Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cegin

cegin

Roedd y cyfreithiau Cymreig yn gorchymyn i weision y brenin godi naw tŷ, gan gynnwys neuadd, ystafell wely, cegin, capel, ysgubor, odyn, ystabl, bragdy a thŷ bach, ar gyfer eu harglwydd.

Fydd dim angen llawer o bethau arbennig arnoch ar gyfer yr arbrofion; mae'n debyg y byddant ar gael yn eich cegin gartref.

Dyna pam roedd Sydna, y forwyn fawr, yr eiliad honno, ar riniog y drws ffrynt yn ceisio boddi y gofid â'i chroeso a'r hwsmon, Obadeia Gruffudd, ar ei liniau ar lawr cegin y gweision yn chwilio am feddyginiaeth wahanol.

Gellwch chwi wneud dangosydd i ddangos pa rai yw'r asidau a'r alcaliau yn eich cegin.

Nawr, roedd ganddyn nhw lolfa, ystafell fwyta, tair ystafell wely, cegin a thy bach.

Penodwyd Mrs Blodwen Williams yn gogyddes mewn gofal a Mrs Gwyneth Jones yn ygmhorthydd cegin.

Roedd ynunion fel cegin ffermdy - dresel, cwpwrdd tridarn, tan agored mewn basged haearn bwrw hanner ffordd i fyny'r wal, a goginiai gigoedd a physgod mewn dull barbiciw, crogai anferth o iau bren ar wal arall ynghyd a phob math o daclau gwneud menyn.

Mewn un angladd wrth ddarllen Salm y Bugail, fel hyn y traethodd y doctor: 'le, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf newid' (Pan dery angau, un wedd ar y brofedigaeth yw'r newid sy'n digwydd i'r holl dŷ mewn cegin a pharlwr a llofft, newid sy'n syfrdanu.) Ni wn ai o fwriad ai trwy ddamwain y rhoes y meddyg dro mor annisgwyl i'r gair, ond roedd ei glywed yn gynhyrfus o newydd: 'Nid ofnaf newid.' Roedd Doctor Jones yn ŵr pur grefyddol ei natur, ac ar ambell Sul byddai'n pregethu hwnt ac yma yn eglwysi'r fro.

Gallai osgoi gorfod eu bwyta nhw trwy bledio'u bod yn anghytuno ag ef, a gallai gadw allan o bob cegin a phob gardd fel nad oedd raid iddo eu gweld.

I gael blas da dylid eu sgwrio'n dda, eu lapio mewn foil cegin a'u crasu am oddeutu dwy awr.

Cegin heb ddim ynddi ond potel nwy a bwrdd i ddal y llestri.