Y noson honno cafodd Gwaethfoed a Morfudd lety gyda chawr o'r enw Carwed Feudwy wrth odre Rhiw Garwedd ond pan geisiodd y cawr lofruddio'r ddau yn eu cwsg fe laddodd Gwaethfoed hwnnw hefyd.
Gan fod hen draddodiadau yw'n cysylltu mwy nag un cawr â'r Hengae mae'n bosibl iawn mai yno y trigai Carwed ac mae Rhiw Garwed oedd hen enw'r llechwedd rhwng Bwlch y Clawdd Du a'r Hengae.