Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cefnau

cefnau

Pleser munud awr yw'r cyfan yn y dafarn gyda'r blys, A'r teulu bach yn goddef angen, rhai o'r plant yn llwm eu crys: Ac heb ddillad ar eu cefnau, heb esgidiau am eu tra'd Pennoeth, coesnoeth ar yr heol yn newynllyd iawn eu stâd.

Mewm un cornel o'r stafell y tu ôl i un o'r pileri, roedd mintai fechan o ddynion wedi troi'u cefnau ar y dawnswyr ac yn crynhoi eu sylw ar y dis bach du a gwyn a daflwyd gan y naill ar ôl y llall ar y bwrdd.

Mae'r holl elfennau yr oedd Y Gohebydd yn sôn amdanyn nhw i'w gweld yn y casgliad yma o ysgrifau gan newyddiadurwyr a ffotograffwyr ond, fel crwbanod yn cario'u cartrefi ar eu cefnau, mae llawer o'r drafodaeth ynghylch Cymreictod, neu ddiffyg Cymreictod, y gwaith.

Yr union haneswyr hyn, a drodd eu cefnau ar yr olwg Hen-Destamentyddol ar hanes, a ddechreuodd ymosod ar y chwedlau drwy ba rai yr oedd historiwyr gwahanol genhedloedd wedi cuddio'u hanwybodaeth am eu dechreuadau.

â'u gynau ar eu hysgwyddau, a'u knapsacks ar eu cefnau, yn cynnwys eu pob peth hwy, druain!

I ffwrdd â mi i chwilio am blatfform un deg pedwar, yn cario cesys, a'm dau ges bach yn trotian yn tu ôl i mi, y ddau'n falch iawn o bobo rycsac ar eu cefnau yn cynnwys eu pyjamas ac ati.

Deallodd Jock a minnau yr arwydd bron yr un pryd, a brysio i ateb fel deuawd, "Dim cythral o berig." Yna troi ein cefnau, a chymryd arnom nad oeddem wedi ei gweld.

Am y tro cyntaf er pan gyhoeddwyd y stamp cyntaf yn 1839 bydd stamps syn sticio heb lud-y-maen-rhaid-ei-wlychu ar eu cefnau yn cael eu gwerthu ddechraur flwyddyn newydd.

Ond ar y cyfan, gwaredigaeth i Mali oedd gweld eu cefnau a doedd neb yn falchach na Robin o'u gweld nhw'n mynd.

Mor dda hefyd y cofiai ei chyfnither, Anna Maria, merch ei Hewyrth Joseph y ddwy ohonynt ar lawnt fechan Trefeca Isaf yn gorwedd ar eu cefnau i weld y sêr a'r lleuad trwy delesgop rhyfeddol ei hewyrth, wedi eu swyno gan ddirgelwch peiriant a fedrai dynnu'r sêr a'r nef ei hun mor agos atynt.

Tybed nad ydyn nhw, wedi iddyn nhw gael ein cefnau ni, yn mynd i'w hystafelloedd, yn cloi arnynt eu hunain, ac yn cael ffit orffwyll o chwerthin þ am ein pennau ni?

Dyna felly a gaed yn y ddrama - dilyn hynt a helynt dwy chwaer oedd wedi troi eu cefnau ar ei gilydd ers deng mlynedd ac yn dychwelyd i ymweld â'u mam oedd yn dioddef o afiechyd.

Credaf mai ein tŷ ni a'r tŷ nesaf i lawr oedd y tai hynaf yn y stryd, a'u cefnau'n wynebu ar ryw fuarth a stabal ar gyfer hanner dwsin o geffylau.

Roedd y brithyll yn yr afon yn dywyllach na rhai o afonydd eraill, ac yn fwy melyn odanynt a'r smotiau ar eu cefnau yn goch tywyll.

Y ffasiwn ddiweddaraf ynoyw mewnforio crocrotsus o Fadagasgar ac ar ôl glynu darnau o grisial ar eu cefnau eu defnyddio yn froestsus byw gwerth £69 yr un.

Anghofia' i fyth ychwaith y wefr yn un o wersylloedd mwyaf anghysbell y Cwrdiaid o weld milwyr ifainc yn rhoi eu gynnau ar eu cefnau ac yn cario'r hen, y musgrell, y claf, gwragedd beichiog a babanod i hofrenyddion i'w cludo adref.

Dywedodd Huw Lewis un o arweinwyr y cerddwyr, ' Hyd yn oed os yw'r prinder tanwydd yn golygu fod llai o bobl yn gallu teithio i Gaerdydd i ffarwelio â ni, ac hyd yn oed os collwn ni ein cerbyd wrth gefn, fyddai yn ein gorfodi i gario ein holl baciau ar ein cefnau, yr ydym yn benderfynol o fynd yr holl ffordd i Lundain.