Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cast

cast

'Mae 'na rhyw berthynas agos rhwng y cast a'r gynulleidfa, ac mi rydach chi'n sylweddoli'n fuan iawn os nad ydy'r gynulleidfa yn hapus.

Yn ogystal â Meg Ryan, mae'r cast yn cynnwys Robert Downey Jr.

Gan fod y cast mor niferus, ymddangosai'r lle yn eithaf llawn, ac yr oedd hynny yn fy ngwneud yn fwy cysurus.

Wrth i'r cast ddod at ei gilydd i ymarfer "A Ddioddefws a Orfu%, doedd neb yn ymddiheuro.

Ond mae'n bryd i'r Eisteddfod ddeffro a wynebu'r ffaith mai dyma'r realiti ac nid yr iaith flodeuog yna sydd ar y llwyfan, ac rwy'n credu y bydd y gynulleidfa yn ei dderbyn e." Roedd y sgript wedi ei anfon at yr Archdderwydd, neb llai, er mwyn cael sêl bendith swyddogol ac, wrth i'r cast ddechrau gweithio arno, fe gafodd rhai elfennau eu newid, gyda'r disgyblion yn datblygu llawer o'u syniadau eu hunain.

Ni faglodd yr un o'r cast dros eu geiriau.

Ymddangosodd aelodau o'r cast yng Ngwyl y Gelli i berfformio golygfeydd o'r ddrama, tra y bur uwch gynhyrchydd David Ian Neville yn cynnal gweithdai awduron i ddilynwyr brwd yr opera sebon.

Rhaid fod yna nifer o bobl yn cyrraedd, y cast, mae'n debyg.

Pwy well na Tom Jones ei hun - duw rhyw y Cymoedd gyda supporting cast o - Cerys Matthews, Catatonia a Kelly Jones a Stuart Cable o'r Stereophonics.

Mae rhannau o August - fersiwn 'Gymreig' o'r ddrama Uncle Vanya gan Chekhov yn cael ei ffilmio ym Mhen Llyn ac yn cynnwys Hopkins a nifer o actorion Cymreig eraill yn y cast.

Y cyhoeddwr y noson honno (yn y stiwdio gyda'r cast gan mai darllediad byw oedd hi) ydoedd Sam Jones.

Ymddangosodd aelodau o'r cast yng Ngwyl y Gelli i berfformio golygfeydd o'r ddrama, tra y bu'r uwch gynhyrchydd David Ian Neville yn cynnal gweithdai awduron i ddilynwyr brwd yr opera sebon.

Weithiau deuai un neu ddwy o'r cast atom ar flaenau eu traed, ac eistedd i sibrwd.

Daw gweddill y cast o'r Iseldiroedd gyda rhai ohonynt yn wynebau adnabyddus i gynulleidfaoedd Cymru a'r Iseldiroedd.

Ofnai rhai mai cynllwyn ydoedd cefnogaeth y Blaid Rhyddfrydol er ceisio marchogaeth ar gefn y farn gyhoeddus a oedd yn prysur gryfhau o blaid Senedd; "Cast etholiadaol ydyw%, meddai Saunders Lewis gan gyfeirio'n amlwg at yr etholiad cyffredinol a oedd ar ddod, a mynnai rhywun fod yn Rhyddfrydwyr yn bwriadu defnyddio Cymru er mwyn eu plaid a Phlaid Cymru am ddefnyddio'r Blaid er mwyn Cymru.