Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cefnogaeth

cefnogaeth

Dymunwn yn dda i Emyr a Massie yn y ddinas dros y Fenai, diolch am eich cwmni a'ch cefnogaeth, mae eich myned yn golled i'ch cymdogion ym Mhorthllechog.

Ers dros dwy flynedd buom yn casglu enwau ar ddeiseb fawr dros Ddeddf Iaith Newydd -- dewch i Gaerdydd i'w chyflwyno i'r Cynulliad ac i ddangos cefnogaeth i'r galwad.

Dylai'r Cynulliad sicrhau cefnogaeth ariannol digonol i brosiectau diwylliannol cymunedol fel bod cyfle i ddiwylliant a chelfyddyd ffynnu ar lefel gymunedol yn ogystal â chenedlaethol.

Dymuna Olwen Rees Jones, Danolfan, Wern, Trefnydd casgliad at y Groes Goch yn Llanfairpwll yn ystod wythnos y Groes Goch ym mis Mai ddiolch i drigolion Llanfairpwll am eu cefnogaeth i'r gronfa ac i ddiolch yn arbennig i'r holl gasglwyr am eu gwaith ardderchog.

Mae cefnogaeth swyddogol iddynt – mae cyngor tref Carhaix wedi trefnu i 6 o'r Basgiaid gael ty cyngor.

Cefnogaeth eang ledled Cymru (71%) i ddefnyddio'r Gymraeg.

Daeth nifer o rieni'r plant i wrando arnynt a diolchir iddynt am eu cefnogaeth.

Trueni na chaent lawer cynhesach cefnogaeth gan gorff mawr yr eglwysi.

Yr oedd hyn yn brofiad digon diflas yn aml; llosgi ystafell mewn neuadd neu ysgol mewn pentref, penodi dyddiad a threfnu siaradwr; hwnnw weithiau'n tom'i gyhoeddiad ar y funud olaf ac nid oedd dim amdani ond mynd yno fy hun a chyhoeddi neges y Blaid cystal ag y gallwn Ni chaem fawr ddim cefnogaeth mewn aml ardal, ychydig a ddeuai i'r cyfarfodydd a drefnid - rhyw hanner dwsin a llai na hynny yn aml ac weithiau neb yn troi i fyny.

eu cymorth a'u cefnogaeth a mynegodd ei bleser ar gael cysylltiad mor glos a'r cwmni%au yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd yr Is-bwyllgor Cymraeg.

PENDERFYNWYD datgan cefnogaeth i lythyr Mr Cynog Dafis AS

PENDERFYNWYD (a) Datgan cefnogaeth i bryderon Clwb Chwaraeon Madog.

PENDERFYNWYD (i) Datgan cefnogaeth i'r bwriad i benodi Swyddog Rheilffordd Cymuned er mwyn datblygu marchnadoedd newydd a hyrwyddo marchnadoedd presennol.

Cefnogaeth ariannol i hybu diwylliant ieuenctid Cymraeg.

Mae'r cwmni'n obeithiol iawn y bydd y fersiwn nesaf yn cynnwys cefnogaeth i'r iaith Gymraeg.

Mae sawl un amlwg wedi datgan eu cefnogaeth i'r ymgyrch.

Yn wir, y mae nifer dda o deulu'r Gornel wedi addo'u cefnogaeth eisoes, ac er mwyn penderfynu'r mater, a fuasai yr awgrymiadau sydd yn dilyn yn unol â dymuniadau'r lliaws?

Hoffwn fanteisio'n arbennig ar y cyfle hwn i ddiolch i ddau o'n haddysgwyr amlycaf, yr oedd y Gymraeg yn agos iawn at eu calonnau, am eu cyngor cadarn a'u cefnogaeth barod i waith y pwyllgor ar bob achlysur, sef Mr Illtyd Lloyd (Prif Arolygydd Ysgolion Cymru a ymddeolodd yn gynt eleni) a Mr Gareth Lloyd Jones (Ysgrifennydd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru a fydd yn ymddeol ddiwedd Awst).

Hyderwn y bydd cyhoeddi'r ddogfen hon -- law yn llaw â dulliau eraill o weithredu -- yn sbarduno trafodaeth ac yn ennyn cefnogaeth i ddeddfu er mwyn gosod seiliau cadarn i ddatblygu'r iaith Gymraeg yn iaith genedlaethol, fyw i Gymru gyfan fel rhan o'r broses ehangach o ddemocrateiddio ein gwlad.

