Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ceiniog

ceiniog

Rydw i wedi synnu..." "Rhaid i mi edrach yn llygad pob ceiniog, beth bynnag, a minna ar fy mhensiwn.

Yna os ewch chi o gwmpas trwyn y Mwmbwls i lawr i fae Bracelet gallwch gasglu esiamplau o ffosil gwymon môr sy'n edrych yn debyg i ddarnau deg ceiniog crwn ar y creigiau ger gorsaf gwyliwr y glannau.

Roedd yn ddyn digon croesawgar a chawsom bryd blasus a sgwrs mewn Chinese am 6 kuai (50 ceiniog ballu).

'Yr wyf yn cofio yn dda un prynhawn Sadwrn pai yn yr haf,' meddai, 'bod fy ewythr Dafydd Caeglas, yr hwn oedd yn ddyn effro a blaenllaw iawn gydag addysg yn yr ardal, yn sefyll yn nrws yr offis ac yn cynnig fod y gweithwyr yn talu ceiniog yn y bunt at roi ysgol i'r plant.

Yn ôl y drefn arferol, roedd pawb oedd wedi mynd ar y trip wedi cyfrannu ychydig o newid mân 'fel cydnabyddiaeth i'r dreifar', ac rwan fod pawb arall wedi disgyn o'r bws oddi allan i'r post, fe estynnodd Elsie Williams y cwbl i Elfed: swp o ddarnau dwy geiniog a phum ceiniog ac ambell bisyn deg wedi eu casglu mewn pecyn marjarîn oedd yn dal i gynnwys ychydig friwsion ar ôl brechdanau rhywun.

Fe amcanir y dylai pawb fwyta, dros gyfnod o bum mlynedd, yr un faint o gopr â sydd mewn hanner ceiniog newydd.

Dipyn o gamgymeriad oedd talu deg ceiniog am ddod i'r fath le.

Dau hanner can ceiniog...

Beth bynnag, yn swyddfa plaid genedlaethol yr Alban - yr SNP - yn y senedd yng Nghaeredin gosodwyd blwch rhegi gydag aelodau yn talu rhwng pump ac ugain ceiniog o ddirwy gan ddibynnu ar y rheg.

Tair ceiniog oedd pris y llyfrynnau fel arfer, ond mae'n anodd iawn gwybod sawl copi o bob rhifyn a argreffid.

Yr oedd tlodi'r wlad yn ei gwneud yn amhosibl i filoedd hepgor yr amser i'w plant gael addysg am flynyddoedd; yr oedd pob ceiniog a enillai'r plant wrth weithio ar y ffermydd ac yn y gweithfeydd yn help i ysgafnhau cyni'r teulu.

Yn ei ddyddiau cynnar yn y fusnes roedd yr arian yn brin iawn a phob ceiniog yn cyfri.

Gorweddai dau bisin hanner can ceiniog yn glyd yn y gwaelod, a digon o le i rai eraill fel y deuent.

Ar gael ci yr oedd ei fryd; am gi y breuddwydiai ac er mwyn prynu ci roedd o'n cynilo pob ceiniog a gâi.

Yna dywed ei hanes yn mynd i'r farchnad gyda'r Capten i brynu bwyd a'r Capten yn bargeinio gyda'r cigydd faint i dalu am ben dafad a thalu deg ceiniog am hwnnw.

Onid y cwmniau a oedd yn gobeithio gwneud ceiniog mor sydyn o'r fenter a ddylai ysgwyddor gost a a sefyll eu colled.

Roedd yn werth cant ag ugain ceiniog, sef dwywaith cymaint â buwch.

Rhaid fyddai gwneud negeseuon i ennill ceiniog neu ddwy, ac ni fyddai dydd penblwydd yn golygu fawr ddim.

Collasai naw ceiniog yn y farchnad, ac nid oedd am dalu'r trên o Lechfaen ac yn ôl eto yfory.

Yn ôl y cymdogion mi fyddai o'n neidio allan o flaen ceir ac yn mynnu bod y gyrrwyr unai'n rhoi ceiniog neu felysion iddo.

Ar yr wyneb, fe fydd y filltir neu ddwy nesa' trwy fideoland Sgiwen yn cadarnhau rhagfarnau: Does yna ddim byd o werth yng Nghwm-nedd heblaw am y rygbi - a byddai Crysau Duon Gareth Llewelyn yn glwb ceiniog a dime heblaw am gyfraniad ffermwyr ifanc cyhyrog Cymraeg o sir Benfro.

Y tal a gawsem oedd chwe cheiniog am fynd rownd y cwrs naw twll a thair ceiniog, gan amlaf o gildwrn ar ben hynny.

Roedd merch yn eistedd ar fainc ac wrth imi ofyn a oedd ganddi newid o ddeuswllt, dywedodd Brynle, 'He wants to watch trains.' Gyda gwên arbennig i mi, rhoes y ferch bedair ceiniog imi a dweud, 'There you are dear, you go and watch your trains,' fel petai'n ansicr o'm hoed.

'Deunaw oedd gen i ar f'elw, ond fe wnaeth rhyw ddyn yn y farchnad imi brynu hwn gynno fo am naw ceiniog.'

Heddiw, cododd y swm i ddwy bunt a naw deg ceiniog.

Mae'n debyg fod pob copa walltog ohonom wedi gorfod benthyca ceiniog neu ddwy rywbryd yn ystod ein hoes ar gyfer rhyw ddiben neu'i gilydd.

Yr oedd Betsan Hughes yn hoff o blant a byddai yn rhoi ceiniog yn fy llaw bob amser.

Bob wythnos pan ychwanegai'r ugain ceiniog a gâi yn bres poced at y swm oedd yno eisoes, teimlai fod ei freuddwyd ychydig bach yn nes at gael ei wireddu.

Roedd Affos y Brenin yn cynnig gwobr bob wythnos am dri mis o Gan Ceiniog Felen am y wnionyn mwyaf allan o holl erddi N'Og, ac ar ben hynny Fil o Geiniogau Melyn am y mwyaf bob mis.

Edrychodd ar y llyfrau ar y silff, "Taith y Pererin", Y Llyfr Gweddi Gyffredin, llyfr symiau ysgol elfennol a geiriadur Saesneg ceiniog.

Cloriannu'r gyllideb; fedrwch chi ddim gwneud pethau crand efo ceiniog a dimai, mae'n rhaid i chi wneud pethau diymhongar - ond da.

Fe fyddem ni yn talu Clwb Lady Mary Vivien, rhyw dair ceiniog yr wythnos, a'r Lady yn rhoi "bonus" o hanner coron i bob un a cherdyn ganddo, roedd yn help at gael dillad.

Trefnodd y darnau mewn twmpathau bach a'i gael o'n gywir, dwy bunt a saith deg ceiniog yn union.