Ceisiai bob amser wisgo'r ddau blentyn yn fodern.
Pan safai ar ei draed ceisiai ymsythu a cherdded yn union, ond ni allai.
Ceisiai Project yr Armada, a drefnwyd gan Sydney Wignall, ddarganfod safle llongddrylliad Armada y gellid yn rhesymol dybio y byddai'n rhoi gwybodaeth inni am yr Armada na ellid ei chael o unrhyw ffynhonnell arall.
Gwelai wyneb Heledd o hyd, bob tro y ceisiai gau ei llygaid.
Yn ofer y ceisiai Cynnydd ei dileu:
Ceisiai'r santesau eu gorau glas i amddiffyn eu gwyryfdod ac osgoi'r dyletswyddau a ddisgwylid gan ferched yn y gymdeithas seciwlar.
Ceisiai athrawon fel Olwen Davies ddwyn perswâd arnynt i fynd ymlaen i'r ysgol ramadeg yn Aberhonddu, ond - 'Doedd dim shwd beth â'u cael nhw i sefyll yr eleven-plus!
Yn hanes Maelgwn dallwyd ef a'i wŷr gan golofn niwl a aeth gyda Chadog, ac yn hanes Rhun fe'u dallwyd gan fwg a godai o ysgubor y ceisiai gwŷr Rhun ei llosgi.
Yng nghanol y dwr, ceisiai ffoaduriaid gynnau tanau gyda'r ychydig goed oedd i'w cael yn y dref.
Trwy alw ei bobl ei hun at ei chenhadaeth arbennig ymhlith y bobloedd ceisiai ollwng yn achubol rydd ar yr holl ddaear nerthoedd y Deyrnas, y grymoedd yr oedd ef ei hun yn gyforiog ohonynt.
Ceisiai honno ysgymuno'r Wyddeleg yn llwyr allan o fywyd cyhoeddus swyddogol y dalaith.
Ceisiai sugno i'w berfedd y golygfeydd gwibiog, hyd nes y brawychwyd ef gan gip ar gloc talu'r cerbyd.
Ceisiai adnewyddu ffydd ei bobl trwy bregethu efengyl a darddai o'i thraddodiad ei hun: cyhoeddai gyflawniad yr amser a'i egluro trwy sôn am y gobaith yn ysgrythurau ei genedl am oes fesianaidd, oes sanctaidd, a'i chyfiawnder a'i chariad yn amlygu holl angerdd ac arddeliad yr Ysbryd.
Ceisiai'r plant ddweud yr hanes wrth eu rhieni ar draws ei gilydd, bob yn ail a holi'r naill a'r llall am ryw ddigwyddiad arbennig.
Fy nefaid a grwydrasant ar hyd yr holl fynyddoedd, ac ar bob bryn uchel: ie, gwasgarwyd fy mhraidd ar hyd holl wyneb y ddaear, ac nid oedd a'u ceisiai, nac a ymofynnai amdanynt' Yng nghefndir yr adnodau hyn y mae deall holl gyfeiriadau'r Iesu at y genedl fel defaid heb fugail ac ato'i hun fel bugail a darewir a Bugail Da.
Mae Iesu i'w fawrygu am yr hyn ydyw, nid oherwydd yr hyn a gawn ganddo - adlais o gyhuddiad Iesu ei Hun yn erbyn y dyrfa a'i ceisiai, nid am iddynt weld y gwyrthiau ond am iddynt fwyta o'r bara a chael digon.
y ceisiai droi oddi wrthi i feddwl am y bod byw prydferthaf y gwyddai ef amdano - a'i wraig ef ei hun oedd y bod hwnnw.
Ac eto, y tu allan i'r stribedi culion o olau trydan a ddihangai rhwng y llenni duon dros y ffenestri, roedd y byd mawr yn dywyll a dieithr, yn llawn ofnau am yr hyn a ddeuai yfory drwy law'r postman am hynt a helynt plant y plant a aeth i ffwrdd i Affrica, i'r Dwyrain Pell ac i bob man lle ceisiai Prydain Fawr ddal rhyw afael ar ei thiroedd ar hyd a lled wyneb y ddaear.
Perthynai Bowser i deulu a ddeilliai o Swydd Efrog o ardal Castle Howard ond yn araf gwasgarodd y teulu fel y ceisiai'r aelodau ifanc ledu eu hesgyll i chwilio am borfeydd brasach.