Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

categori

categori

Fe fyddai Cymdeithas yr Iaith ynghyd â llu o fudiadau di-drais eraill yn syrthio'n dwt i'r categori yma.

Y mae'n debyg y dylid cynnwys yr Wcraniaid niferus yn y categori cyntaf, er bod eu hymwybyddiaeth genedlaethol yn wannach o lawer nag eiddo'r Pwyliaid a'r Magyariaid ar yr adeg hon.

Ni welwn fawr ddim diben mewn gwneud y Gymraeg yn brif gyfrwng addysg holl ysgolion Categori A y sir, oni ddaw'r Gymraeg wedyn yn brif iaith gweinyddiaeth gyhoeddus a mewnol ein prif sefydliadau.

Mae'r Cyfeiriadur yn rhestru nifer o wefannau Cymraeg yn ôl categori.

Nid yw hyn, fodd bynnag, yn eu gosod yn yr un categori â phobl Dduw fel y disgrifir hwy yn yr Hen Destament.

Wrth greu categori 'y rhamantau' neu 'y tair rhamant' pwysleisiwyd gennym nodweddion a barai fod Peredur, Iarlles y Ffynnon, Gereint ac Enid rywsut yn sefyll ar wahân braidd i brif ffrwd y testunau rhyddiaith storiol 'brodorol' (ac nid oes rhaid ailrestru nodweddion tybiedig y rheini yma), ac aethpwyd ati i'w cymharu â'i gilydd er mwyn darganfod y priodoleddau cyffredin a allai gyfiawnhau eu gosod oll yn yr un dosbarth.

Dosberthir pob cais i un o dri chategori yn ôl ei flaenoriaeth Nodir y categori%au hyn mewn cromfachau ar gyfer pob cais:

Mae tri llyfr Cymraeg a thri Saesneg ar y rhestr fer gyda gwobr o £3,000 yr un i'r enillwyr ym mhob categori a £1,000 yr un hefyd i'r awduron eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer..

Y mae'r Gweithgor Ymchwil wedi manylu ym mhob categori ar y projectau y dylid rhoi'r brif flaenoriaeth iddynt yn y tymor byr, (gan gydnabod fod oblygiadau tymor byr a hir ynghlwm mewn rhai ohonynt).

Diau eu bod hwy yn eu gweld yn stori%au am farchogion llys Arthur, a disgwylient ganfod yn y categori hwnnw nodweddion cyfanrwydd yr ymchwil sifalri%aidd, lysaidd, ond o fewn y cyd-destun cyfeiriol hwnnw byddai rhaid i bob stori gynnal ei hapêl ei hun.

Cysylltwyd â'r Prif Swyddog Technegol ac 'roedd o'r farn bod cais o'r fath am gymorth grant yn disgyn mewn categori arbennig "Top Slice% lle rhoddid arian grant o'r neilltu a gwahodd ceisiadau gan ddatblygwyr.

Dull Rhagweithiol: Mae ymgyrchoedd megis cynnig tocynnau arbennig, gwerthu oddi ar y bysus, cynnwys gwybodaeth am gludiant cyhoeddus mewn pecynnau cyflog a phecynnau hyrwyddo a darparu llinell gymorth ar amserlenni'n briodol i'r categori hwn a dylid eu helaethu.

Yn "Y Cwestiwn Cenedlaethol a Threfedigaethol' cais ddiffinio cenedl: "Categori hanesyddol nid ethnographig yw 'cenedl' .

Ond creadigaeth fodern yw categori 'y tair rhamant' oherwydd nid oes tystiolaeth fod copi%wyr, nac, mae'n debyg, ddarllenwyr, y gweithiau hyn yn eu gweld yn hanfodol gysylltiedig â'i gilydd.

Mae'r rhif yn dynodi blaenoriaeth o fewn y categori hwn, yn ôl y panel

Yn y sefyllfa bresennol gellir yn fras ddisgrifio lefel ieithyddol plant mewn pum categori: a) hwyr-ddyfodiaid; b) dysgwyr; c) dysgwyr da; ch) safon estynedig yn y Gymraeg; d) mamiaith.