Dro arall daw Cadog yn êl o Gaersalem a chaiff fod perthynas eiddigeddus wedi llad ei gefnder, digwyddiad sy'n dod ag atgof o'r arwyr yn dychwelyd o Iwerddon ac yn cael fod Caswallon wedi lladd Caradog fab Brên.
Ni chaniatê i Bryderi ladd y crefftwyr cenfigennus, 'y taeogion racco', oherwydd fe rybuddid Caswallon a'i wŷr ac fel canlyniad fe geid galanas ofer.