Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cawell

cawell

Gosododd Orig y cawell ar ben y gist de.

Roedd Smwt wedi codi trywydd traed rhywun dieithr o gwmpas y cawell.

Agorodd y gyriedydd y cawell fel y gwnaethai lawer gwaith o'r blaen mae'n siwr, plygodd Mrs Trench a dechreuodd rannu'r hosanau llawnion gwerth eu cael.

Caneri mewn cawell.

Roedd yna fachyn i ddal abwyd er mwyn denu'r gath, ac wrth dynnu yn hwnnw i gael y pysgodyn yn rhydd, roedd gwifren yn gollwng drws i lawr am geg y cawell.

"Mae yna ddarn o bysgodyn ym mhen draw'r cawell." Gafaelodd Wyn yn ysgwydd Einion a dywedodd wrth y lleill am fod yn ddistaw.

Aethant ati i astudio'r cawell yn fanwl er mwyn gweld sut roedd yn gweithio.

Credaf y buasai gan yr Athro fwy o achos i lawenhau, yn hyn o beth pe buasai fyw heddiw, ond yr wyf yr un mor sicr y gwelai ormod o olion o'r drwg hwn ym mywyd y genedl i beri iddo roi ei saethau i gyd yn ôl yn eu cawell.

I mewn â'r cawell i'r ysgol a llithrasom ninnau ar ei ôl yn ddisgwylgar iawn erbyn hyn.

I dorri'r ddadl, rhoddwyd y ffwlbart mewn cawell gyda'r ffureti, ac ymhen rhyw awr yr oedd y ffwlbart wedi cnoi trwy ddrws y cawell ac wedi dianc!

A ma' 'i hannar o wedi colli i fy sgidia' i.' 'Hidiwch befo, mi ges i lond pisar o beth berwedig yn y ty pen, yn y rhes tai sy tu ôl i'r bus 'ma.' 'Tewch, welis i mo'r rheini,' meddai Ifan, yn teimlo'i hun wedi cael cawell.

"Nid neithiwr y gosodwyd y trap cawell yma yn y berllan, ond rhai nosweithiau cynt.

Dyna pam roedd wedi gosod y cawell yn y berllan mor agos i'r tŷ.

Mae'r cawell wedi ei osod gan rywun yn hwyr neithiwr mewn lle reit ddirgel yng nghanol y gwair, ac fe ddaeth y person a'i gosododd drwy'r bwlch yn y berth.

Mae'r caneri mewn cawell yn enghraifft diddorol iawn o rith optegol.

Bydd y caneri'n ymddangos fel petai y tu mewn i'r cawell.

Cawsom arwydd i ddechrau canu ein carolau, amneidiodd hithau ar i'r gyriedydd ddod ati estyn cawell mawr.