar, Castellnewydd Emlyn, ergyd carreg o'r wasg argraffu gyntaf yng Nghymru.

Oherwydd methiant silicon i ffurfio bondiau dwbl, nid O=Si=O yw'r cyfansoddyn hwn, ond yn hytrach ac nid nwy ydyw ond prif gyfansoddyn carreg a chraig!

Cyhoeddwyd heddiw fod S4C wedi rhoi trwydded i Wasg Carreg Gwalch, Llanrwst, i gyhoeddi cyfrol newydd o'r clasur, Llyfr Mawr y Plant, ar gyfer Nadolig 1999.

Roedd gan BBC Cymru nod eglur flwyddyn yn ôl: datblygu rhaglennu carreg filltir ac adloniant yng Nghymru.

Sylwer ar y mwrthwl-fwyell o Fwlchyddwyallt, erfyn sy'n edrych fel copi, mewn carreg, o fwrthwl-fwyeill metel Oes y Pres.

Carreg arw o dir Cae Meta, un o hen gartrefi ei deulu, sydd ar ei fedd ac arni y geiriau syml, ond hollol gywir a chymwys, 'Athro, Bardd, Llenor'.

Gwasg Carreg Gwlach.

Carreg sylfaen ei chynlluniau yw datganoli grym ac awdurdod i'r eithaf.

Ceir yma arddull wahanol i Carreg, gan fod y penillion yn weddol acwstig eu naws, ac yn sicr mae llais Mei yn gweddu'r math yma o gerddoriaeth yn well.

Mae S4C yn fodlon iawn ar gynnig Gwasg Carreg Gwalch ac yn edrych ymlaen at weld cynnyrch o safon uchel yn ymddangos yn y siopau cyn hir.

Pws Esgid Uchel; Hugan Fach Goch. Gwasg Carreg Gwalch.

Llyfr clawr caled, swmpus fydd e, meddai Myrddin ap Dafydd, perchennog Gwasg Carreg Gwalch.

Llithrodd Geraint ei lygaid i lawr y wal honno, fesul carreg, nes gweld yn y gwaelod ...

Trodd Douglas i'r chwith a gwelodd y gelyn yn cwympo fel carreg i'r ddaear.

Ac ar ôl teithio ychydig, fe darawodd fy mhen glin yn erbyn carreg finiog, a dechreuais waedu'n ddrwg.

Dyma ddechrau arni o ddifrif rwan gan eu bod wedi colli llawer o amser tra oedd y creigwyr yn llnau'r graig; wedi rhoi rhyw saith modfedd o dwll ym mhob carreg a'i phowdro, rhaid disgwyl yn awr am i'r biwgl ganu eto, a dyma'r un drefn ag o'r blaen.

auguste visschers, mae'n dda gennyf gael dweud bod carreg gyntaf teml heddwch wedi cael ei gosod ym mrwsel.

(Pe bai rhywun yn cymryd y fforch dde byddai honno'n mynd heibio i adfeilion hen dollborth Tyrpeg Elan ac ymhellach draw Tyrpeg Neli nad oes carreg ohono ar ôl erbyn hyn.

Dyma gasgliad arall o farddoniaeth yn y gyfres boblogaidd o Lyfrau Lloerig gan Gwasg Carreg Gwalch.

Mi glywais y lleisiau a glywais yng Ngherrig Duon sawl tro wedyn mewn drama neu stori ar y radio a'r teledu, a theimlo mod i'n 'nabod cymeriadau Carreg Boeth (Hufen a Moch Bach) cystal â'r Parch.

Gwasg Carreg Gwalch.

'Cartrefi ar gyfer angen lleol' yw carreg sylfaen Tai Eryri fel cymdeithas sy wedi ei leoli'n gadarn yn y Gymru Gymraeg.

Dadleuai rhai eu bod nhw wedi gweld y llong ac nad oedd rhagor na thafliad carreg i ffwrdd.

Mae digonedd o dyfiant ar y graig o ynys fechan dafliad carreg i ffwrdd, ond allan o gyrraedd dannedd y defaid a'r geifr.

Yr Arth Grisli gan Gary Paulsen (addasiad Esyllt Nest Roberts). Gwasg Carreg Gwalch.

Mae pig y gylfinbraff mor fawr a chryf fel e fod yn gallu cracio carreg surain yn hawdd i gael y gneuen.

Uwchben yr haenau du yma o esgyrn mae carreg galch a sial y creigiau Lias i'w gweld, ac yn wir, mae yna lwybr o'r traeth sy'n arwain i fyny'r clogwyn ar y garreg galch.

