Adeg gwyliau, ceid 'Digawn o'i fawrddawn i feirdd'; 'Modur beirdd a neuadd' ydoedd, medd Casnodyn, a 'hyladd beirdd' oedd dwyn 'rhen llen a llyfrau'.
Ceid eraill a oedd o blaid gweithredu uniongyrchol.
Yn yr ail ran hon, ceid cutiau bychain crynion ag arnynt do o wellt neu frwyn byddai eu lloriau'n is na'r ddaear oddi amgylch er mwyn cadw'r tŷ'n gynnes ac o afael y gwyntoedd.
Mae'r darnau hynny o'r Fwlgat a adawyd allan gan Feibl Mathew am nas ceid yn yr Hebraeg a'r Groeg wedi eu hadfer, ond mewn teip mân a'r tu fewn i gromfachau.
A Rachel druan yng nghaledi ei gweddw-dod ifanc yn dafodrydd ei hatgofion ac yn ail-flasu'r bywyd oedd arni yng nghegin Y Plas lle ceid cig eidon a reis berw a chaws a bara cartref, - er taw bara du oedd hwnnw, meddai mam.
Ceid ym mynachlogydd Margam a Nedd hen weithredoedd o bob math a chofnodion megis 'The Register of Neath', yn ogystal a chroniclau, fel y gwyddys.
Yn ystod y gaeaf oer diwethaf gawsom ni oedd hi, ac yn ystod rhyw bythefnos neilltuol o oer, roeddwn i, ac amryw byd o rai eraill gallwn feddwl, wedi dod o hyd i gornel gynnes mewn tafarn diraen ynghanol y ddinas lle ceid bob amser cinio danllwyth o dân ar lawr.
O dan yr ymagweddu hwn ceid cronfa o ragrith siofenistaidd a ganiatâi ryddid, os nad penrhyddid, i ddynion, ond a gollfarnai'n chwyrn a diarbed unrhyw ferch, boed honno'n briod neu beidio, a hawliai'r un rhyddid iddi'i hun, neu a syrthiai'n ysglyfaeth i ysfa rywiol dyn.
Ceid Cymry ymhlith lladmeryddion y syniadau radicalaidd - pobl fel Richard Price, Morgan John Rhys,Tomos Glyn Cothi, David Williams a David Davies, Treffynnon.
Ceid yr arferion hyn ymysg y dosbarth gweithiol a rhai rhywfaint yn well eu byd.
Yma hefyd ceid canolfan fawr filwrol.
Ceid rhyw genedlaetholdeb ymhlith y gwyr mwyaf eithafol yn y mudiad Phariseaidd ac yn y mudiad bedyddiol a gynhwysai gymuned Qumrân.
Ceid cyfnodau, fel yn Oes Victoria, pan oedd y ffydd yng ngallu'r gwyddonydd ac yng ngallu'r dechnoleg a ddibynnai ar ei waith i ddatrys problemau cymdeithas ac arloesi byd newydd paradwysaidd, yn uchel ei phen.
Dyma fan lle ceid ffatri fawr Skoda, gyda miloedd yn cael eu cyflogi yno.
Gwyddai Ynot Benn a Dik Siw yn dda y byddai'n ben ar wynwyn yn N'Og unwaith y ceid gwared a'r Lotments.
PENDERFYNWYD (i) Gohirio gweithredu rhybudd gorfodaeth hyd nes y ceid tystiolaeth ddigonol bod datblygiad anawdurdodedig yn cymryd lle ar y safle.
Ymhlith Bedyddwyr y De ceid gwrthwynebiad o fath gwahanol i'r dylanwad Efengylaidd a'i Galfinyddiaeth.
Pe ceid neges neu alwad ffôn yn honni bod bom wedi'i gadael ar eiddo'r Gymdeithas (h.y mewn swyddfeydd, hostel) a bod y neges yn ymwneud â'r adeilad hwnnw, yna mae'n rhaid gwacau'r adeilad ar unwaith yn unol â'r trefniadau ar gyfer tân.
Ceid bron hanner cant yno pan oedd lawnaf a'r rheini, o leiaf yn nechrau'r drydedd ganrif ar ddeg, yn cadw rheolau disgyblaeth yr Urdd Sistersaidd yn fanwl.
Eid ar bererindodau i eglwysi lle y ceid delwau enwog o Grist neu o Fair neu lle y cedwid gweddillion saint.
Ar yr un pryd, ceid llawer o swyddi cyffredin mewn tref a phentref lle defnyddid y Gymraeg yn gyson fel cyfrwng naturiol cyfathrebu, megis mewn siop, gweithdy a swyddfa.
Rhannodd y Rhyfel Cartref yn Sbaen bob gwlad a chenedl lle ceid gwrthdaro rhwng Gwrthryfel ac Adwaith.
Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.
Ceid ynddynt gadarnhad o'r hyn a wyddai'r Dirprwywyr dros Godi Eglwysi a'r Gymdeithas Adeiladu Eglwysi, bod diffygion argyfyngus yr eglwys a'r ysgolion yn nodweddiadol nid yn unig o ardaloedd dinesig, ond yn gyffredin trwy ardaloedd gwledig Lloegr a Chymru.
Ceid ambell ysgrif addysgiadol, fel yr un ar fywyd yr Athro E.
Dillad yn arwydd o newid delwedd y ferch: 'roedd sgertiau'n uwch na'r ben-glin, ond nid cymaint yng Nghymru lle ceid agweddau cymdeithasol mwy ceidwadol.
Yn ychwanegol at y rhain ceid yr 'ysgolion paratoi', rhai ohonynt yn enwog ac yn dda, yn hyfforddi disgyblion ar gyfer mynd rhagddynt i dderbyn addysg uwchradd mewn coleg.
Ond ceid achosion lle 'roedd yr anghredadun yn gwrthod cyd-fyw gyda'r Cristion.
Ceid enghraifft nodedig ymhlith y Waldensiaid, rhai o hereticiaid y ddeuddegfed ganrif.