Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

caru

caru

O dan yr amgylchiadau, yr unig beth caredig i'w wneud fyddai bod wedi ei gadael hi ar ei phen ei hun i lyfu ei chlwyfau ac nid ceisio esmwythau cydwybod, a dangos i'r byd ein bod ni'n bobl 'neis' yn y bon drwy arllwys ein cydymdeimlad nawddoglyd ar ei phen." "Doedd dim rhaid iddi dderbyn ein croeso..." "Ond roedd y ferch yn dal i'n caru, er ei gwaethaf hi ei hun, ac yn cael ei thynnu fel gwyfyn at fflam noeth.

Aeth Stacey i Gaerdydd ac yn fuan iawn 'roedd hi'n caru gyda Cai.

wel, beth mwy allwn ni ei wneud na charu'n gilydd?" "Caru'n gilydd ddigon..." "Os wyt ti'n torri dy galon fel hyn, tybed sut mae Romeo a Juliet yn teimlo heno?

Mae'n anodd caru dau sy'n methu cyd-weld - a gall y gwaed coch cyfan fod yn rhwystr.

'Dydw i ddim yn dweud.' 'Pwy sy'n dy licio di, 'ta?' 'Wn i ddim.' 'Pwy sy'n caru dy wallt hir tywyll ac yn ysu am gribinio ei fysedd drwyddo?...Bertie?' Chwarddodd Bigw yn bryfoclyd.

Cofiwn hefyd eiriau'r Salmydd: 'Fy llinynnau a syrthiasant mewn lleoedd hyfryd; y mae i mi etifeddiaeth deg.' Yr oedd David Ellis yntau yn caru bro ei febyd yn angerddol.

Ni alwyd Greta'n 'slwt' erioed gan Paul, ac nid yw'r awdur chwaith mor nawddoglyd wrth lunio'u golygfeydd caru.

Rwyf fi'n llenydda am fy mod i'n caru crefft llenydda, yn caru geiriau a rhythm geiriau; felly rwy'n tristau'n arw wrth feddwl y gellir fy ngalw - a hynny'n gyfiawn - yn ddieithryn yn fy ngwlad fy hun.

Bu'n caru wedyn gyda Helen, ffrind gorau Karen, a thorrodd Helen galon Haydn ddwywaith drwy garu gyda dynion eraill.

Dywedodd wrthyt, ddyn, beth sydd dda a'r hyn a gais yr Arglwydd gennyt: dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru ffyddlondeb, a rhodio'n ostyngedig gyda'th Dduw.

Hannah'n caru a chynghori o bell; O mor hawdd!

Bu Hywel yn caru gyda Dr Rachel pan oedd o yn y coleg.

Yn Lloegr y mae merched amaethwyr yn barchus; yng Nghymru y maent yn gyson yn caru yn eu gwelyau.

Ond mae Hywel yn caru Rhys a llwyddodd i gael meddiant ohono yn y diwedd ar ôl i Nia fod mewn damwain erchyll.

Cofiwn yn annwyl iawn am Megan fel un yn caru gwneud cymwynas, un yn caru rhoi o'i gofal a'i hamser a'i chwmni, un oedd yn caru rhoi o'i hamser ar daith bywyd i ysgafnhau beichiau pobol eraill, yn gristion cywir a ffrind ffyddlon i lawer.

Y trwbwl oedd i fod e'n caru'i wraig yn ormod.

Gwenodd y wên ynfyd sy'n rhagflaenu caru.

Byddai'r gwrandawyr yn gwybod ar unwaith wrth glywed 'Morgan Hyderus' yn sôn fod y Cymry'n caru yn y gwely, mewn ffordd mor wahanol i'r Saeson diwair, mai parodi oedd o dystiolaeth William Jones, ficer Nefyn, ac ni allai fod unrhyw amheuaeth ynglŷn â'r sylwadau ar y Gymanfa Bwnc gan 'Haerllugrwydd Cableddog Troedyraur' (t.

Dyn pobl ydoedd, yn y ffordd orau bosibl yn caru poblogrwydd.

Caru'r nos yw'r 'porth lletaf i anniweirdeb'." Gellir meddwl bod llawer o ddarllenwyr Baner ac Amserau Cymru yn aros yn awchus am ddarllen hanes Wil Dafydd ar ôl blasu'r broliant hwn ac ni siomwyd hwy.

Y mae canu, moli a bendithio Duw mor naturiol i ddyn sydd yn caru IESU GRIST, ag ydyw i'r fam naturiol fawrhau, cofleidio, cusanu...ei mab cyntaf-anedig...

Bu'n caru gyda'u merch, Cathryn, am sbel ond pan gyrhaeddodd Carol Gwyther y pentre trodd Dic ei olygon tuag ati hi.

Rwy'n wr sy'n caru heddwch a syniadau.

Ysgrifennent lythyrau caru at ei gilydd; edrychai rhai carcharorion yn gariadus ar y bechgyn Borstal a gwyddai meddyg y carchar am y poenydio ar gnawd a'r dirdynnu ar gyrff.

Nid yw ryfedd yn y byd, felly, ein bod ni sy'n caru Cymru fel Cymru ac sy'n dymuno gweld yr hen ddiwylliant a'r iaith yn ffynnu, yn ystyried y Cymydog Mawr yn fygythiad.

Fe geir yma wefr y caru cyntaf ond gwewyr y dadrithio hefyd.

'Mae syrthio mewn cariad yn bur debyg i syrthio oddi wrth ras', meddai Mrs Elias, a 'caru ydy'r perygl mwyaf i weddio'.

Yr hyn oeddwn i eisiau ei wybod oedd a fuo fon caru y noson cynt.

Y casgliad cyntaf o lythyrau caru Dylan Thomas.

Ac, yn bwysicach, am rywun in caru.

Digwyddiadau fel sylweddoli fod dy gariad di yn caru rhywun arall ac ar waethaf pob peth, ei fod yn mynd i' d'adael di am y person hwnnw." "Marc, bydd yn rhesymol..." "Rhesymol yw derbyn wedyn fod yn rhaid cael halen ar y briw - mai dy ffrind gorau di yw'r ferch arall yn y darlun." "Wrth gwrs, os oes angen beio unrhyw un, rwy i'n fwy euog na neb.

Gan eu bod i gyd yn ddynion cyfunrywiol, a oedd rhywbeth yn eu haferion caru yn gyfrifol am y newidiadau?

Maddau inni'r camweddau hyn ac arwain ni i weld fod plant Cymru yn rhan o'n cyfrifoldeb am dy fod Ti wedi eu caru a bod bendithion yr iachawdwriaeth wedi eu harlwyo ar eu cyfer hwy fel ninnau, ond iddynt gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist.

Wedi rhoi'r gorau i ffermio a mynd yn drethwr, bu fyw yn llawer mwy hapus ac yn eithaf cefnog ei fyd, ac roedd ei swydd yn caniata/ u iddo gryn hamdden gyda'i lyfrau; ac ni fu neb yn caru llyfrau fwy.

Busnes rhyfedd oedd y busnes caru yma, yng ngolwg Joni.

Ynglyn a'r profiad hwn, efallai fod y beirdd i gyd yn gweld y byd mewn ffordd amgenach na'r dyn cyffredin am eu bod yn ei weld a llygad cariad : y maent yn caru'r byd a ddaw iddynt ar lwybrau'r pum synnwyr ac yn ei fawrhau yn arbennig yn y ffordd y maent yn ei amgyffred.