'Hywel Greulon ydw i,' meddai'r wyneb carreg.

Serch hynny, mae modd ychwanegu ambell eitem ac, ar hyn o bryd, rydym yn paratoi ar gyfer arddangos pen carreg Celtaidd o fferm Hendy, Llanfair-pwll.

I'r paganiaid Celtaidd, nid cofadail i ŵr marw oedd carreg fedd yn gymaint â llestr yn cynnwys ei ysbryd.

Am foment bu'n hofran yn yr aer, wedyn plymiodd i'r môr fel carreg.

Uniaith Almaeneg - iaith y visitors - oedd y rhybudd llefrith-ar-werth yn ymyl hafoty Funtauna, ond y bwlch ydyw'r ffin rhwng tai pren Davos a thai carreg yr Engadin, rhwng Almaeneg unigryw y Walseriaid a'r ffurf ar Reto-romaneg a elwir mor briodol yn Lladin.

Doedd ryfedd i'r teulu yma fynd yno i ymofyn cerrig, oherwydd maent yn hannu o deulu Cwrt Isaf, yr oedd y rheiny yn adnabod pob carreg a oedd yn y lle.

Mae Gwasg Carreg Gwalch yn un o weisg prysuraf Cymru, yn cyhoeddi amrywiaeth o lyfrau ac yn cynnig gwasanaeth argraffu.

Ceir enwau cyffelyb yng Nghymru wrth gwrs ond sylwais ar yr enwau tafarnau canlynol o bob rhan o Gymru sy'n cynnwys enwau adar, anifeiliaid ac un pysgodyn pur gyffredin: Tafarn Ditw, (LLan-y-cefn, Penfro); Tafarn Hwyaid, (Carreg-lef, Mon), Tafarn y Brithyll (Ystradmeurig, Ceredigion); Tafarn y Cornicyll (Llanwenog, Ceredigion); Tafarn y Gath

Yma hefyd mae Carreg Arthur sy'n ein hatgoffa am y chwedl mai carreg yn esgid y Brenin Arthur oedd y garreg fawr yma sy'n pwyso dros bum tunnell ar hugain!

Os bydd yn rhywfaint o gymorth ichwi ddyfalu pwy ydynt - mae y ddau yn byw o fewn tafliad carreg i Eglwys St.

Ar ôl y saethu mawr mae'r cerrig sydd wedi dod o'r graig yn rhy fawr i neb fedru gwneud dim â hwy, ac felly rhaid cad twll eto ym mhob carreg, ond ddim yr un math o dwll â'r cyntaf: twll singl hand y gelwir hwn gan mai un dyn sydd yn ei wneud; ebill bychan sydd ganddo ac mae'n taro a throi ar ei ben ei hun.

Dyna pam y cafodd y geiriau hyn eu hysgrifennu yma, lle bu cymaint o blant yn llefain am eu rhieni, a lle heddiw y saif ysbyty mwyaf modern America Ladin, fel carreg fedd i'r gyfundrefn ofnadwy honno.

Carreg filltir yw blwyddyn newydd, cyfle i orffwys, cyfle i fyfyrio, cyfle i edifarhau, cyfle i ymadnewyddu.

Fedrai Ynot Benn ddim aros y dydd pan welai Affos y Brenin yn gosod carreg sylfaen y Casino Newydd a'r ddau fwldoser mwya'n y byd o bobtu iddo, yng nghanol y Lotments.

Ymhen rhyw filltir dda, cyrraedd Carreg Rhita (Carreg yr Adar ar y map).

Dengys darlun carreg Rhuddlan sydd ar y map yr hiciau a dorrai'r Gwyddelod ar ochrau'r meini, dyma'u dull hwy o ysgrifennu.

' Digwyddai fod y torrwr beddau'n gweithio'n hwyr ac yn gorfod saethu carreg fawr cyn y gallai orffen agor bedd.Does braidd dim na all gwrachod ei wneud.

Golygydd Gwasg Carreg Gwalch.

Pan ddaeth taid y Frenhines yma ddechrau'r ganrif i osod carreg sylfaen y Llyfrgell roedd pawb yn Frenhinwyr pybyr.

Clywodd sŵn carreg yn atseinio yn erbyn carreg a syllodd ar y corachod.

'Whâ!' meddai hi, 'gafael ynof i!' ac yn lle disgyn fel carreg, cymerais ei llaw ac roeddem fel dau aderyn.

Wedi ei gosod unwaith ni fyddai byth yn tynnu carreg o'i lle i'w hail-osod--dyblu'r gwaith fyddai hynny.