Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cawsant

cawsant

Wrth sylwi ar erwinder y tir medr rhywun ddeall sut y cawsant yr enw am fod yn debyg i'r Cardi!

Cawsant y cyfle i weld ffilmiau cartwn wedi eu trosleisisio i amryw ieithoedd - gan gynnwys Ffrangeg.

Cawsant ddau fab.

Er fod tafarn y Gloch dipyn yn hen-ffasiwn, cawsant fod eu stafelloedd gwely'n rhai digon cyfforddus a glân.

Serch hynny, cawsant eu lladd fel estroniaid Twrcaidd.

Cawsant drafferth fawr i'w gael allan o'r awyren gan fod ei goesau'n sownd.

Yna i lawr i Ogwen lle cawsant banad a banana cyn ei g'neud hi am y Carneddau, gyda'r tywydd yn parhau yn niwlog a gwlyb.

Cawsant baned o de cyn troi am adra.

Wedi fy arswydo gan dlodi difenwol fy mhobl sy'n byw mewn gwlad gyfoethog; wedi fy nhrallodi gan y modd y cawsant eu hymylu yn wleidyddol a'u mygu yn economaidd; wedi fy nghynddeiriogi oherwydd y difrod wnaed i'w tir, eu hetifeddiaeth gain; yn pryderu tros eu hawl i fyw ac i fywyd gweddus, ac yn benderfynol o weld cyflwyno trefn deg a democrataidd drwy'r wlad yn gyfan, un fydd yn amddiffyn pawb a phob grwp ethnig gan roi i bob un ohonom hawl ddilys i fywyd gwâr, cysegrais fy adnoddau deallusol a materol, fy mywyd, i achos yr wyf yn credu'n angerddol ynddo, ac ni fynnaf gael fy nychryn na'm blacmêlio rhag cadw at yr argyhoeddiad hwn.

Ond cawsant weledigaeth sydyn.

CYD Aeth nifer o aelodau Cangen Maesteg o Gyngor y Dysgwyr ar ymweliad â Chae'r Delyn, Saint Hilari, Meithrinfa Carys a Patrick Whelan lle cawsant gyngor ar sut i drin planhigion.

Pan oedd ein cyndadau wedi eu llethu gan anobaith, cawsant eu bywioca/ u gan rym atgyfodiad Pen Mawr yr Eglwys.

Yno y cawsant eu geni a'u magu a'u hyfforddi i'r diben o wasanaethu'r tylwyth a'r llwyth hyd eu marw, a phâr ifanc yn eu dilyn i wneud yr un peth wedyn.

Cawsant ginio ac aeth Fred at ei waith.

Aethant yno'n dawel fach yn ystod oriau mân y bore - unwaith y cawsant hyd i'r lle wedi astudio hen fapiau ac wedi archwilio pobman i chwilio am y lle gorau.

Cawsant eu disgrifio fel "morwyr di-ail cyn belled ag yr oedd elfennau morwrio a hwylio llongau bychain yn y cwestiwn".

Cawsant groeso gan yr arolygydd, Mrs Gwenda Friebel.

Cawsant ddirwy drom a phenderfynodd Rhys na fyddai yn ei thalu.

Gwnaeth y ddwy hwylbren lanast ofnadwy o gwmpas y dec, llwyddwyd i gael un ohonynt dros y bylwarc ac i'r môr ond cawsant drafferth gyda'r llall cyn ei rhwymo unwaith eto.

Mwy na hynny cawsant eu trwytho trwy'r ysgolion yn y diwylliant Saesneg.

Yn dilyn eu llwyddiant yno cawsant fynd i Sioe Efrog.

Cawsant bum merch, Megan, Mair, Elenid a Siân.

cawsant sawl cyfle i sgorio ond dim ond un arall a ddaeth a honno gan raducioiu yn hwyr yn y gêm.

Cawsant drafferth mawr i ddychwelyd at y llwybr a arweiniai i fyny'r ceunant.

Un golofn yn cynnwys ymadroddion yr oeddwn yn gwbl hapus a'r ffordd y cawsant eu trin; colofn arall o driniaeth dderbyniol ond y gellid fod wedi ychwanegu ati a thrydedd colofn gydag ymadroddion yr oeddwn yn anghydweld a'r driniaeth ohonynt.

Cawsant waith mewn chwarel yno, ond symud toc i Sunderland i drwsio setts ar y stryd i'r Corporation.

cawsant groeso yr un mor frwd ar ôl iddynt gyrraedd frankfort.

Cawsant eu magu mewn cymdeithas a oedd wedi'i chreu gan y genhedlaeth sydd yn awr yn cymryd arnynt nad ydynt yn deall lle cafodd y plant eu heidioleg.

Ceisiwch gadw 'Dyddiadur diet' am ychydig ddyddiau, gan ysgrifennu rhestr o'r bwydydd rydych yn ei bwyta a'r amser a'r lle y cawsant eu bwyta.

Funud neu ddau yn ddiweddarach, pan ddaeth gweision Medrawd heibio i gymryd golwg ar y carcharorion, cawsant fod y ddwy gell yn wag.

Cyflwynodd Mabon a Ffederasiwn Glowyr De Cymru dystiolaeth fanwl am weithredoedd bwystfilaidd y polîs, ond yn wastad cawsant ateb pendant a boneddigaidd oddi wrth Churchill: 'Na', nid oedd sail ddigonol i gyfiawnhau cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus.

mae testunau gan anghredinwyr yn brin oherwydd cawsant eu llosgi y testunau a'r anghredinwyr gan grefyddwyr.

Wel, dewch i mewn i gyd." Cawsant wahoddiad i aros yn y cartref hwnnw a gofynnwyd i Pamela ofalu ar ôl y ferch, gan nad oedd yn mwynhau'r iechyd gorau.

Yn dâl am hynny, cawsant ddau lun yn anrheg, un o eglwys Sant Ioan yn eiddo iddi hi bellach - yn crogi ar y wal uwchben y piano, ac yn werth cannoedd yn ôl cydnabod i Paul a oedd yn dipyn o arbenigwr.

Cawsant hwy ill tri fwrdd yn daclus yng nghornel y stafell arall am fod honno ychydig yn wacach.

Gyda pawb, fwy neu lai, ym Mhantycelyn yn prynu copi, heb sôn am fyfyrwyr eraill, buan iawn y cawsant yr arian yr oeddent wedi'i wario yn ôl.

Cawsant wasanaeth coffa adref.