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn danfon copi o'r neges at bob aelod o'r Cynulliad yn gofyn am eu cefnogaeth i wyrdroi'r penderfyniad Mi fyddant yn penderfynu wedyn ar unrhyw gamau pellach yn yr ymgyrch.

Mae'r ysgol yn gwerthfawrogi eich cyfraniad a'ch cefnogaeth.

Dichon nad oes cefnogaeth sylweddol i'r cynlluniau hyn yn Iwerddon ac y mae'r blaid yn dioddef oherwydd ei hamharodrwydd i gefnu ar drais.

Fel y dywed Hywel Evans, 'Rydan ni'n rhoi cyfle a cefnogaeth iddyn nhw - help llaw, nid y cotton wool a'r gofal...

Bydd eu cefnogaeth yn hynod bwysig pan fyddwch yn dychwelyd o'ch lleoliad.

A diolch yn fawr i Emlyn a Mair am gofio amdanom, diolch am eu cefnogaeth.

Merched Fflint yn amlwg yn cael cefnogaeth a chymorth gwerthfawr.

Rhaid i'r Cynulliad sicrhau cefnogaeth ymarferol ac ariannol digonol i sefydliadau a chyrff holl gymunedau Cymru fedru gweithredu yn ôl yr egwyddor o ddwyieithrwydd naturiol. Pwyllgorau Pwnc a'r Dull Rhaglen

Dylai'r Cynulliad ddatblygu ffyrdd newydd o hybu diwylliant ieuenctid byw yn y Gymraeg a'r Saesneg trwy gryfhau cefnogaeth i bobl ifanc gymryd rhan mewn cyhoeddi ac adloniant.

Diolchodd y Llywydd i bawb am eu cefnogaeth, cafwyd noson gymdeithasol hynod o lwyddiannus a bonws oedd yr elw sylweddol a wnaethpwyd.

Mae'n hymgyrchoedd yn rhai sydd angen cefnogaeth nifer o bobl i gyrraedd eu potensial ac mae yna o hyd ddigonedd o waith i'w wneud yn y maes.

Syniadau ar sut i gael cefnogaeth ac ennill gwobr Ceisiwch gael cymorth eich teulu a'ch ffrindiau; eich partner, plant, mam, tad, chwaer, brawd, ffrindiau, cyd-weithwyr - unrhyw un, ond ceisiwch gael rhywun i arwyddo'ch cytundeb.

Mewn cyfarfod cyhoeddus drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Ngwesty'r Angel Caerdydd nos Fawrth Mai 16eg - cyfarfod i lansio deiseb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith Newydd, deddf a fyddai yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg - fe gafwyd cefnogaeth gref gan Elin Jones, llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg, a Christine Humphreys ar ran y Rhyddfrydwyr Democrataidd.

Mae'n mynd i fod yn dynn am yr ail safle - mae Cymru angen ennill a bydd angen pob cefnogaeth arnyn nhw nos Fercher.

Yr olaf ond nid y lleiaf, diolch i Nyffryn, mae eu cefnogaeth i'r Arwydd yn gyson a gwerthfawr ers blynyddoedd, y beiro, y ddau droed a'r bwrdfrydedd ar waith.

Fodd bynnag, mae'n hysbys ddigon i Lywydd y Blaid Genedlaethol ddadlau'n daer ac yn llwyddiannus yn erbyn aelodau ifainc a ddeisyfai weld y Blaid yn datgan cefnogaeth i'r Weriniaeth ac i'r Basgiaid, yn dilyn cyrch awyr y Natsiaid yn erbyn Gernica.

Iawn, mae'n hollol amlwg ers tro byd bod Dafydd Êl wedi hen flino ar 'frwydr yr iaith'. Brwydrau pobl eraill ar draws y byd dros ryddid a chyfiawnder -- dim problem; rhaid yn wir iddo ddangos cefnogaeth (darllener ei genadaethau eangfrydig a thrawswladol yn ei golofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg). Ond, jyst am fod Dafydd Êl wedi penderfynu ei fod am optio allan o'r broses drafferthus honno o greu trefn newydd yng Nghymru a 'hyrwyddo' chwyldro yn hytrach na bocsys te dwyieithog, yna does bosib bod disgwyl i'r gweddill ohonom lyncu gweledigaethau ffantasïol a thra cyfnewidiol y cyn-gefnogwr streiciau dros hawliau gweithwyr a chym-unedau a symudiadau ymgyrchol/protestgar cyffelyb.

