Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cefnog

cefnog

Yr ydym yng Ngwern Hywel, cartref yr unig deulu cefnog yn Ysbyty Ifan sy'n perthyn i'r Methodistiaid.

Ar gwahaniaeth cymeriad hwn yw sail y gred yn Westring, a rhai trefi eraill sy'n rhyddfrydol eu barn, ei bod hi'n wahanol i'r chwiorydd eraill sy'n denu Samsoniaid cefnog i'w parlyrau o flwyddyn i flwyddyn.

Y mae rhannau helaeth o'r wlad heb na thrydan na dwr tap o hyd; ar wahân i'r aelwydydd cefnog, mae'r gweddill yn defnyddio glo i goginio, mangl wrth wneud y golch, a'r ciosg ar fin y ffordd os am wneud galwad ffôn.

Wel ydi, mae pawb hefo tractor, a chlymu fferm wrth fferm, ffermwyr cefnog yn awyddus i gael gafael ar y tir ac yn barod i adael i'r hen fythynod fynd er mwyn cael byw yn y cymoedd, gan bicio i fyny bob hyn a hyn mewn cerbyd neu dractor neu rywbeth.

Ymlwybrai ei phartner ar ei hôl, ffermwr cefnog o ochr y Bala, yntau'n goch ei wyneb a choch ei lygaid.

Mae hynny ynddo'i hun yn arwyddocaol; mae'n ein gwneud yn ymwybodol o'r tyndra rhwng y grefydd 'newydd' a'r hen fywyd, ac yn pwysleisio mai mudiad gwerinol yw Methodistiaeth, ond ein bod ni yn y nofel yng nghwmni arweinwyr y mudiad - teulu cefnog Gwern Hywel (ac i Saunders Lewis y dosbarth pendefigaidd hwnnw, uchelwyr mawr neu fach, yw'r rhai sydd a'u gwreiddiau ddyfnaf mewn hanes), a'r uchelwyr newydd - y gweinidogion.

Yn nyddiau ei fri yr oedd yn abaty cefnog a dim ond Abaty Margam yn gyfoethocach nag ef.

Canlyniad hyn fu cyfodi o blith y gwŷr rhyddion Cymreig, nad oedd ganddynt at ei gilydd ond ychydig aceri ar eu helw er gwaethaf eu hachau urddasol, ddosbarth o ysgwieriaid llawer mwy cefnog, a elwir yn aml yn uchelwyr.

Dilynodd rhaglen radio griw o Wyddelod cefnog i ffair tai haf yn Sbaen achos nid ar y Saeson a'r Almaenwyr y mae golwg marchnatwyr tai Sbaen bellach ond at wlad Sean, Michael a Paddy.

Hon oedd un o'r teithiau awyr uniongyrchol cynta' i mewn i'r wlad; o'n cwmpas ar yr awyren, roedd ambell Lithuaniad cefnog a haid o bobl fusnes o'r Gorllewin yn barod i chwilio am ddêl.

Fe glywais John Rowlands, Ty'n Cae a'i lais addfwyn a rhyw awgrymiad o chwerthin y tu ol iddo, yn dweud ei fod o'n cael mwy o hwyl o fywyd na'r cefnog.

Mae'n siwr gen i mai'r teulu yma oedd yr un mwyaf cefnog yn y Cwm yn y blynyddoedd hynny.

Wedi rhoi'r gorau i ffermio a mynd yn drethwr, bu fyw yn llawer mwy hapus ac yn eithaf cefnog ei fyd, ac roedd ei swydd yn caniata/ u iddo gryn hamdden gyda'i lyfrau; ac ni fu neb yn caru llyfrau fwy.