Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ceisir

ceisir

Nid un athroniaeth genedlaethol sydd, ond lleng, a'r cwbl y ceisir ei wneud yn yr ysgrif hon ydyw braslunio rhai ohonynt, ac egluro a beirniadu rhywfaint.

Mae nodiadau ymyl dalen ar y llawysgrifau, fel 'ceisir cymhariaeth well' a 'ceisio cael cymhariaeth bwrpasol yma' yn gwrthbrofi hyn, i raddau.

Ar sail astudiaeth o'u llenyddiaeth, ceisir disgrifio'r gorffennol mewnol hwnnw y gellir ei enwi yn feddwl a dychymyg.

Ceisir gwneud hyn trwy sawl dull.

Mewn teledu annibynnol yn arbennig, ceisir sicrhau bod pob aelod o'r tîm yn alluog i wneud gwaith pawb arall, hyd yn oed i wynebu'r camerâu pe bai galw am hynny.

Ceisir esbonio pam y mae hyn yn nes ymlaen.

Ceisir ymdrin â phob un o'r elfennau hyn yn eu tro, gan ddisgrifio'r sefyllfa gyfredol yn y canolfannau, a chynnig ychydig argymhellion ym mhob achos er mwyn cael symud ymlaen yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf neu, lle bo'n ymarferol, yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Yn y ddau waith, yr hyn y ceisir ei ennyn ynom yw'r argyhoeddiad fod y cylch canolog o gymeriadau'n 'iawn', mai ynddynt hwy y costrelwyd prif egwyddorion y traddodiad, a'u bod yn benderfynol o herio gydag angerdd cyfiawn y grymoedd hynny sydd ar fin rhuthro fel cenfaint o foch a sathru'r egwyddorion santaidd.

Ac y mae hynny'n arbennig o wir os ceisir awgrymu pan wersi y gallwn eu dysgu ar gorn yr hanes.

Olrheiniwyd twf a datblygiad yr enwadau ymneilltuol yn nyffryn Aman yn y ddwy bennod flaenorol, wrth fynd heibio, megis, ac yn y bennod hon ceisir dangos sut y magodd y gweinidog a'r pregethwr ddiddordeb mewn llenyddiaeth, ac mewn barddoniaeth yn fwyaf arbennig.