'Chi ydi Cathy ma'n siŵr, merch Brian Andrews?'
Pwysodd Cathy ar Anna i ddod i weld y cwch ar dreialon neu hyd yn oed ar y ras fawr gyntaf i Iwerddon.
Roedd Cathy yn fyrlymus ei chroeso gan fod ei thad wedi sôn wrthi am yr erthygl ac am ei wahoddiad i Anna ddod i weld y cwch.
Efallai nad oedd o'n hoffi iddi ymyrryd rhyngddo fo a Cathy ond ni allai esbonio'i ymateb i'r holi am Maes Môr.
Roedd William yn lecio cael ei bryfocio gan Cathy a gwenai'n swil wrth sipian y coffi chwilboeth.
Mae o mor ffyddlon ac ufudd ag unrhyw gi defaid,' pryfociodd Cathy.
Mae hi'r ochr arall i'r dre,' meddai Cathy yn frwdfrydig.
Eglurodd Cathy ei bod yn mynd ar gwrs hwylio i Blas Menai ymhen pythefnos.
Gwnaeth Anna nodiadau cyflym yn ei phen ac yn fuan, trwy hynawsedd agored Cathy, roedd yn gwybod cyflymder y cwch, lleoliad popeth o bwys a hyd yn oed pwy fyddai'n arfer criwio i'w thad.