Rhoddwyd cefnogaeth ysgubol i'r Bloc que/ be/ cois gan gyfran helaeth o boblogaeth Que/ bec gan wybod mai nod gwleidyddol y Bloc yw sofraniaeth i Que/ bec.

Mae polisi%au ysgol-gyfan yn cael eu hategu gan gyfarwyddyd sy'n galluogi athrawon i adnabod, asesu a darparu cefnogaeth ar gyfer anghenion unigolion, ac yn galluogi uwch-reolwyr a llywodraethwyr i fonitro ansawdd y ddarpariaeth.

Mewn llythyr at Nick Bourne AC (Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad) mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Torïaid i atal eu rhagrith o roi cefnogaeth mewn geiriau i ysgolion gwledig tra bod eu polisïau yn eu tanseilio.

Tybed a fyddai wedi rhoi'r ffidil yn y to oni bai am eu cefnogaeth hwy?

Mae'r trefnwyr yn beio'r tywydd garw a diffyg cefnogaeth yr awdurdodau lleol.

Ond o gofio fel y mae ffwndamentaliaeth Foslemaidd yn ennill cefnogaeth gynyddol mewn llawer rhan o'r byd, hwyrach y gallwn sylweddoli fod adegau pan geir miloedd o bobl yn cofleidio disgyblaeth chwyrn.

teithiodd y ddau ohonynt i'r ddinas honno cyn hynny er mwyn trefnu'r cyfan ac i geisio sicrhau cefnogaeth senedd y wlad i'w bwriad.

Fe awgrymodd un o ddatgeiniaid eiddgar Godre'r Aran fy mod i yn ei galw, ac nad amheuai na chawsid cefnogaeth iddi.

Mi fu Microsoft, Bwrdd yr Iaith a Phrifysgol Cymru Bangor yn cydweithio am chwe mis i weld sut y gellir ychwanegu cefnogaeth Gymraeg i Microsoft yn y dyfodol.

Bu Ffrainc yn ddyfal iawn yn canfod tywysogion fyddai'n rhoi eu cefnogaeth i Bab newydd Avignon.

Bwriad y wefan yma yw cynnig cefnogaeth ac ysgogiad i bobl sy'n gweithio tuag at gymhwyster NVQ Lefel 4 mewn Rheoli.

Mae John Towers, cyn-bennaeth Rover, wedi derbyn cefnogaeth swyddogion undeb y cwmni.

Yr her i bob un ohonom wrth daflu'n rhwyd ymhellach, a thrwy wneud hynny herio rhai confensiynau ceidwadol Cymreig, yw ceisio cyrraedd y grŵp sylweddol hwn o Gymry Cymraeg a cheisio denu eu cefnogaeth yn araf bach i weithgareddau ac adloniant yn yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Carol Owen, llefarydd ar ran y symudlad fod yr wylnos yn ffordd o ddangos cefnogaeth i waith y gangen yn Llangefni.

Gallai Cela Trams redeg y lle, a thalu cyfran go dda o'r elw i'r Trysorlys: byddai hynny'n siŵr o ennill cefnogaeth y Canghellor a hawdd fyddai darbwyllo'r bobl y byddai N'Og mor gyfoethog o hyn ymlaen fel y gallai pawb wledda ar fwydydd llawer mwy blasus a maethlon na wynwyn.

Roedd y canlyniadau'n cadarnhau fod cefnogaeth gadarn ac eang i'r iaith drwy Gymru benbaladr, ynghyd ag awydd i weld cynnydd mewn defnyddio'r Gymraeg yn gyffredinol.

Badshah, Moslem wedi troi'n Gristion, i Maulvi Bazaar a chael cefnogaeth frwd gan Pengwern; mynnai Pengwern hyd yn oed ei ordeinio'n weinidog.

Mae'n rhaid cydnabod ar yr un pryd fod cyfleoedd sylweddol ar gael yn yr Undeb Ewropeaidd i sicrhau cefnogaeth ariannol ac ymarferol drwy gysylltu'r Gymraeg â byd gwaith a datblygiadau cymunedol.

Mae'n bleser calon gennyf fynegi pob cefnogaeth i'r Gymdeithas yn eu hymgyrch dros gryfach Deddf Iaith i Gymru.

