Mae arna i ofn gynddeiriog iddi hi setlo acw am 'i hoes." Tra oedd fy nghyfaill Williams yn gorffen y bara-llaeth, ac wedyn yn ysmygu wrth y tân, ceisiasom feddwl am ryw gynllun i yrru Anti Lw ar symud.
Ceisiasom bopeth - twrci mawr a'r holl addurniadau a âi gydag ef, coeden Nadolig nobl a sacheidiau gan Siôn Corn.