Ac efallai oherwydd hyn, ymddengys mai tuedd oedd i'r rhan fwyaf o aelodau ifanc y Gymdeithas symud i ffwrdd nid yn unig o weithredu fel ffordd o gadarnhau eu cefnogaeth i frwydr yr iaith ond i ymbellhau oddi wrth y mudiad ei hun wrth iddynt ymbarchuso.

Rhoddwyd cefnogaeth i sefydlu Cymdeithas Alzheimers yng Ngwynedd drwy helpu gyda theipio deunydd, postio llythyrau a chwilio am fannau cyfarfod addas.

Rhoddir cefnogaeth weinyddol i gyfarfod o weithwyr sydd ynglyn a gwirfoddolwyr o bob rhan o ogledd Cymru.

Ychydig fisoedd ynghynt, roedd Laima Andrikiene wedi dod i Aberystwyth i gyfarfod cyhoeddus i geisio crynhoi cefnogaeth.

Er mwyn sicrhau cefnogaeth eang i'r ymgyrch rydym yn lansio deiseb genedlaethol.

Diolchir i chwi am eich cefnogaeth a'th gwaith caled.

ARIAN I'R ARWYDD: Fy niolch personol i Ferched y Wawr, Rhosmeirch am eu croeso ac am eu cefnogaeth i'r Arwydd.

Mae Maes yr Arian yn ddi-feth yn eu cefnogaeth i'r Arwydd a gwerthfawrogwn hynny a'r ymlyniad teyrngar wrth Fro Goronwy.

Wel, cefnogaeth eang led-led Cymru ar ddefnyddio'r Gymraeg (71%). Cytundeb eang y dylai Cymraeg a Saesneg gael statws cyfartal yng Nghymru (75%). Cytundeb eang ar bwysigrwydd addysg Gymraeg (80%). Cytunai 83% y dylai pob corff cyhoeddus allu delio â phobl yn y ddwy iaith.

Mae pryder gan nifer o gwnmiau am safonau y cnau pys (peanuts) a fewnforir ar gyfer bwyd i adar gwyllt, wedi arwain at sefydlu'r Gymdeithas Safonau Bwyd Adar (y BSA), sy'n derbyn cefnogaeth a chyngor gan y Gymdeithas er Gwarchod Adar a'r Ymddiriedolaeth Adareg Bryneinig.

Miloedd yn streicio am chwarter awr i ddangos eu cefnogaeth i'r gweithwyr ambiwlans.

Onid oedd yn dderbyniol ganddyn nhw, ni byddai'n rhaid iddo boeni mwy, ond os gwelai fod y Casino'n cael cefnogaeth gadarn, wel dyna'r amser iddo ef roi ei big i mewn.

Lloyd George yn apelio ar Gyngres yr Undebau Llafur i roi cefnogaeth i streicwyr y Penrhyn.

Pwysau canolog ar Rod Richards; Crynhoi cefnogaeth dros Gyngor Addysg i Gymru. Cyhoeddwyd a dosbarthwyd poster 'Rod Richards - Unben Addysg Cymru' angen eu codi'n ehangach.

Puw a Watcyn o Feirion yn frwd yn eu cefnogaeth o'r fenter.

Y pwyslais yno yw cydweithio a derbyn cefnogaeth sirol yr awdurdod lleol am wasanaethau na allai ysgolion bach unigol fforddio eu prynu.

Ofnai rhai mai cynllwyn ydoedd cefnogaeth y Blaid Rhyddfrydol er ceisio marchogaeth ar gefn y farn gyhoeddus a oedd yn prysur gryfhau o blaid Senedd; "Cast etholiadaol ydyw%, meddai Saunders Lewis gan gyfeirio'n amlwg at yr etholiad cyffredinol a oedd ar ddod, a mynnai rhywun fod yn Rhyddfrydwyr yn bwriadu defnyddio Cymru er mwyn eu plaid a Phlaid Cymru am ddefnyddio'r Blaid er mwyn Cymru.

Eithr yn y bleidlais ni chawsant y nesaf peth i ddim cefnogaeth gan Saeson.

(d) Lleihad mewn dylanwad yn yr Alban a Chymru, ble gallai cefnogaeth leol i ddatblygiadau dinistriol, e.e.

Apeliodd y gweithgaredd newydd yma at ddychymyg yr aelodau ledled y Sir a chafwyd cefnogaeth a llwyddiant hefyd.

Hyn i raddauhelaeth oherwydd cefnogaeth frwdfrydig y papurau bro.

Yn yr anobaith parhaol hwnnw y magwyd cefnogaeth i Saddam Hussein.